Sgwrs:Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg

Latest comment: 4 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic Under Milk Wood


Oes angen yr erthygl hon? golygu

Yn fy marn i, nac oes. Nid oes dim yr un erthygl ar unrhyw Wici arall, ac dwi ddim yn gallu meddwl am unrhyw reswm dylwn ni ei chadw. Mae cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg yn draddodiad hen iawn yng Nghymru. Ydy e? Wir?! Y Saesneg yn sicr yw prif iaith 'trosi' i'r Gymraeg. Mae'r datganiad hwn yn croesi'n hollol safbwynt niwtral Wicipedia, gan ei fod yn datgan teimladau digywilydd yr golygydd. yn digwydd drwy gyfrwng un o'r ieithoedd dominyddol ond y Saesneg yn bennaf.[angen ffynhonnell]!!! Paham cyfieithu mewn byd lle mae bob Cymro yn rhugl yn y Saesneg, pam perfformio Shakespeare yn y Gymraeg? Trwy gyfieithu proffesiynol mae'n bosibl cael y gorau o lenyddiaeth Saesneg heb i batrwm yr iaith honno ymyrryd ar y Gymraeg. Ym, iawn - BETH?! Mae gen i'r un barnau ar gyfer Cyfieithiadau i'r Gymraeg a Cyfieithiadau o'r Ffrangeg i'r Gymraeg. Unwaith eto, dwi o blaid dileu'r erthygl. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 03:55, 18 Mai 2010 (UTC)Ateb

Dw i o blaid ei chadw. Efallai nad yw arddull y cyfranwr newydd Petroc2 yn gwbl ddi-duedd, ond credaf fod ei cyfraniadau i gyd in good faith (beth yw hynnu'n Gymraeg?), a gobeithio gydag arfer y daw i ddilyn patrwm arferol y Wicipedia. Dw i'n credu mai beth mae'n drio ei ddweud am gyfieithu Saesneg>Cymraeg yw mai o'r Saesneg mae'r mwyafrif o'r trosiadau. Mae angen gwendu hyn y gliriach a dod o hyd i ffynhonell i gadarnhau hyn. Hefyd, baswn i'n cael gwared o'r fflagiau a pheidio gwahaniaethu o ble (pa wledydd) daw'r cyfieithiadau.--Ben Bore 12:27, 19 Mai 2010 (UTC)Ateb
Dwi ddim yn gweld unrhyw beth o'i le efo'r pwnc ei hun, ond mae'n wir bod rhaid i Petroc ddysgu fod yn fwy gwrthrychol ac osgoi mynegi barn a safbwynt (gyda phob parch i ti, Petroc, os wyt ti'n darllen hyn), dim jest yma ond mewn erthyglau fel Hanes Croatia cyn i mi ei diwygio ("gormes y Comiwnyddion"). A dydy'r baneri ddim yn ychwanegu unrhyw beth i'r erthygl chwaith, fel rydym wedi trafod yn barod yn rhywle arall. Anatiomaros 16:34, 19 Mai 2010 (UTC)Ateb
Efallai mae Petroc2 yn ceisio dweud mai o'r Saesneg mae'r mwyafrif o'r trosiadau, ond oes angen dweud hyn o gwbl? Byddaf yn derbyn yr hyn ddewisir gan y cyffredin, ond byddaf (ar ôl pwyso "Cadw") yn tynnu'r baneri a barn personol. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 21:25, 19 Mai 2010 (UTC)Ateb
"Does dim erthygl fel hyn ...." ond mewn Cymraeg wallus isod - pa fath o ddadl yw hyn. Nid oes ond 30,000 o erthyglau ar wici-cymraeg ac mae'r syniad o ddileu erthygl unigryw yn od iawn. Gweledigaethau'r bardd cwsg yw'r cyfiethiad (aralleiriad) enwocaf. Nid rhywbeth sy'n israddio'r Gymraeg yw dangos bod rhai pobl yn cyflwyno deunydd newydd i'r Gymraeg - ewch i unrhyw siop lyfrau ar y cyfandir ac fe welir llyfrau a droswyd o'r Saesneg. Felly normalrwydd diwylliannol ewropeiadd yw'r trosiadau hyn. P ap S. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Petroc2 (sgwrscyfraniadau) 02:47, 9 Chwefror 2011

Under Milk Wood golygu

Awgrymaf ychwanegu "Dan y Wenallt", addasiad Cymraeg "Under Milk Wood". --Money money tickle parsnip (sgwrs) 15:24, 9 Gorffennaf 2019 (UTC)Ateb

Cytuno! Cyfieithiad rhagorol! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:51, 9 Gorffennaf 2019 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg".