Seán O'Casey
Roedd Seán O'Casey (Gwyddeleg: Seán Ó Cathasaigh) (30 Mawrth 1880 - 18 Medi 1964) yn ddramodydd, sosialydd a chymeriad o gryn bwys yn llenyddiaeth gyfoes Iwerddon.
Seán O'Casey | |
---|---|
Ganwyd | John Casey 30 Mawrth 1880 Dulyn |
Bu farw | 18 Medi 1964 o clefyd Torquay |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, sgriptiwr, bardd, llenor |
Adnabyddus am | Within the Gates, Juno and the Paycock, The Plough and the Stars |
Arddull | comedi trasig |
Priod | Eileen O'casey |
Plant | Breon O'Casey |
Gwobr/au | Gwobr Hawthornden, star on Playwrights' Sidewalk |
Gwefan | http://www.seanocasey.co.uk/ |
Bywgraffiad
golyguFe'i anwyd yn Nulyn ar y 30eg o Fawrth, 1880 i deulu tlawd. Bu farw tad O'Casey pan oedd yn chwech oed ac oherwydd nam ar ei olwg prin y cafodd addysg ffurfiol. Gadawodd yr ysgol yn 14 oed a gweithiodd ar y rheilffordd am gyfnod. Priododd yr actores Eileen Carey Reynolds yn 1927 tra yn Llundain ac fe anwyd dau fab ac un ferch iddynt. Bu farw ar y 18fed o Fedi 18ed 1964 yn Torquay, Lloegr.
Gwleidyddiaeth
golyguYmunodd O'Casey efo'r Conradh na Gaeilge yn 1906 a dysgodd rhywfaint o Wyddeleg. Defnyddiai'r fersiwn Gwyddeleg o'i enw, sef Seán Ó Cathasaigh. Cymerodd ddiddordeb yn yr Irish Transport and General Workers Union, dan Jim Larkin. Daeth yn Ysgrifennydd Cyffredinol yr Irish Citizen Army ym Mawrth 1914, yn rhagflaenydd i James Connolly. Ond roedd yn rhy fodlon cymodi ac yn rhy elyniaethus i'r IRA. Ym 1917, bu farw ei ffrind Thomas Ashe ar Streic Llwgu. A dyna ddiwedd ei gyfnod politicaidd.
Theatr
golyguYsgrifennodd ddramau o hyn ymlaen ar themâu Gwyddelig. Cafwyd ymateb ffyrnig yn erbyn The Plough and the Stars (1926); debyg i'r terfysg yn erbyn John Millington Synge a'i The Playboy of the Western World yn 1907. Roedd rhyw a chrefydd yn drech na'r moesau ar y pryd. Ond y peth cryfa yn ei erbyn oedd aralleirio geiriau Pádraig Pearse a fflangellu'r hyn a ystyriai fel "holl ffug-rhamanteiddio" arwyr Gwrthryfel y Pasg. (Gwyddeleg: Éirí Amach na Cásca). Enillodd ddigon o elynion wedyn.
Daeth i Brydain, byth i ddychwelyd i fyw yn Iwerddon, yn 1927 er mwyn derbyn y wobr Hawthornden ac i gynhyrchu Juno and the Paycock, ac yn 1928 gwrthododd ei ddrama The Silver Tassie gan W. B. Yeats ar gyfer Theatr yr Abaty Dulyn, felly llwyfanodd y ddrama yn Llundain efo set gan Augustus John. Arhosodd yn Lloegr. Ysgrifennodd The Star Turns Red (1940), drama a seilwyd ar fywyd yr undebwr James Larkin) ac sy'n feirniadaeth lem ar gymdeithas Iwerddon a'r Eglwys Gatholig Rufeinig yn arbennig. Wedi ei farwolaeth aeth ei bapurau dros y byd, yn cynnwys casgliadau yn Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd, Llyfrgell Prifysgol Cornell, Llyfrgell Tŷ'r Senedd, Prifysgol Llundain, a Llyfrgell Genedlaethol Iwerddon.
Gwaith
golygu- Lament for Thomas Ashe (1917), dan y fersiwn Gwyddeleg o'i enw Sean O'Cathasaigh
- The Story of Thomas Ashe (1917), dan y fersiwn Gwyddeleg o'i enw Sean O'Cathasaigh
- Songs of the Wren (1918), dan y fersiwn Gwyddeleg o'i enw Sean O'Cathasaigh
- More Wren Songs (1918), dan y fersiwn Gwyddeleg o'i enw Sean O'Cathasaigh
- The Harvest Festival (1918)
- The Story of the Irish Citizen Army (1919), dan y fersiwn Gwyddeleg o'i enw Sean O'Cathasaigh
- The Shadow of a Gunman (1923)
- Kathleen Listens In (1923)
- Juno and the Paycock (1924)
- Nannie's Night Out (1924)
- The Plough and the Stars (1926) (fersiwn Llydaweg: An Arar hag ar Stered 1993)
- The Silver Tassie (1927)
- Within the Gates (1934)
- The End of the Beginning (1937)
- A Pound on Demand (1939)
- The Star Turns Red (1940)
- Red Roses for Me (1942)
- Purple Dust (1940/1945)
- Oak Leaves and Lavender (1946)
- Cock-a-Doodle Dandy (1949)
- Hall of Healing (1951)
- Bedtime Story (1951)
- Time to Go (1951)
- The Bishop's Bonfire (1955)
- A Sad Play within the Tune of a Polka (1955)
- The Drums of Father Ned (1959)
- Behind the Green Curtains (1961)
- Figuro in the Night (1961)
- The Moon Shines on Kylenamoe (1961)
- Niall: A Lament (1991)
- Hunangofiant (6 cyfrol):Mirror in my House 1965.
- I Knock at the Door
- Pictures in the Hallway
- Drums Under the Window
- Inishfallen Fare Thee Well
- Rose and Crown
- Sunset and Evening Star
Cyfeiriadau
golygu- Krause, David. Seán O'Casey and his World. New York: C. Scribner's, 1976. ISBN 0-5001305-5-8
- Irish Writers on Writing featuring Seán O'Casey. Edited by Eavan Boland ; Trinity University (Texas) Trinity University Press, 2007.
- Schrank, Bernice. Sean O'Casey: A Research and Production Sourcebook. Greenwood Press, 1996. ISBN 0-313-27844-X