Sgwrs:Dionysus

Sylw diweddaraf: 1 mis yn ôl gan Llywelyn2000 ym mhwnc Dionysus ta Dionysos?

Dionysus ta Dionysos?

golygu

Tybed @Llywelyn2000 @Llygadebrill a ddylem newid teitl y dudalen hon i'r ffurf Dionysos yn hytrach na Dionysus? Mae Dionysos i weld yn cyd fynd yn well efo'r etymoleg. Dionysos ddefnyddia Huw Lloyd Edwards ym 1973, a Dionysios ddefnyddio Gareth Miles ym 1991. Felly mae'n chwithig braidd arwain y dudalen gyda'r -us! Ta oes yna gyfiawnhad pellach tu cefn i'r dewis yma? diolch. @Paulpesda Paulpesda (sgwrs) 19:01, 24 Medi 2024 (UTC)Ateb

Newydd ddalld mai Dionysus yw'r term ar y dudalen Saesneg, sef tarddiad y cyfieithiad. Wedi drysu braidd o le ddaeth yr -us! @Llywelyn2000 @Llygadebrill Paulpesda (sgwrs) 19:05, 24 Medi 2024 (UTC)Ateb
Dw i ddim yn arbenigydd ar enwau Groeg yr Henfyd yn Gymraeg o bell ffordd, ond o blaid symud i Dionysos neu Dionysios a wedyn cysoni o fewn yr erthygl Llygad Ebrill (sgwrs) 20:56, 24 Medi 2024 (UTC)Ateb
Onid 'W' ydy'r ynganiad yn y Gymraeg? Cymreigiwyd y canlynol gennym: Priapws o Hostafrancs, Protëws (duw), Odysews, Wlysses (Ulysses) ond ni Chymreigiwyd Asclepius a Theseus (er mai Thesews sydd yng nghorff yr erthygl! Ac mae'r terfyniad 'us' / 'os' yr un mor anghyson gennym. Ein canllaw cyffredinol yw'r ffynonellau, felly, beth bynnag a ddywed y gwybodusion, am wn i. O ran enwau llefydd, troi at y fersiwn Saesneg mae Llywodraeth Cymru a Dylan Foster Evans; troi at sillafiad mwy ffonetig a wna Brws yng Ngeiriadur yr Academi. Brws sy'n cael ei ffafrio gennym ni ar Wici, fel rheol. Fy hun, fe awn am Dionysws, oni bai fod ffynhonnell/au dibynadwy yn nodi'n wahanol. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:57, 25 Medi 2024 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Dionysus".