Serbeg
Iaith a siaredir yn Serbia a rhai gwledydd cyfagos yw Serbeg. Mae'n iaith swyddogol yn Serbia, a cheir cryn nifer o siaradwyr mewn gwledydd fel Bosnia a Montenegro. Credir fod tua 12 miliwn yn siarad yr iath, 8 miliwn o'r rhain yn ei siarad fel mamiaith.
Enghraifft o'r canlynol | amrywiolyn iaith, standard variety, iaith |
---|---|
Math | Eastern Herzegovinian |
Enw brodorol | српски језик |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | sr |
cod ISO 639-2 | srp |
cod ISO 639-3 | srp |
Gwladwriaeth | Serbia, Montenegro, Bosnia a Hertsegofina, Croatia, Cosofo, Gogledd Macedonia |
System ysgrifennu | Serbian Cyrillic alphabet, Gaj's Latin alphabet |
Corff rheoleiddio | Board for Standardization of the Serbian Language |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Serbeg yn rhan o'r grŵp o ieithoedd De Slafonig a elwir wrth yr enw Serbo-Croateg, sydd hefyd yn cynnwys Croateg, Bosnieg a Montenegreg. Arferid meddwl am Serbo-Croateg fel un iaith, ac mae llawer o ieithyddwr yn y gorllewin yn dal i ystyried fod hyn yn wir. Fodd bynnag, gyda diflaniad Iwgoslafia, daethpwyd i feddwl am Serbeg, Bosnieg a Chroateg fel ieithoedd ar wahân, er eu bod cywair safonol pob un yn seiliedig ar yr un dafodiaith yn union. Gellid disgrifio Serbeg, Bosnieg a Montenegreg fel amrywiaethau ieithyddol, sydd ag enw gwahanol ac wedi eu safoni ar wahân.
Un wahaniaeth rhwng Serbeg a ieithoedd eraill y grŵp yw ei bod modd ei hysgrifennu gyda'r wyddor Gyrilig; mae'r mwyafrif o siaradwyr Serbeg yn deall ac yn defnyddio'r ddwy wyddor.
Y ddwy wyddor
golyguMae trefn gwahanol i lythrennau'r wyddor, gan ddibynnu ar ba wyddor a ddefnyddir:
Yr wyddor Gyrilig Serbeg, ćirilica (ћирилица) neu azbuka (азбука):
- А Б В Г Д Ђ Е Ж З И Ј К Л Љ М Н Њ О П Р С Т Ћ У Ф Х Ц Ч Џ Ш
Yr wyddor Ladin, latinica (латиница) neu abeceda (абецеда):
- A B C Č Ć D Dž Đ E F G H I J K L Lj M N Nj O P R S Š T U V Z Ž
Enghraifft o ddefnydd cyfochrog y ddwy wyddor yw'r Wikipedia Serbeg - dechreuodd y prosiect gan ddefnyddio'r wyddor gyrilig yn unig, ond erbyn hyn, mae meddalwedd yn galluogi dewis pa wyddor i'w ddefnyddio wrth ddarllen.