Sgwrs:Hafan/archif3

Latest comment: 5 o flynyddoedd yn ôl by SpesBona in topic Afrikaanse Wikipedia


"Y gwyddoniadur rhydd, am ddim a Chymraeg."

A ddylai "y gwyddoniadur rhydd, am ddim a Chymraeg" fod "y gwyddoniadur rhydd, am ddim, ac yn Gymraeg" yn lle? Mae'n fel dweud "the free encyclopedia, for nothing (h.y., free), and Welsh language" yndyfe? -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 03:32, 1 Mai 2010 (UTC)

Article request

en:HM Prison Service has a webpage in Welsh - Maybe one can use it to write a brief stub in Welsh about the government agency? WhisperToMe 11:12, 3 Mai 2010 (UTC)

There's also en:Morrisons which has a Welsh Page WhisperToMe 04:52, 21 Mehefin 2010 (UTC)

Diolch/Thanks, WhisperToMe. These are just some of the numerous articles we could do with here but as you probably know we have only a small number of regular contributors and so much to do. Hopefully we'll get around to these some time as well! Anatiomaros 16:14, 21 Mehefin 2010 (UTC)
PS The place to ask these and similar questions or to voice an opinion is Y Caffi, not here (which is for discussing the contents of our "front page",the Hafan). Anatiomaros 16:16, 21 Mehefin 2010 (UTC)

Mount Wales

A prominent but unnamed mountain peak in Colorado associated with a Welsh-American is being considered for official naming. What is the proper Cymraeg equivalent of "Mount Wales?" Yours aye, Buaidh 14:53, 5 Mai 2010 (UTC)

Interesting. They already have quite a few Wales- place names, including Lake Wales. The literal translation would be 'Mynydd Cymru', but I must admit it sounds a bit odd. Anatiomaros 16:37, 5 Mai 2010 (UTC)

Any other suggestions for a Cymraeg mountain name that honours Wales? How about "Brig Cymru" or "Copa Cymru"? Yours aye, Buaidh 14:02, 7 Mai 2010 (UTC)

Well, one point to consider is the source of the name. If it's named after a person with the surname 'Wales' obviously we don't translate it. So it would be 'Mynydd Wales', 'Llyn Wales' etc. If it's named for Wales itself then we have numerous precedents including De Cymru Newydd/New South Wales. 'Copa' has the primary meaning 'peak' and 'brig' is only used for part of a mountain (= 'top', 'brow', 'crest' etc). Where exactly is this proposed 'Mount Wales', by the way (Colorado's a big place)? Hwyl, Anatiomaros 16:27, 7 Mai 2010 (UTC)

Aye. The summit in question is the 4081 metre highest point of the Williams Mountains located at 39.1806°N 106.6102°W in the Hunter-Fryingpan Wilderness east of Aspen, Colorado, Unol Daleithiau America. This peak is the 99th highest major summit of North America and the highest unnamed major summit in Gogledd America. It is sometimes referred to as Williams Mountain, although this name has never been officially recognized, and there are ten other U.S. peaks of that name. A distinctive Cymraeg name might renew interest in this remote but beautiful area.

Please take a look at this photo of the summit and these photos and let me know what Cymraeg name comes to mind. The summit is a rocky crag. Yours aye, Buaidh 13:30, 10 Mai 2010 (UTC)

It's a wonderful place indeed, Buaidh. Not sure it's up to me to name it though! I think you'd have to be there yourself and breathe in the atmosphere suggested by the pics on summitpost.org to get the inspiration for that. So who's proposing the renaming to 'Mount Wales'? Do you know of anything on the web? I can't find anything on that. Hwyl, Anatiomaros 20:19, 10 Mai 2010 (UTC)
PS However, there is a Mount Wales in BC, Canada. Anatiomaros 20:22, 10 Mai 2010 (UTC)

This summit currently has no official name, but is variously known as the "high point of the Williams Mountains", "unnamed peak 13,382", "Williams Mountain", "Peak 13,382", and "UN13,382". The actual elevation of this summit has been recalculated to be 4081 metres (13,389 feet). This summit needs a proper name that reflects its status as the apex of the Williams Mountains. The name could be a simple descriptor such as "Copa Craig" or "Copa Mynydd". The name could incorporate the name "Williams", "Wales", "Welsh", "Pitkin" (The name of the Governor from whom the county is named), or several other related names. That name could be in Saesneg or Cymraeg. I'm just soliciting possible names at this point. I hope that we can propose a name that might catch the fancy of mountaineers. Yours aye, Buaidh 20:46, 10 Mai 2010 (UTC)

We here at Llangollen Secondary School think that Mount Wales would be excellent, or Carnedd Owain (Mount Owain), as we have no mountain to commemorate our last Welsh Prince of WalesOwain Glyndwr. Ysgol Dinas Bran 16:09, 11 Mai 2010 (UTC)

Dechrau brawddeg gydag "Ac"

Dim ond cwestiwn bach...Pan ro'n i yn yr ysgol, ces i fy nysgu i osgoi dechrau brawddegau gydag "A" neu "Ac" (yn ogystal a geiriau fel achos a.y.b. am mai cysyllteiriau ydynt. A fyddai'n fwy addas felly i ddechrau'r drydedd frawddeg gydag "Os chwiliwch am erthygl..." Unrhyw farn? Sylwadau? Pwyll 17:04, 11 Mehefin 2010 (UTC)

Mae'n well beidio dechrau brawddeg ag "ac" neu "a" yn fy marn i, am yr union reswm rhoddaist. Ond wedi dweud hynny, dwi'n meddwl mae'n dderbyniol wrth lafar ac mewn sefyllfaoedd anffurfiol, ond ar gyfer Wicipedia, defnyddia'r ffurf bersonol. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 01:09, 12 Mehefin 2010 (UTC)
Anghytuno. "Ffug-rheol" ydy peidio dechrau brawddeg efo a/ac, yn wahanol i'r Saesneg mae'n arfer naturiol a chyffredin yn y Gymraeg, er gwaethaf ymdrechion crach-ysgolheigaidd. Caiff ei ddefnyddio ar ddechrau brawddeg llawer yn y beibl "A phan welodd Ioan lawer o'r Phariseaid..." (anffurfiol?!?), ac yn gyffredin iawn mewn brawddegau fel "A minnau'n un ar hugain oed, euthum i chwilio am gariad." "Ac yntau'n aelod o'r blaid..." "A hithau'n bwrw glaw" mewn Cymraeg cywir. Yn wahanol i'r uchod mae'r enghraifft yma yn swnio'n anffurfiol, ond nid yw'n anghywir yn fy marn i. gw. Gramadeg y Gymraeg David Thorne, erthyglau 359 a 399. --Llygad Ebrill 22:13, 13 Mehefin 2010 (UTC)
Cytuno efo sylwadau Llygadebrill. Mae llawer yn dibynnu ar y cyd-destun wrth gwrs. Anatiomaros 22:22, 13 Mehefin 2010 (UTC)

Learners/Dysgwyrs

I was just wondering whether it would be possible for Wikipedia (or Wicipedia) to install some sort of way of helping learners out with vocabulary, like the BBC Cymru homepage. I'm not asking for you to create a Simple Welsh (lol) just a vocab thing. What dyou reckon? Thefartydoctor 14:11, 2 Awst 2010 (UTC)

It's not very well publilcised, but you can now use the BBC Vocab to veiw any Welsh language website: http://www.bbc.co.uk/apps/nr/vocab/cy-en/cy.wikipedia.org (by adding the target page's URL minus the protocol). Hope this helps.--Ben Bore 14:34, 2 Awst 2010 (UTC)
Thanks mate. I'll check it out!
Thefartydoctor 19:39, 3 Awst 2010 (UTC)
Swmae! Hello there!

I 'm active at the Gothic wikipedia and I 'm speaking with the admin there. If Wikipedia accepts PHP or Javascript, I could possibly code a tool to view the translation of words if you keep your mouse over it. The only problem is that I don't know yet how to use or add codes at Wikipedia. I could also help you with it maybe and not only restrict it to the Gothic wikipedia. Bokareis (sgwrs) 18:47, 12 Hydref 2014 (UTC)

Pwynt bychan

Dim ond sylw/nodyn bychan - oni fyddai y gwyddoniadur rhydd y gall unrhyw un ei olygu yn well ar dudalen yr hafan? Mae'n swnio ychydig yn chwithig ar hyn o bryd. Eisingrug 17:03, 25 Awst 2010 (UTC)

Wnes i ddim sylwi cyn hyn ond dwi wedi'i gywiro rwan. Diolch i ti! Anatiomaros 17:07, 25 Awst 2010 (UTC)

Delwedd Nadolig Llawen

Dwi ddim yn siŵr am y ddelwedd Nadolig Llawen - beth am y bobl sy ddim yn dathlu'r Nadolig? Mae angen cadw safbwynt niwtral arnom, yn does, gydag erthyglau a phob dim Wicipiadidd?! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 11:08, 17 Rhagfyr 2010 (UTC)

Croeso rwts-rats

Dyma'r croeso rydym yn ei roi ar ein Hafan:
 
Cwbwl annerbyniol. Awgrymaf lleihau maint ffont y geiriau "Croeso i Wicipedia" fel yn en a'r Almaeneg ayb. Ac mae'r geiriad angen ei newid yn ôl i'r hyn ydoedd: "Y gwyddoniadur rhydd, am ddim." neu beth am gyfaddawd: "Y gwyddoniadur rhydd, am ddim y gall unrhyw un ei olygu." ? Llywelyn2000 10:25, 20 Chwefror 2011 (UTC)

Cytuno â Llywelyn2000. Ar hyn o bryd mae'r teitl yn edrych fel petai gwall yn y feddalwedd a'i fod yn cywasgu'r teitl yn ormodol. O ran y diffiniad o Wicipedia, dw i ddim yn teimlo'n gryf naill ffordd neu'r llall. Pwyll 11:45, 20 Chwefror 2011 (UTC)
Dyma'r tro cyntaf iddo edrych fel hynny imi. Od..... Dwi'n cytuno â'r teitl, ond mae'r geiriad (lle cynhwysir) 'am ddim' yn swnio'n ormod imi yn bersonol. Mae'n iawn i en, achos bod "free" yn cyfleu'r ddau ystyr, ond mae ddau ystyr Cymraeg yn wahanol i'w gilydd. Wedi dweud hynny, dwi ddim yn credu bod rhaid inni dynnu sylw at y ffaith bod Wicipedia am ddim, ond af gyda'r consensws. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 22:23, 20 Chwefror 2011 (UTC)
Diolch eich dau am ymateb mor sydyn. Dyma giplun o'r geiriad Saesneg ar en:

 
Fel y gwelwch, er bod mwy o eiriau yn en, mae'n daclusach. Ydy, Glenn, mae'r Saesneg yn cyfeirio at y ddwy ystyr ac yn ogoneddus o syml. Dw i'n credu bod cyfleu'r ddau beth yma'n bwysicach na dim. Dyna'r raison d'etre pam dw i yma: i roi gwybodaeth i blant a phobol Cymru yn eu hiaith eu hunain - heb orfod talu £65 am lyfr sy'n dyddio ac yn ffosilio gynted ag y mae'r horwth papur hwnnw yn gadael y cownter. Tybed Glenn, pe baem yn rhannu'r gosodiad i ddwy linell - fyddai'r peth yn gliriach? e.e.
Y gwyddoniadur rhydd am ddim
y gall unrhyw un ei olygu.
A lleihau ffont "Croeso i Wici!" ar yr un pryd! Llywelyn2000 05:27, 21 Chwefror 2011 (UTC)

Cytunaf gant y cant â'r hyn a awgrymir gennyt, Llyw! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:41, 22 Chwefror 2011 (UTC)
Beth am yr hyn sydd yno yn awr? Ô.N. A oes angen y bar chwilio o gwbl?-- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:53, 22 Chwefror 2011 (UTC)
Beth bynnag wyt yn ei gyffwrdd, Glenn, mae'n troi'n aur - nage mil gwell nag aur - yn bridd ffrwythlon! Mae'n edrych yn fendigedig o syml ac yn ddisgrifiad cwbwl gywir. Dw i hefyd yn cytuno a thi am y bar-chwilio; efallai mai ei le ydy ar y naill ochor neu'r llall i'r geiriad. Ble bynnag y rhoi di e, mae gan gwaith gwell nag yr oedd. Llywelyn2000 04:24, 22 Chwefror 2011 (UTC)
Diolch :) Bûm yn chwilio am gôd er mwyn symud y bar chwilio i dde'r geiriad, ond ni ddeuthum o hyd i unrhyw beth. Beth am jyst cael gwared â fe - baswn ni'n ei symud i'r dde tasai e syth o dan bar chwilio Wici, a baswn ni'n ei symud i'r chwith, tasai'n edrych yn od. Beth amdani? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 13:02, 22 Chwefror 2011 (UTC)
Cytuno. Mae na far-chwilio yno beth bynnag - does dim angen dau! Awe! Llywelyn2000 19:50, 22 Chwefror 2011 (UTC)

Llawer gwell. Diolch Glenn. Llywelyn2000 07:40, 23 Chwefror 2011 (UTC)

Mae Defnyddiwr:Rhyshuw1 newydd greu ailbobiad hollol wahanol, gyda fframiau glas, ac yn eitha tebyg i'r 'pyrth' mae Glenn yn son amdanynt. Yn bersonol mae hwn yn welliant, ond hoffwn farn Glenn ac eraill arno. Mae angen ychwanegu'r ieithoedd, mae'n debyg, Rhys. O bosib - lleihau trwch y linell las? Manion ydy'r rhain ac ar y cyfan mae fersiwn Glenn a Rhys yn dderbyniol i mi. Llywelyn2000 13:24, 23 Chwefror 2011 (UTC)

Newid i'r Hafan 23 Chwe. 2011

Helo, bawb. Syth i'r pwynt, felly; dwi ddim yn hoff iawn o olwg newydd y Hafan. Roeddwn yn hoffi'r fersiwn cyn hynny. Mae'r un cyfredol, newydd yn cynnwys elfennau a dynnwyd ar ôl trafod - y bar chwilio, y bylchau ayyb. Mae'r geiriad "Gwyddoniadur rhydd, am ddim a Chymraeg" o hyd yn fy nrysu; imi, mae'n darllen fel "A (yn hytrach na 'the') free encylopeadia, free and Welsh language." Felly, dwi'n awgrymu inni bleidleisio dros yr yn newydd, cyfredol a fersiwn cyn hynny. Mae'n rhaid inni gofio, hefyd, i drafod newidiadau mawr fel hyn cyn iddynt ddigwydd! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 15:39, 23 Chwefror 2011 (UTC)

Y hen fersiwn. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 15:39, 23 Chwefror 2011 (UTC)
Rwyt ti'n iawn Glenn. Ni ddylid gwneud newidiadau mawr heb ymgynghori - a pa ffordd gwell na'th awgrym o bleidlais! Dw i wedi dadwneud y newid a wnaed gan Rhys; gweler fy sylwadau ar ei dudalen Sgwrs. Mi hoffwn i bleidleisio i'r ddau, ond cha i ddim! Ond mae'r ddau'n well na'r hen un a oedd gennym ni'r wythnos diwetha!
ON Dw i wedi addasu fersiwn Rhys (y fersiwn newydd) yma: Defnyddiwr:Llywelyn2000/Hafan Gwanwyn 2011; mae croeso i bawb ei adasu a'i wella.
Llywelyn2000 03:33, 24 Chwefror 2011 (UTC)
Wedi'i diwygio tipyn bach. Beth ydych yn meddwl amdano? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 22:25, 24 Chwefror 2011 (UTC)
Llawer gwell. Beth am gynnig y ddau? Hwn fel default, gyda dolen ar y top efo geiriad megis "Fersiwn Cymraeg Syml" yn arwain i'r ail fersiwn (Rhys)? Diolch. Defnyddiwr:Llywelyn2000
Beth wyt ti'n ei olygu? Cael dau fersiwn o'r un Hafan, un sy'n dilyn y llall? Dwi ddim yn hoff iawn o'r syniad os mai dyma yw dy awgrym mae'n rhaid imi ddweud.... -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:37, 26 Chwefror 2011 (UTC)
Ia, dw i'n cofio ei weld ar un o'r ieithoedd eraill, botwm ar y fersiwn default (presenol) yn deud "Fersiwn Syml". Gall Defnyddwyr wedyn wneud y fersiwn lliwgar / syml yn Hafan. Gyda llaw, cymer olwg ar rai o'r ieithoedd eraill e.e. Catalaneg neu'r Gaeleg. Ond y default sydd gan yr ieithoedd mwyaf, a mae hwnnw'n edrych yn dda, bellach! Llywelyn2000 09:40, 27 Chwefror 2011 (UTC)

Gwelaf i :) Dwi ddim yn siŵr sut mae gwneud hynny, oherwydd mi fydd yn ddibynniol ar osodiadau a dewisiadau'r defnyddiwr dan sylw, oherwydd mi fydd yn rhaid iddynt newid côd rhyw dudalen dwi'n credu, ac o ganlyniad, mi fydd yn rhaid inni ysgrifennu cyfarwyddiadau iddynt hwy wneud hyn, neu eu troi at en - ac nid ydym am wneud hynny ;) Dwi'n hoff iawn o Hafan yr Aeleg, mae'n rhaid dweud, ac dwi am i'n Hafan ni fod yn debyg iddo hefyd. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 01:42, 28 Chwefror 2011 (UTC)

Efallai fod y dewis gennym yn barod: Wicipedia:Porth y Gymuned - sy'n llawer gwell na'r Hafan yn fy marn i! Llywelyn2000 07:31, 5 Mawrth 2011 (UTC)
Rwy'n hoff o'r hyn sydd gennym ni yn barod ar y Hafan, ond rwy'n meddwl bod angen rhywbeth tebyg, cyson â'r Wiciau eraill. Mae'r peth Porth yn cael ei datrys ar hyn o bryd :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 16:48, 5 Mawrth 2011 (UTC)

Survey on this wikipedia

(Ymholiad ynglyn a bathu termau)
Moved discussion to Y Caffi (cy version of Village Pump). It may get more views and response. --Ben Bore 20:36, 13 Medi 2011 (UTC)

Mobile main page

Hi,

The main page of this Wikipedia is not currently configured to work on mobile phones. Can you please configure it? You'll just have to add a couple of lines to it. The instructiones are here: meta:Mobile Projects/Mobile Gateway.

Thanks!

P.S. This reminded me of the famous Welshmen Super Furry Animals' song - "I've got a mobile phone, I've got a mobile phone, Wherever I lay my phone that's my home, I've got a mobile phone" :) --Amir E. Aharoni (sgwrs) 23:34, 23 Medi 2012 (UTC)

Diolch Amir! I've added a couple, can you add any others you think fit, please?
There are two English words still on the Main Page:
  • "Contact" should read "Cysylltu"
  • "About" should read "Ynglŷn â Wicipedia"
Thanks again, Llywelyn2000 (sgwrs) 05:47, 24 Medi 2012 (UTC)
To complete the translation of all the interface elements, like "More", "Contact", "About", etc. translate the following componenets in translatewiki.net:
They will be updated on the live site a couple of days after the translation.
There are also some things to fix here on the main page. I cannot fix them, because I'm not an administrator here. Basically, you only put the "mf-*" statements only on small parts of the page - the title and the link to the featured article. You should put it on the whole featured article excerpt. For example, today's featured article excerpt is "Parc Cenedlaethol yn ne Cymru [...] yn pori yn y parc", and all of that text is supposed to have the "mf-tfa" id. Maybe you can put it in Template:Pigion. --Amir E. Aharoni (sgwrs) 19:23, 24 Medi 2012 (UTC)

Baner Nos Galan Gaeaf

Gwych! Oes rhagor o faneri gennyt ar y gweill, Llywelyn? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 01:48, 28 Hydref 2012 (UTC)

Dathlu Degawd

Beth am ddolen barhaol at Wicipedia:Dathlu Degawd i dynnu sylw at ben-blwydd Wicipedia ac i ddenu syniadau? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 17:29, 24 Ebrill 2013 (UTC)

Rwyf wedi ychwanegu baner syml (Delwedd:Baner 10 mlynedd o Wicipedia.png) gyda dolen at Wicipedia:Dathlu Degawd. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 17:43, 19 Mai 2013 (UTC)

Cyswllt wicilyfrau

Mae'r cyswllt at Wicilyfrau ar yr hafan yn arwain at fersiwn Saesneg Wicilyfrau. Mae fersiwn Cymraeg i gael er nad oes llawer o fynd arno hyd yn hyn. Beth am newid y cyswllt? Lloffiwr (sgwrs) 13:59, 6 Gorffennaf 2013 (UTC)

Wedi newid. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 19:57, 12 Gorffennaf 2013 (UTC)

'Pigion' ar yr Hafan yn dangos fersiwn gwahanol o erthygl!

Sylwaf heddiw mai Clwb Pêl Droed Porthmadog ydy'r erthygl ar y dudalen flaen.

Tim sy'n chwarae yn Uwchgynghrair Principality Cymru ydi Clwb Pêl Droed Porthmadog; mae wedi'i leoli ym Mhorthmadog, Gwynedd.

Yn anffodus, tydy'r clwb o Bort heb fod yn Uwchgynghrair Cymru ers tymhorau maith, felly es i olygu a diweddaru'r erthygl yn syth. Ond yn rhyfedd ddigon mae'r wybodaeth ar yr erthygl yn wahanol ac weid bod felly ers o leiaf blwyddyn. Sut bod hyn yn digwydd? (Wedi croes bostio hyn ar dudalen sgwrs Hafan hefyd). --Rhyswynne (sgwrs) 08:27, 16 Gorffennaf 2013 (UTC)

Wedi ei sortio - ymddengys mai yma y storir y wybodaeth. Serch hynny, mae angen rhyw ffordd o sicrhau mai;r fersiwn cyfredol sy'n ymddangos ar yr Hafan. --Rhyswynne (sgwrs) 08:38, 16 Gorffennaf 2013 (UTC)

Syntax error

You have an HTML syntax error on line 7:

<div id=""mf-articlecount"

Diolch, ESanders (WMF) (sgwrs) 19:40, 28 Ebrill 2014 (UTC)

Thanks - fixed by removing first ". Lloffiwr (sgwrs) 12:26, 4 Mehefin 2014 (UTC)

Camddyfyniad

Mae'r ddyfyniad gan Harri Webb yn yr adran Pigion wedi'i ddyfynnu'n anghywir; rwy wedi ychwanegu'r fersiwn cywir, â ffynhonnell, at yr erthygl Pont Hafren. Camsillafwyd "Eingl-Gymreig" hefyd, a gellid dadlau hefyd mai'r Cymreigiad "Elisabeth II" yw'r ffurf fwyaf addas ar gyfer y gwyddoniadur hwn – yn sicr dyna mae ei herthygl yma yn ei galw. Ham (sgwrs) 18:22, 6 Mehefin 2014 (UTC)

Sgin ti ddolen? Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:22, 8 Mehefin 2014 (UTC)

On the English Wikipedia, we started a project called TAFI. Each week we identify underdeveloped articles that require improvement. Our goal is to use widespread collaborative editing to improve articles to Good article, Featured article or Featured list quality over a short time frame.

This is all about improving important articles in a collaborative manner, and also inspiring readers of Wikipedia to also try editing. We think it is a very important and interesting idea that will make Wikipedia a better place to work. It has been very successful so far, and the concept has spread to the Hindi Wikipedia where it has been well received.

