Sian Lloyd (cyflwynydd newyddion)

actores

Newyddiadurwraig a chyflwynydd Cymreig yw Sian Lloyd (ganwyd 1968) sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar gyfer BBC News fel eu Gohebydd Canolbarth Lloegr.

Sian Lloyd
Ganwyd7 Mehefin 1972 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Prifysgol Caer Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithiwr, cyflwynydd teledu, newyddiadurwr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd ym Mangor, Gwynedd,[1] ac roedd teulu ei thad yn dod o Gricieth, lle treuliodd y rhan fwyaf o'i hafau. Magwyd Lloyd yn Wrecsam, yn siarad Cymraeg a Saesneg ac mae'n rhugl yn Ffrangeg.[2] Roedd ganddi swydd penwythnos yn ei harddegau yn Nhŷ Erddig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Astudiodd Lloyd am radd LLB yn y gyfraith yn Ysgol Y Gyfraith, Caer oedd ar y pryd yn gysylltiedig â Phrifysgol Caerlŷr, gan raddio yn 1993.

Hyfforddodd Sian fel cyfreithiwr gyda Lovell White Durrant yn Llundain a Hong Kong.[2]

Cychwynnodd ei gyrfa yn 1996 fel newyddiadurwr yng ngogledd Cymru fel gohebydd i BBC Cymru, ac yna, ar ôl symud i Gaerdydd aeth ymlaen i gyflwyno Good Evening Wales ar y radio, ac yna BBC Wales Today ar y teledu.[2]

Mae Sian wedi cymryd rhan mewn llawer o raglenni teledu Cymraeg S4C, gan gynnwys: her goginio Dudley: Pryd o Sêr; sioe siarad comedi Sioe Tudur Owen; rhaglen gylchgrawn Heno; a'r rhaglen i ddysgwyr Cymraeg Hwb. Roedd Sian yn rhan o dîm cyflwyno BBC Cymru ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2011, ac mae wedi bod yn feirniad yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2012.[2]

Mae Sian yn gweithio ar gyfer BBC News fel gohebydd Canolbarth Lloegr.[2] Fel rhan o'i rôl gohebydd, mae Lloyd yn cyfrannu'n rheolaidd i raglen Crimewatch y BBC. Ers i nifer o raglenni'r BBC symud i MediaCityUK yn Salford Quays, Manceinion yn 2012, mae Sian wedi bod yn gyflwynydd cyflenwol rheolaidd ar raglen BBC Breakfast.

Bywyd personol

golygu

Mae Sian yn byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr a'i mab.[3]

Mae Sian yn cefnogi Ymddiriedolaeth y Tywysog a Gwobr Dug Caeredin, ac yn llysgennad ar gyfer Gofal Hosbis George Thomas.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Don't mind your Ps and Qs: Sian Lloyd". walesonline.co.uk. 30 July 2011. Cyrchwyd 2 July 2015.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 "Sian Lloyd". Welsh Stars. Cyrchwyd 2009-08-06.
  3. "Gardening news with BBC Wales's Sian Lloyd". Lynne Allbutt. July 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-10. Cyrchwyd 2009-08-06.