Sgwrs:Cymdeithas yr Iaith
Sylw diweddaraf: 17 o flynyddoedd yn ôl gan Llygadebrill ym mhwnc Tuedd yn yr erthygl
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Tuedd yn yr erthygl
golyguYn anffodus, mae darnau mawr o'r erthygl wedi eu hysgrifennu o safbwynt y Gymdeithas - mae hyn yn gwbl annerbyniol mewn gwyddoniadau di-safbwynt. Dwi'n amau fod darnau wedi eu copïo o rhywle - bosib fod yr erthygl yn tramwyddo hawlfraint Cymdeithas yr Iaith hefyd. Byddai'n dda iawn cael erthygl safonol yma, gan fod y Gymdeithas yn fudiad mor bwysig yng Nghymru --Llygad Ebrill 20:48, 22 Gorffennaf 2006 (UTC)
- Wedi dileu'r cynnwys a rhoi un frawddeg yn ei le. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 20:57, 25 Hydref 2006 (UTC)
- Tra yn cytuno fod rhai o'r ychwanegiadau diweddaraf yn haeddu cael eu dileu neu eu diwygio, ar y llaw arall roedd rhannau ffeithiol gywir a gwbwl dderbyniol yn yr erthygl. Bwriadaf ddwyn yn ôl y rhannau hynny gan eu diwygio yn ôl yr angen. Gyda llaw ym Mhontarddulais y sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith nid ym Mhontardawr. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Dyfrig (sgwrs • cyfraniadau) 20:14, 23 Rhagfyr 2006
- Dwi newydd wedi ailosod darnau helaeth o'r hen erthygl. Roedd rhai darnau braidd yn amherthnasol, felly aethant i Tynged yr Iaith a Deddf Iaith 1993. Pontardawe neu Pontardawr? Oes gan rhywun ffynhonell? --Llygad Ebrill 20:51, 10 Ionawr 2007 (UTC)
Pontarddulais
golyguYm Mhontarddulais y ffurfiwyd y Gymdeithas; gweler tudalen 19 o 'Trwy Ddulliau Chwyldro...? gan Dylan Phillips (Gwasg Gomer, 1998. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Llywelyn2000 (sgwrs • cyfraniadau) 14:45, 21 Rhagfyr 2007