Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)
Bardd Cymraeg oedd Thomas Jacob Thomas (13 Ebrill 1873 – 2 Rhagfyr 1945), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Sarnicol. Roedd yn un o feirdd mwyaf poblogaidd ei gyfnod ac yn epigramydd penigamp.
Thomas Jacob Thomas | |
---|---|
Ffugenw | Sarnicol |
Ganwyd | 13 Ebrill 1873 Capel Cynon |
Bu farw | 2 Rhagfyr 1945 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bywgraffiad
golyguGaned Sarnicol ym mhentref Capel Cynon, ger Llandysul, Ceredigion yn 1873. Magwyd y bardd ym mro Banc Siôn Cwilt a chafodd diwylliant Cymraeg a thraddodiadau gwerinol yr ardal honno ddylanwad mawr ar ei waith fel bardd. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac aeth yn ei flaen i fod yn athro ysgol yn Southampton yn ne Lloegr, Abergele ac Abertyleri, ac yn brifathro mewn ysgol ger Merthyr Tudful.
Gwaith llenyddol
golyguYmddiddorai'n fawr yn nhraddodiadau a llên gwerin Cymru, a chyhoeddodd sawl cerdd boblogaidd sy'n seiliedig ar chwedlau Cymraeg. Cyhoeddodd ddeg cyfrol o farddoniaeth yn ystod ei oes gan ddod yn un o feirdd mwyaf poblogaidd Cymru. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Fenni 1913.
Mae ei gerddi poblogaidd yn tueddu i fod yn rhamantaidd a sentimentalaidd braidd, ond ei brif gyfraniad i lenyddiaeth Gymraeg yw ei gerddi byr dychanol, yn enwedig y rhai a geir yn y gyfrol Blodau Drain Duon (1935), sy'n cynnwys ei epigram adnabyddus am Dic Sion Dafydd.
Cyhoeddodd hefyd gyfrol o addasiadau o chwedlau gwerin ei fro, Chwedlau Cefn Gwlad.
Llyfryddiaeth ddethol
golygu- Stori Siaci'r Gwas (1906)
- Odlau Môr a Mynydd (1912)
- Blodau Drain Duon (Gwasg Gomer, 1935)
- Catiau Cwta (Llyfrau'r Dryw 1940)
- Chwedlau Cefn Gwlad (Gwasg Gee, 1944)
- Ar Fanc Siôn Cwilt, golygwyd gan J. Tysul Davies (Gwasg Gomer, 1972). Ysgrifau a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.