Eglwys Sant Sadwrn, Henllan

eglwys yn Henllan, Sir Ddinbych

Eglwys o'r 11g a ailadeiladwyd yn sylweddol rhwng 1807 a 1809 yw Eglwys Sant Sadwrn, Henllan a saif ym mhen ucha'r pentre bychan hwn. Cofrestrwyd yr eglwys a'r clochdy cyfagos yn Hydref 1950, Gradd II*. Lleolir Henllan yng ngorllewin Sir Ddinbych (cyfeiriad grid SJ023681) - ar groesffordd wledig tua 3 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Dinbych, ar yr hen lôn o'r dref honno i Lansannan. Fel y dywedodd Thomas Pennant yn 1879, nodwedd amlycaf yr eglwys ydy'r bwlch enfawr sydd rhyngddi a thŵr enfawr y clochdy. Ymgorfforwyd ynddi nifer o srwythurau'r hen eglwys, gyda rhai'n dyddio i'r 11g.

Yn y fynwent ceir bedd yr emynydd Hugh Jones, Maes Glasau ac a gofir yn bennaf am ei emyn 'O tyn y gorchudd yn y mynydd hyn', a ddisgrifwyd gan O. M. Edwards fel "yr emyn gorau yn yr iaith Gymraeg." Cyhoeddodd yn ogystal ddwy gyfrol o gerddi ac emynau, Gardd y Caniadau (1776) a Hymnau Newyddion (1797).

Y dyddiau cynnar golygu

Un cyfeiriad yn unig sydd am y sant o'r 7g a roddodd ei enw i'r eglwys hon: Sant Sadwrn, a hynny mewn dogfen a elwir bellach yn 'Chwedl Gwenffrewi' gan 'Robat' o'r Amwythig. Ynddi cyfeiria at Sadwrn a'i fod wedi tywys Gwenffrewi ar ei thaith o Dreffynnon i Wytherin. Mae hyn yn digwydd wedi iddi gael ei merthyru. Mae enw'r pentref ei hun yn cynnwys cyfeiriad at ffurf caeedig ('Llan') 'hynafol, ac mae'n ddigon posib fod adeilad crefyddol wedi bod yma ers dyddiau cynnar Sant Sadwrn. Ceir Llansadwrn ar Ynys Môn a chredir mai yno mae gweddillion y sant.

Ar ddogfen, cofnodir enw'r eglwys hon yn gyntaf yn 1201 ac yna yn 1533, tra'n nodi manylion am dreth. Yn 1201 fe'i disgrifir hefyd fel 'un o gapeli Eglwys Gadeiriol Llanelwy'. Roedd o leiaf dau gapel arall: Tywysog, Sir Ddinbych a Llewenni ('Y Grîn, Dinbych', bellach). Cofrestrwyd yr eglwys yn gyntaf yn 1291.

Hanes golygu

Rhannau o'r eglwys gwreiddiol golygu

Yn y festri mae'r rhan fwyaf o'r olion sydd wedi bod yma ers yr Oesoedd Canol: mae drws y festri, gyda'i fwa nodedig, yn perthyn i'r 14fed ganrif, a oedd yn brif fynedfa i'r eglwys ar un cyfnod; Mae ffenest y festri hefyd yn perthyn i'r un cyfnod, gyda'i dwy chwarel hynafol - a ffenest ochr ddwyreiniol yr eglwys er ei bod wedi'i lleihau cryn dipyn. Yma hefyd ceir piscina ble mae'r offeiriad yn golchi ei ddwylo mewn modd seremoniol - mae'r basin hwn yn mynd yn ôl i tua 1,100, a'r fedyddfaen hitha a'r golofn wyth-ochrog hefyd.

Ailwampiad 1807-1809 golygu

Cyn dechrau atgyweirio'r eglwys yn 1807, to 'shingles' oedd yma, a tho gwellt cyn hynny. Codwyd y to gryn dipyn yn uwch a diflannodd y ffenestri to (dormer) yn llwyr; ceir llun hynod o'r hen eglwys gan Moses Griffith a beintiodd yn 1777. Dymchwelwyd hefyd galeri'r eglwys yn y rhan ddeheuol. Codwyd galeri newydd yn erbyn y fagwyr orllewinol a chostiodd hyn oll £964.

Atgyweirio 1878 - 1879 golygu

Costiodd y gwaith o ailwampio'r eglwys £1,900: codwyd porth y tu allan i brif fynedfa'r ochr deheuol a chaewyd y fynedfa orllewinol ac ychwanegwyd dwy ffenestr newydd a phulpud newydd mewn carreg Stanton - anrheg gan y teulu Heaton. Codwyd y llawr chwe modfedd er mwyn gosod system gynhesu. Mae'n bosib mai o'r cyfnod yma y daw'r to bwaog hefyd. Tynnwyd y plastr oddi ar y wal mewnol a gwelwyd y cerrig am y tro cyntaf; llenwyd y bylchau rhyngddynt.

20fed ganrif golygu

Mae'r eglwys ar ffurf petrual 26.6 wrth 8.8 metr. Yn 1965 symudwyd paneli o 'Neuadd Heaton' Dug Westminster yma i'r fedyddfan. Yn 1896 cafodd yr eglwys gyfan ei hail doi ar gost o £30,000.

Y clochdy golygu

14g. Saif ar ran ucha'r graig, yn uwch na'r eglwys. Mae ei gorneli'n cyfeirio'n union at bedwar pwynt y cwmpawd. Mae'r drws derw'n wreiddiol. Dim ond y to sydd wedi newid ers yr Oesoedd Canol; ail-dowyd y clochdy yn 1844 ac eto yn 1986.

Ffynhonnell golygu

Daw'r wybodaeth yma o lyfryn i ymwelwyr a sgwennwyd gan y Parch. J. P. Phillip Williams, dyddiedig 1998.

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: