Credir fod hanes Croatia yn cychwyn gyda'r Illyriaid ac mai nhw oedd trigolion gwreiddiol y tir cyn i'r Ymerodraeth Rufeinig goresgyn a gwladychu Croatia. Ymsefydlodd llwyth Celtaidd y Boii yn Pannonia cyn diwedd y mileniwm cyntaf cyn Crist. Sefydlwyd talaith Illyria gan y Rhufeinwyr yn y ganrif gyntaf cyn Crist. Mae prif ddinasoedd yr arfordir fel Pula, Split a Dubrovnic i gyd yn hen iawn. Dalmatia a Pannonia oedd yr enw ar y ddwy ran o'r wlad. Y dystiolaeth amlycaf am eu presenoldeb yw Palas Diocletian yn Split (300 OC) a'r amffitheatr fawr yn Pula.

Cyrhaeddodd y Croatiaid yn y 7c. Erbyn 820 roedd Dugaeth Croatia yn unedig dan Vladislav; parhaodd rhai o drefi'r arfordir i siarad Lladin ac wedyn Eidaleg am ganrifoedd. Y brenin cyntaf oedd Tomislav, a goronwyd yn 925.

Roedd y wlad yn annibynnol tan 1089 pan ddaeth yn rhan o deyrnas Hwngari - ond gyda senedd (Sabor) annibynnol. Er gwaethaf ymyrraeth Fenis, y Mongoliaid a'r Croesgadwyr, parhaodd dominiwn yr Hwngariaid tan 1526. Erbyn brwydr Mohacs yn 1526 roedd y rhan fwyaf o'r wlad yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid.

Ymateb syml senedd y Croatiaid oedd derbyn Archddug Ferdinand o Awstria fel brenin yn 1527, a wthiodd yr Otomaniaid yn ôl yn ystod y ganrif ganlynol. Rhoddodd yr Habsbwrgiaid Croatia yn hanner "Hwngaraidd" eu hymerodraeth, a hynny erbyn 1699.

Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ffurfiwyd Iwgoslafia yn 1918, a bu Croatia dan awdurdod Beograd am y tro cyntaf. Rhoes yr Ail Ryfel Byd rym i'r Ustase, (mudiad ffasgaidd lleol) o dan y Natsïaid, ac wedi'r rhyfel cafwyd rheolaeth dan Tito a'r Comiwnyddion am 45 mlynedd.

Yn 1991, ar ôl naw ganrif dan reolaeth ei chymdogion, daeth Croatia yn wlad annibynnol eto. Croesawyd y genedl newydd gan bedair blynedd o ryfel, cyflafanau, a dros chwarter miliwn o ffoaduriaid. Erbyn 2010, mae'r wlad wedi paratoi a moderneiddio i'r fath raddau fel bod Undeb Ewrop wedi ei derbyn fel darpar aelod.

Mae Croatia bellach yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, Cyngor Ewrop, NATO a Sefydliad Masnach y Byd (WTO).

Eginyn erthygl sydd uchod am Croatia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato