Sgwrs:Hafan/archif1
Archifau |
"today's date"
Arwel - I assume you set it up - the "today's date" thing isn't working, so I manually changed the 13 Jan to the 15 Jan. Hope I did right. Deb 18:13, 15 Jan 2004 (UTC)
- Very odd - it works now, and I've reverted it. Perhaps you had the page cached since the 13th? Given the current state of the server I won't be too dogmatic about any technicality involving any Wikipedia at the moment! Arwel 18:40, 15 Jan 2004 (UTC)
- Oh, okay then, I never thought of that. Not that I would know how to tell if it was cached or not. Deb 19:29, 15 Jan 2004 (UTC)
y ddolen Cymdeithas yr Iaith
Mae'r rhestr cysylltiadau sydd ar y ddalen hon yn cyfeirio at Cymdeithas yr Iaith ond yr hyn a welir yn unig yw Cymdeithas. Oes modd i rywun roi yr enw llawn i'r cysylltiad os gwelwch yn dda
Dyfrig 17:10, 23 Mai 2004 (UTC)
- diolch; cyfnewidais y testun. Marnanel 18:52, 23 Mai 2004 (UTC)
Translation
I've got a Translation of 'Don't Speak Cymraeg' in Italian. You find it on my User page, to add to 'Hafan'. Paul
Please add link to Scottish Gaelic wikipedia -> http://gd.wikipedia.org/wiki/
- Done!-- Arwel 00:52, 28 Tach 2004 (UTC)
+belarus
Could you add Belarusan Wikipedia ( http://be.wikipedia.org/ ) to your section "Mewn ieithoedd eraill"? Thank you. rydel.net
Linc i'r bywgraffiadur
Mae'ch linc i'r bywgraffiadur (sydd ar fin ail-ymddangos wedi hiatus o ychydig wythnosau) ar y brif dudalen yn anghywir. Allwch chi ddefnyddio'r url "http://yba.llgc.org.uk/" (heb ddim AnaServer? ayyb) os gwelwch yn dda? Diolch. Illtud.
- Diolch am y neges. Dw i wedi trio nifer o cysylltiadau ac url, ond mae'n debig fod dim un yn weithio ar hyn o bryd, gan gynnwys http://yba.llgc.org.uk/ a felly dw i wedi dileu'r cyswllt dros dro... (But I'll keep an eye on it!) --Okapi 01:10, 8 Rhag 2004 (UTC)
- Seems to work now, so I moved it back to hafan. --Okapi 15:24, 5 Ion 2005 (UTC)
Manion
Maddeuer i fi am fod mor bitw ond, a hithau'n flaenddalen y wefan, man a man i bopeth fod yn hollol iawn ondifa? Dim ond ychydig o bethau bach: a)"Ailddechreuodd" yn lle "ail-dechreuodd" b)"eich amser" yn lle "eich hamser" c)falla y gallech ystyried ailenwi "gwyliwch ffynhonnell" - does gen i glem beth yw ei ystyr - "watch a source" [?]. ... ac ar waelod y dudalen "gwyliwch [yr] erthygl hon"
- Diolch am pwyntio allan! Byddaf i'n newid a) a b), ond dw i ddim yn siwr beth i wneud ar gyfer c)... Mae'n dweud "View source" yn Saesneg am fod y dudalen wedi ei dogelu a gall dim ond nifer o bobl ei newid. Mae'r "source" yn côd HTML, dw i'n meddwl... Byddaf i'n siarad am hynny gyda defnyddiwyr eraill, arhoswch am dipyn, os gwelwch yn dda. --Okapi 14:39, 1 Chwe 2005 (UTC)
- Dwyf wedi newid MediaWiki:Viewsource i "Gwyliwch côd y tudalen". -- Arwel 20:38, 2 Chwe 2005 (UTC)
- Newidier hefyd **** erthyglau i **** o erthyglau 80.177.21.76 14:44, 1 Chwe 2005 (UTC)
- A fyddai "gweld y ffynhonnell" neu "gweld cod y tudalen" yn gwneud y tro? Mae 'gwylio/gwyliwch' yn awgrymu 'to watch'. (A, sori mawr eto! Ma eisiau treiglo ar ôl "ail" sef "ailddechreuodd"!)
- Wedi newid y rheini. --Okapi 02:01, 5 Chwe 2005 (UTC)
bocs swnd - angen o gymorth "admin"
Mae enw'r "bocs swnd" wedi cael ei newid i "blwch tywod", ond mae'r hafan yn cysylltu i'r hen dudalen eto. Rhaid i rywun gyda chaniatâd i olygu'r hafan newid y cysylltiad, felly. (Gallai bod cysylltiadau eraill i'r hen dudalen hefyd -- fasai'n dda tasai rhywun am eu newid, ond mae'r hafan yn fwyaf pwysig.)
Llareggub 21:52, 22 Awst 2005 (UTC)
- Iawn :) -- Arwel 13:59, 23 Awst 2005 (UTC)
Ido
Hello all, could we get Ido added to the list of Mewn ieithoedd eraill? Thanks a lot.
Rhydd
O'n nealldwriaeth i 'ma rhydd yn meddwl free fel liberty, am ddim, neu rhad ac am ddim yw'r free costless. Nage free costless chi ise gweud. Dyw free liberty ddim yn neud lawer o synwyr i fi i ddysgrifio wicipedia.
- Fe godais i yr un pwynt flwyddyn neu fwy yn ôl - yr ateb gefais i oedd mai'r ystyr oedd rhydd fel yn rhydd i unrhywun allu cyfrannu. Dw i ddim wedi cael fy argyhoeddi y mae'n rhaid i fi ddweud Dyfrig 21:45, 27 Tachwedd 2005 (UTC)
- Rwy'n cytuno bod 'rhydd' yn air braidd yn drwsgl yn yr ymadrodd 'gwyddoniadur rhydd'. Beth am - 'gwyddoniadur agored'? Lloffiwr 19:59, 30 Tachwedd 2005 (UTC)
- Fydde 'agored' yn lawer well yn fy marn i. Neis gweld pobol yn cymeryd diddordeb fyd. Hwyl
- Cytuno bod well tinc i "Y Gwyddoniadur Agored". Oes modd newid yr enw? Hwyrach fod angen mwy o drafodaeth yn gyntaf? --Llygad Ebrill 09:03, 15 Mehefin 2006 (UTC)
- Cytuno. 'Y Gwyddoniadur Agored' yn gwneud llawer mwy o synwyr. 82.20.44.39 23:13, 3 Gorffennaf 2006 (UTC)
The above are requests to rename Wicipedia from Y Gwyddoniadur Rhydd, since rhydd has several different meanings leaving the title a little clumsy sounding. The word agored has been suggested as a substitute for rhydd. None of the comments so far are against changing rhydd. Is there any reason why it might not be good or practical to change the title? Lloffiwr 20:58, 29 Medi 2006 (UTC)
Wikisource
Hi! You should put a link to the new Welsh Wikisource on your Main Page (as well as another other sister projects that exist in Welsh). Dovi 21:10, 10 Rhagfyr 2005 (UTC)
Testun Sbaeneg
It seems (from my admittedly limited knowledge of Spanish) that the Spanish text on the main page is saying that Welsh is spoken as principal language in Wales. You should confirm from a better Spanish speaker about whether that is a correct interpretation of what is written, but if so I would dispute it, and would suggest replacing it with something that translates instead the word natively used in the English text. ---[unsigned comment]
Prosiectau eraill
A all rhywun sy'n gallu gywiro'r pennawd Prosiectau eraill (yn Saesneg neu Cymraeg) i Prosiectau eraill (yn Saesneg neu Gymraeg). Lloffiwr 19:19, 4 Mawrth 2006 (UTC)
Diolch am y cywiriad. Lloffiwr 23:35, 7 Mawrth 2006 (UTC)
You don't speak Cymraeg?
Mae'r darn hwn yn gwneud i Gymru swnio fel ardal o Brydain, yn hytrach gwlad, sydd gyda'r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon, yn ffurfio Ynysoedd Prydain. Ai fi sy'n bod yn or-sensitif?
Enwau Categorïau
Mae "Gwyddoniaeth Mathemateg a Naturiol" yn swnio'n anghywir ac yn drwsgl. Awgrymaf newid i rywbeth symlach megis "Gwyddoniaeth a Mathemateg". --Llygad Ebrill 09:03, 15 Mehefin 2006 (UTC)
- Yn cytuno. Rwyf wedi adolygu dosbarthiad y categorïau ac yn awgrymu'r diwygiadau canlynol:
- Celfyddydau a Gwyddoniaethau Cymhwysol → Gwyddoniaeth Gymhwysol
- Celf a Diwylliant → Celfyddyd a Diwylliant (Geiriadur yr Academi yn daer yn erbyn Celf!)
- Cynlluniau categorïau eraill → Arall
- Hoffwn weld dileu y cyswllt i'r dudalen wag 'Amdano ein cynlluniau categorïau' gan nad oes neb wedi cymryd at greu'r dudalen.
- Hoffwn weld dileu y cyswllt i'r dudalen 'Sut i-au' gan mai jôc yw hi.
- Mae'r categorïau sydd wedi eu cynnwys yn y wahanol adrannau yn perthyn yno yn ôl un neu'r llall o'r wahanol gynlluniau meysydd astudio a drafodir ar wikipedia, heblaw am 'iaith'. Yn yr adran Astudiaethau Cymdeithasol ac Athroniaeth y mae hi ar hyn o bryd. Byddai lle mwy addas i hon yn yr adran celfyddyd a diwylliant rwyn credu.
Mae nifer y rhestri ar wicipedia llawer yn uwch erbyn hyn na'r detholiad sydd ar yr hafan. Yr ydym efallai wedi cyrraedd man lle y byddai o fudd creu rhestr o'r wahanol restrau, yn ôl adrannau pwnc, tebyg i'r rhestrau o restrau sydd ar Wikipedia. Yna gallem roi cyswllt o'r hafan i'r rhestr hwnnw. Mae'r rhestri canlynol wedi eu cynnig eisoes yng nghôd y dudalen hafan:
Os na fydd neb arall wedi achub y blaen arnaf a mynd ati i wneud hyn ceisiaf fynd ati fy hunan rhywbryd yn ystod y blwyddyn neu ddwy nesaf! Lloffiwr 21:00, 25 Mehefin 2006 (UTC)
"Gwyddoniaeth Mathemateg a Naturiol" sounds clumsy and incorrect. Suggest "Gwyddoniaeth a Mathemateg" instead.
- Suggest the following amendments to categories:
- Celfyddydau a Gwyddoniaethau Cymhwysol → Gwyddoniaeth Gymhwysol
- Celf a Diwylliant → Celfyddyd a Diwylliant (Geiriadur yr Academi really dislikes Celf!)
- Cynlluniau categorïau eraill → Arall
- since the link to 'Amdano ein cynlluniau categorïau' is still red can we get rid of it (it can always be put back if this page does get created)?.
- Can we remove the link to 'Sut i-au' since it is a joke.
- The categories on hafan are grouped in a style fairly like Wikipedia, except for 'iaith'. iaith is in the section Astudiaethau Cymdeithasol ac Athroniaeth now. I think it would fit better under section celfyddyd a diwylliant.
the number of lists on wicipedia is much bigger by now than those on hafan. Perhaps we have reached a point where it would be of benefit to create a list of the lists, according to subject, along the lines of Wikipedia. Then a link from hafan to these lists or trees would suffice. The following lists are suggested in the hafan page code:
Enwi llefydd tramor
Dwi newydd greu yr erthygl Michelangelo a dwi mewn dryswch ynglŷn â beth i alw St Peter's Basilica yn Rhufain. Y broblem yw, dyw hi ddim yn gadeirlan (does dim esgob yno), felly dyw Eglwys gadeiriol San Pedr ddim yn gywir. Dwi'n meddwl yn gyffredinol dylswn ni fynd am yr enw Eidaleg lle bynnag mae hynny'n bosib (e.e. ysgrifennais i Cappella Sistina yn hytrach na bathu "y Capel Sistaidd" am Sistine Chapel). Ond yn yr achos yma es i am "Basilica San Pedr", oherwydd bod Basilica di San Pietro yn swnio'n rhy ddieithr. Dwi'n meddwl bod angen tudalen yn esbonio naming conventions fel sydd ar y Wicipedia Saesneg os nad oes gennym ni un yn barod. Ham 11:52, 17 Mehefin 2006 (UTC)
- Basilica San Pedr sydd gan y BBC ar y dudalen http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_4400000/newsid_4406500/4406593.stm. Fel y sonir uchod mae angen gwaith pellach ar ganllawiau enwau tramor. Ar y dudalen Wicipedia:arddull mae'r argymhelliadau yn cael eu crynhoi ar hyn o bryd ac ar y caffi mae rhai trafodaethau ar y gweill. Lloffiwr 22:14, 21 Mehefin 2006 (UTC)
cyswllt Media Wiki 1.4
Mae'r dudalen ar ben draw'r cyswllt i Media wiki 1.4 wedi cael ei symud i http://www.mediawiki.org/wiki/MediaWiki_roadmap. Lloffiwr 20:05, 23 Mehefin 2006 (UTC)
this comment is pointing out that the link Media wiki 1.4 in the section on Am y prosiect goes to a page which has been moved to http://www.mediawiki.org/wiki/MediaWiki_roadmap. Can the link be amended to go directly to the intended page? Lloffiwr 21:02, 29 Medi 2006 (UTC)
Cywiriadau a gwelliannau
Mae angen cywiro'r canlynol ar dudalen yr hafan:
- Gwyddoniaeth Cyfrifiadurol → Cyfrifiadureg
- Gwyddoniaeth Daear → Gwyddorau Daear
- Gwyddoniaeth Iechyd → Gwyddor Iechyd
- Gwyddoniaeth Gwybodaeth a Llyfrgell → Llyfrgellyddiaeth a Gwyddor Gwybodaeth
- Teulu a Gwyddoniaeth treuliwr → Economeg y Cartref
- Gwyddoniaeth Gwleidyddol → Gwyddor gwleidyddiaeth
- Hanes Gwyddoniaeth a Technoleg → Hanes Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Clasuron → Y Clasuron (nid yw'r dudalen wedi ei chreu eto)
- ag o Caergystennin → Ymerodron Caergystennin
- Polisi → Polisi
- Tudalen am Wicipedia → Tudalen am Wicipedia
- Wicipedia:FAQ → Cwestiynau poblogaidd
- Ewch i ymweld a'r Caffi → Ewch i ymweld â'r Caffi
- Ar gyfer y meddalwedd → Am wybodaeth ynglŷn â'r meddalwedd
- Wikisource Cymraeg → Wicitestun
- Wiktionary Cymraeg → Wiciadur
Lloffiwr 21:05, 25 Mehefin 2006 (UTC)
Above is a list of amendments, largely on grammatical grounds with the present version on the left and the amended version on the right. Lloffiwr 21:06, 29 Medi 2006 (UTC)
- Amdano ein cynlluniau categorïau. Ych-a-fi. Beth am Ynglŷn â'n cynlluniau categorïau neu rhywbeth felly? Ham 22:07, 23 Hydref 2006 (UTC)
- Ie wir, ych y fi. Mae Adam wedi drafftio fersiwn newydd o'r hafan ar Defnyddiwr:Adda'r Yw/Hafan ac wedi holi am gael ein sylwadau arno cyn ei lwytho. Lloffiwr 23:01, 23 Hydref 2006 (UTC)
Rhagor o welliannau
Yn yr adran ysgrifennu erthyglau
- beth yw pwrpas 'requested articles' and 'requested pictures'? Ai hen gysylltiadau yw'r rhain? Os felly gwell eu dileu.
- A allwn ni newid 'shared resources' i 'research resources', 'Brilliant prose' i 'featured articles' a 'Brilliant pictures' i 'featured pictures' os gwelir yn dda?
- Mae style - public domain - research resources - featured articles - featured pictures i gyd yn cysylltu'n uniongyrchol â Wikipedia. Allwn ni eu symud i ddiwedd y rhestr, wedi 'Prosiectau' ac adio:
ac ar Wikipedia: style - public domain - research resources - featured articles - featured pictures
Byddai hynny'n gwahaniaethu'n glir rhwng yr erthyglau sydd ar Wicipedia a'r rhai ar Wikipedia.
Yn yr adran Am y prosiect
- Oes diben cadw'r cysylltiadau coch 'Wikimedia' a 'Cyhoeddiadau'?
- Oes rhaid cael y 'Tudalennau amheus' yn yr adran hon? Yn wir, ydy ni am gyswllt i hwn ar y dudalen flaen o gwbl neu a fyddai'n well ei gael ar y dudalen gymorth?
Yn yr adran gysylltiadau
- Oes rhaid cael y geiriaduron fan hyn? Mae adnoddau ysgrifennu yn Gymraeg i'w cael ar y dudalen Wicipedia:Canllawiau iaith.
- Fe allai weld dadl dros gynnwys cysylltiadau at wefannau eraill agored sy'n cynnig gwasanaeth tebyg i Wicipedia, e.e. Y Bywgraffiadur Arlein o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Casgliad y Tlysau, a Llên y Llysiau. Ond dwi ddim yn gweld bod lle i'r cysylltiadau eraill ar yr hafan. A fyddent yn gweddu'n well mewn rhestr o wefannau yn ymwneud â Chymru a'r Gymraeg a dolen gyswllt iddo o'r hafan?
Lloffiwr 21:38, 25 Mehefin 2006 (UTC)
Translation: In the section ysgrifennu erthyglau
- do we need the links 'requested articles' a 'requested pictures'? Are these old links? If so, can we delete for now?
- Can we change 'shared resources' to 'research resources', 'Brilliant prose' to 'featured articles' and 'Brilliant pictures' to 'featured pictures' please?
- the links style - public domain - research resources - featured articles - featured pictures all connect to Wikipedia. Can we move these to the end of the section after 'Prosiectau' and add:
ac ar Wikipedia: style - public domain - research resources - featured articles - featured pictures
this would distinguish clearly between the articles on Wicipedia and those on Wikipedia.
In the section Am y prosiect
- Is there any point keeping the red links to 'Wikimedia' and 'Cyhoeddiadau'?
- Do we have to have 'Tudalennau amheus' in this section? In fact do we want this link on the home page at all, or would it be better placed on the help page?
In the secion cysylltiadau
- Is this the appropriate place for the dictionary links? Resources for writing in Welsh are listed on the page Wicipedia:Canllawiau iaith.
- I can see a point to including links to other Welsh language websites which are open and which offer a service similar to Wicipedia, e.g. Y Bywgraffiadur Arlein from Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Casgliad y Tlysau, and Llên y Llysiau. But I don't think that the place for the links is slap bang on the hafan page. Would they be more appropriate in a list of websites to do with Wales and Welsh with just a link to this page on hafan? Lloffiwr 21:21, 29 Medi 2006 (UTC)
Cwestiynnau
- Adran 'Ysgrifennu erthyglau'
Desg cyfeirio. 'Desg Gyfeirio' neu 'Y Ddesg Gyfeirio' dylai hwn fod. Mae'r tudalan Croeso, newydd-ddyfodiaid yn haeru'r canlynol:
- Efallai nad yw'r Wicipedia Cymraeg yn ateb eich cwestiwn. Os felly, ewch i'r desg gyfeirio a gadewch nodyn yno -- mae gennym griw o ymchwilwyr dawnus a fydd yn fwy na pharod i helpu!
Ac ystyried mae criw bach ydym o hyd ar Wicipedia ydy ni'n ei gor-ddweud hi fan hyn?
- Adran 'ieithoedd eraill'
Am ba reswm mae 'for more information go to the main website in English' yn Saesneg?
- Adran 'Prosiectau eraill'
A ydy hi'n bryd cael gwared ar y September 11 Memorial wiki? Ac o bosib rhoi cyswllt i commons yma?
Lloffiwr 18:36, 26 Mehefin 2006 (UTC)
Translation:
- Section 'Ysgrifennu erthyglau'
Desg cyfeirio. This should be 'Desg Gyfeirio' or 'Y Ddesg Gyfeirio'.
The page Croeso, newydd-ddyfodiaid claims the following:
- perhaps Wicipedia Cymraeg doesn't answer your question. If so go to desg gyfeirio and leave a message there -- we have a crew of able researchers ready to help!
considering that we are still a small team on wicipedia are we overstating the case here?
- Section 'ieithoedd eraill'
for what reason is 'for more information go to the main website in English' in English?
- Section 'Prosiectau eraill'
Is it time to remove the September 11 Memorial wiki? And possibly add a link to commons? Lloffiwr 21:27, 29 Medi 2006 (UTC)
Tanlinellu
Os modd I rhywun cael gwared o'r "underlines" ar y dolenu? Bydd yr adran Gymraeg o Wikipedia yn edrych fel gweddil y gwefan wedyn. Ar y foment dwi'n gweld y dolennu braidd yn hyll I gymharu a'r fersiwn Saesneg I fod yn blwmp ac yn blaen. Diolch!
- Awgrym da. Oes modd ei gyflawni? Lloffiwr 19:58, 30 Gorffennaf 2006 (UTC)
- Plis? Unrhywun?
- This is a request to remove underlines on the links on hafan, to improve the look of the page. If this is not possible, could an administrator please put a note here to confirm that. Lloffiwr 20:45, 29 Medi 2006 (UTC)
- Yn ôl Adam:
- Mae'n bosib ei wneud yn eich dewisiadau (cliciwch ar y tab "Gosodiadau amrywiol" ac yna dewisiwch "Byth" yn y gwymplen "Tanlinellu cysylltiadau") ond dwi ddim yn gwybod sut mae rhagosodu hyn ar gyfer pob defnyddiwr ac ymwelwr i'r wefan.
- Gyda llaw, cofiwch lofnodi'r cyfraniadau at y tudalennau sgwrs â ~~~~ os gwelwch yn dda. Lloffiwr 18:49, 24 Tachwedd 2006 (UTC)
- Yn ôl Adam:
Translation request
I'm not very good at welsh so I was wondering if someone might be able to translate and add the following information to this wikipedia's UNICEF page. Under the possible heading of public preception. Thank you. Alexanderr 08:40, 26 Tachwedd 2006 (UTC)
- The Catholic Church has been critical of UNICEF, with the Vatican even withdrawing donations, because of reports by the American Life League that parts of the funding pay for sterilizations, abortions, and contraceptives. The cause for this accusations had been, that UNICEF had spread information about possible measures to girls who were in danger of being raped by soldiers during civil wars as well as education on how to avoid HIV-infection and how to reduce exorbitant birth rates. [1].