We wanted to know if your Wikipedia was interested in setting up its own version of TAFI. Please contact us on our talk page or here if you are interested.--Coin945 (talk) 17:48, 2 September 2014 (UTC)

Llun coll

@Llywelyn2000: Mae'r llun Delwedd:Datum01.svg ar goll o'r Hafan ar hyn o bryd am fod {{diwrnodcyfredol}} yn dangos "1", nid "01". Bydd hyn yn gweithio o'r 10fed ymlaen ond nes ein bod yn ffeindio ffordd o ddangos dyddiadau fel "01" a ellid cael gwared ar y cod canlynol o'r hafan plîs:

<div style="float:right; margin:5px; margin-right:9px; padding-bottom:12px">[[Delwedd:Datum{{CURRENTDAY}}.svg|60px]]</div>

Diolch! Ham II (sgwrs) 06:55, 1 Mawrth 2015 (UTC)

Dyna od. Mae'r llun yn ymddangos yn iawn i mi. Dim problem. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:24, 1 Mawrth 2015 (UTC)
Mae dy ailgyfeiriad di wedi setlo'r broblem, dim ond angen gwneud yr un peth, felly, gyda 2-9. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:01, 1 Mawrth 2015 (UTC)

Why do I see the English logo rather than the Welsh one? 120.144.38.199 07:44, 29 Mai 2015 (UTC)

Ie, un Wikipedia Saesneg rwy'n ei weld hefyd! Llusiduonbach (sgwrs) 13:08, 30 Mai 2015 (UTC)
O ddifrif nawr, pam mae'r logo yn Saesneg?! Llusiduonbach (sgwrs) 07:44, 2 Mai 2016 (UTC)

Saterland_Frisian

Due to a failure of mine, the Welsh parallel of https://en.wikipedia.org/wiki/Saterland_Frisian_language seems to be lost. I only wanted to add the new addres of my grammar at http://seelter.16mb.com/seelgra4.htm

I am very sorry about that. And too about that I did not keep my Welsh above the level of ‘r gath ar a gadair. Greetings Pyt (sgwrs) 18:10, 21 Awst 2015 (UTC)

Ar y Dydd Hwn

@Llywelyn2000: Fi'n sylwi bod marwolaeth Geoff Charles yn ymddangos 'Ar y Dydd Hwn' heddiw ond mi farwodd e yn mis Mawrth yn ôl pon cofnod arall. Diolch Jason.nlw (sgwrs) 09:44, 7 Chwefror 2017 (UTC)

@Jason.nlw: Diolch Jason! Newydd ei ddileu. Mae Hafina Clwyd (gweler 'Rhywbeth Bob Dydd' (Gwasg carreg Gwalch, 2008)) yn mynnu mai dyma'r dyddiad! Gweler tud. 33! Ond mae LlGC yn siwr o wybod yn well! Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:37, 7 Chwefror 2017 (UTC)
@Llywelyn2000: Newydd sieco efo ein arbenigwr, a 7fed o mis Mawrth iw'r dyddiad cywir. Bydd erthygl yn cael ei cyhoeddu yn y Bywgraffiadur yn fuan. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 14:02, 7 Chwefror 2017 (UTC)

Celtic and Indigenous Languages Conference

Symudwyd i'r gornel Saesneg.

Ar y dydd hwn

@Llywelyn2000:: Mae marwolaeth Arthur Machen yn ymddangos heddiw ond farwodd ef ar 15 Rhagfyr yn ol pob cyfeiriad. Fi ddim yn siwr sut i tynnu/newid y cofnod. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 08:51, 30 Mawrth 2017 (UTC)

Gweler: Wicipedia:Ar y dydd hwn/30 Mawrth. Dw i'n gweld i'r dyddiad gael ei gywiro yma ar ei erthygl, ond nid AryDyddHwn! Gwych! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:02, 30 Mawrth 2017 (UTC)

Afrikaanse Wikipedia

Please add the Afrikaanse Wikipedia on the list, as it reached 50,000 articles today. The quality of articles seems to be good enough. Best regards, -- SpesBona (sgwrs) 10:05, 15 Mehefin 2018 (UTC)

Nôl i'r dudalen "Hafan/archif3".