Siân Eirian Rees Davies
Awdures yw Siân Eirian Rees Davies (ganwyd 1981).
Siân Eirian Rees Davies | |
---|---|
Ganwyd | 1981 Bangor |
Man preswyl | Penrhyn Llŷn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Gwobr/au | Gwobr Goffa Daniel Owen |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Bywgraffiad
golyguCafodd Davies ei geni ym Mangor yn 1981 a'i magu ar fferm ym Mhen Llŷn. Aeth i ysgolion cynradd Morfa Nefyn ac Ysgol Gynradd Nefyn, Ysgol Uwchradd Botwnnog a Choleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor gan ennill gradd yn y Gymraeg ac Ysgrifennu Creadigol a Gradd Meistr yn y Celfyddydau.[1]
Roedd yn diwtor Cymraeg ail-iaith am gyfnod yng Ngholeg Iâl Wrecsam cyn dychwelyd i'w chartref ym Mhwllheli. Hi oedd rheolwr cyntaf Canolfan Dreftadaeth Cae'r Gors, hen gartref Kate Roberts, pan agorodd yn 2007.[2]
Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005 gyda'i nofel hanesyddol I Fyd Sy Well am y Cymry yn ymfudo i Wladfa Patagonia.
Llyfryddiaeth
golygu- I Fyd Sy Well (Gwasg Gomer, 2005)
- Cysgodion y Coed (Gwasg Gomer, 2007)
- Nerth Bôn Braich, ar y cyd gyda Gwen Lasarus, Rhiannon Thomas, Eurgain Haf, Caron Edwards, Annes Glynn a Janice Jones (Gwasg y Bwthyn, 2008)
- Nain! Nain! Nain! (Gwasg Gomer, 2012)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Siân Eirian Rees Davies. Gwasg Gomer. Adalwyd ar 19 Medi 2016.
- ↑ Agor Cae'r Gors. BBC Cymru (Mai 2007). Adalwyd ar 19 Medi 2016.