Hafan
Helo pawb, pam ydw i'n cael 2 tudalen "HAFAN"? / Hello everyone, why am I having 2 "HAFAN" pages? Amlder20 20:44, 28 Rhagfyr 2006 (UTC)
- Beth yw cyfeiriadau gwe y ddwy dudalen Hafan? Lloffiwr 21:11, 28 Rhagfyr 2006 (UTC)
- Mae'n swnio'n ddigwyddiad anghyffredin iawn. Ydych chi wedi trio gwagio'r stash porwr yn ddiweddar (Glanhau'r Ddisg)? Efallai fod dau fersiwn o'r dudalen yn eich ffeiliau rhyngrwyd dros dro. Anatiomaros 21:30, 28 Rhagfyr 2006 (UTC)
These colors look awful
The colors (red & yellow) in lower two boxes look realy awfull and irritating. You should replace them with someting brighter.
- The colours look OK. Paul-L 19:48, 8 Ionawr 2007 (UTC)
- why does it matter how one spells the english word color on the *Welsh* wikipedia? --86.135.125.211 19:09, 17 Ebrill 2007 (UTC)
- Because UK English is an official language in Wales!? If you're going to write in English at all it ough to be the official form an not American English. This is an encyclopaedia afterall and we all like to pretend it's done properly ;) Thaf 15:17, 23 Tachwedd 2007 (UTC)
- It is my understanding that this is the Welsh language Wikipedia, not a Wikipedia run by the country of Wales, therefore the officiality of languages in Wales is utterly irrelevent. Furthermore there is no such thing as an "official form" of English. Unlike languages such as French, there is no regulatory body that dictates what the proper way to use the language is. --86.142.171.253 21:01, 26 Tachwedd 2007 (UTC)
- As this is the Welsh language wikipedia I don't see it makes too much difference as colour/color is an English word. You are right to say there is no "official form" of English per se, but the English wikipedia tends to use American English or British/Irish English according to an article's context and location. In Wales we'd use colour not color. Personally I much prefer lliw! Anatiomaros 21:09, 26 Tachwedd 2007 (UTC)
Bar ar y chwith
Ar fy sgrîn i, mae Hafan wedi wedi i Prif tudalen [sic!] ac Erthygl hapgyrch wedi cymryd lle beth bynnag oedd yna o'r blaen. A Community portal wedi ymddangos hefyd yn Saesneg. Ai o fwriad yw hyn? Daffy 22:22, 15 Ionawr 2007 (UTC)
- Dyna sy gen i hefyd. Od iawn. Dwi'n gwybod dim amdano - wnes i ddim sylwi tan rwan. Anatiomaros 22:39, 15 Ionawr 2007 (UTC)
- Mae'n iawn nawr. Dwi wedi sylwi ar hwn o'r blaen – bydd y panel yn newid i ddiwygiad hynafol am ddiwrnod neu ddau, ac yna'n newid 'nôl. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 19:30, 17 Ionawr 2007 (UTC)
Image replacement request
Please change the browser icons (globe) to Image:Nuvola apps package network.png. Thanks. commons:User:Siebrand 22:17, 15 Mai 2007 (UTC)
- Done. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 22:23, 15 Mai 2007 (UTC)
Gwneud cyfraniadau
Fel Saer clo dwi'n fodlon sgwennu swp o stwff ar sut mae cloeon yn gweithio, agor cloeon ayb.
Ydi hwn y math o beth fydd yn cael ei groesawu?
Oes rhaid i mi mewngofnodi i neud hyn.
Sorri am fod yn ddwl, ond mae gen i wybodaeth arbennigol i'r Gwyddoniadur, os dwi'n medru gweithio allan yn gall sut i'w gyfrannu!
- Yn y "caffi" dylid gofyn rhywbeth fel hyn, ella mai dyna pam does neb wedi ateb hyd yma. Croesewir unrhyw wybodaeth gwyddoniadurol yma, dwi'n siwr fod digon i'w ddweud am gloeon! Mae'n well creu cyfrif a mewngofnodi, ond nid yw'n angenrheidiol. Fe all tudalennau cyfatebol mewn ieithoedd eraill fod yn fan cychwyn defnyddiol. Diolch, a hwyl, -Llygad Ebrill 19:22, 3 Awst 2007 (UTC)
Pethau alla i ddim eu golygu
Ga i awgrymu i bwy bynnag all olygu'r brif dudalen y dylid newid y frawddeg gyntaf Mae Wicipedia yn brosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd i Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia ?
Hefyd, wrth olygu unrhyw dudalen/erthygl ar wicipedia, mae blwch bach i'w dicio yn dweud "Mae hwn yn olygiad bychan". Dw i'n ticio hwnnw yn eitha aml gan mai jyst newid sillafu ac ati ydw i; ond mae trefn y frawddeg yn dilyn y patrwm Saesneg yn hytrach na'r patrwm Cymraeg naturiol. A fyddai modd ei newid i "Golygiad bychan yw hwn" ?
Hefyd, does dim to ar yr o yn cod! [yn Dangos côd y dudalen]
Diolch am eich cymorth Jac y jwc 12:18, 28 Hydref 2007 (UTC)
- Wedi newid disgrifiad y blwch golygiad bychan. Yn bwriadu newid yr Hafan os y cawn eilydd. Ynglŷn â cod/côd - nid yw'r geiriaduron yn cytuno ar y mater - ond nid yw'r geiriaduron wrth law gennyf ar hyn o bryd! Hwyl am nawr. Lloffiwr 20:47, 28 Hydref 2007 (UTC)
- Wedi cael gafael ar rai geiriaduron - fel hyn maent yn trin 'cod/côd':
- Geiriadur yr Academi - côd
- Y Geiriau Lletchwith, Y Termiadur a Geiriadur Prifysgol Cymru - cod
Mae geiriadur Prifysgol Cymru hefyd yn rhestri còd sef benthyciad o'r Saesneg ar gyfer y pysgodyn (penfras).
Oes gan rywrai heblaw am Jac y jwc farn bendant ar y mater? Lloffiwr 21:35, 2 Tachwedd 2007 (UTC)
- Dydi o ddim y peth pwysicaf yn y byd imi, ond dwi'n tueddu i ddefnyddio côd gan fod cod yn edrych ac yn swnio fel y pysgodyn (!). Ar y llaw arall mae'n debyg fod cod yn fwy cyffredin na côd. Anatiomaros 22:09, 2 Tachwedd 2007 (UTC)
- Ddim y peth pwysicaf yn y byd imi chwaith, do'n i ddim yn sylweddoli bod anghytundeb am y mater! Mae 'na ryw reol ar gyfer hyn, rhyw acronym yn rhestru cytseiniaid a llafariaid sy'n peri i'r acen grom ddigwydd. Ddim yn siwr be fydd hynny'n ei brofi, ond os do i ar ei draws mi wna i ei ddyfynnu yma... Jac y jwc 22:28, 15 Tachwedd 2007 (UTC)
- Dydi o ddim y peth pwysicaf yn y byd imi, ond dwi'n tueddu i ddefnyddio côd gan fod cod yn edrych ac yn swnio fel y pysgodyn (!). Ar y llaw arall mae'n debyg fod cod yn fwy cyffredin na côd. Anatiomaros 22:09, 2 Tachwedd 2007 (UTC)
- Gan nad oes neb wedi gwrthwynebu cynnig Jac y jwc ar gyfer yr hafan rwyf wedi mentro newid yr Hafan. Os bydd gwrthwynebiad siawns y cawn sylwadau ar y mater fan hyn! Lloffiwr 23:26, 13 Tachwedd 2007 (UTC)
- Diolch Lloffiwr :-) Jac y jwc 22:28, 15 Tachwedd 2007 (UTC)