Testun traddodiadol a ddefnyddir yn Wica, crefydd Neo-baganaidd, gyda'r bwriad o ysbrydoli'i chredinwyr yw Siars y Dduwies. Mae fersiynau amrywiol yn bodoli, ond mae ganddynt i gyd yr un fformat sylfaenol. Cred Wica mai set o gyfarwyddiadau ydynt oddi wrth y Dduwies Fawr. Ni ŵyr neb pwy a ysgrifennodd y Siars, ond achredir y testun i Gerald Gardner a'i Archoffeiriades, Doreen Valiente.[1] Addasodd Valiente y Siars yng nghanol y 1950au, ac fe'i cynhwysir yn y fersiwn Gardneraidd o Lyfr y Cysgodion cyfredol.

Ceir hefyd sawl fersiwn o'r testun Siars y Duw.

Themâu

golygu
 
Y Dduwies Isis

Mae paragraff agoriadol y testun yn enwi casgliad o dduwiesau. Daw rhai duwiesau yn y casgliad o Fytholeg Rufeinig a Mytholeg Roeg, ac eraill o chwedleuon Celtaidd ac Arthuraidd. Mae rhai pobl yn meddwl bod y duwiesau hyn yn cynrychioli'r un Fam Fawr:

Gwrandewch yn awr ar eiriau'r Fam Fawr, a elwir hefyd gyda'i henwau hynafol o Artemis, Astarte, Athene, Dione, Melusine, Aphrodite, Ceridwen, Dana, Arianrhod, Isis, Brigit, a llawer o enwau eraill.

Mae'r thema hon yn atseinio'r gred Rufeinig yr adnabyddir y Dduwies Isis gan ddeng mil o enwau.

Seilir yr ail baragraff ar eiriau a ddywedir gan Aradia, merch i'r dduwies Diana, wrth ei dilynwyr yn llyfr Charles Godfrey Leland, Aradia, or the Gospel of the Witches. Ysgrifennodd Doreen Valiente y trydydd paragraff, gyda rhai brawddegau wedi'u haddasu o lyfrau Aleister Crowley, Liber AL vel Legis a Liber XV.

Cynseiliau Hynafol

golygu

Yn y llyfr The Golden Ass gan Apuleius, mae Isis yn dosbarthu yr hyn a elwir yn "siars y dduwies yn anad dim" gan Ceisiwr Serith. Mae hynny'n wahanol i'r fersiwn diweddar a ddefnyddir yn Wica.

Y Siars Wicaidd

golygu

Fe geir y fersiwn a ddefnyddir yn Wica mewn dogfen o'r 1940au, sydd yn dyfynnu o lyfr Charles Godfrey Leland, Aradia, or the Gospel of the Witches, a ffynonellau modern eraill,[2] yn arbennig o weithdy'r ocwltiwr Aleister Crowley. Mae llawer yn credu y casglodd Gerald Gardner y Siars,[2] neu aelod arall ei Gwfen, Cwfen y Fforest Newydd.[3] Addasodd Doreen Valiente, aelod o gwfen Gardner, fersiwn o'r Siars Gardneraidd ar ffurf barddoniaeth neu adnodau, ac wedyn fersiwn rhyddiaith arall. Caiff y fersiwn rhyddiaith ei oleddfu'n fawr gan bobl eraill ers iddo ddod allan i'r cyhoedd.

Roedd fersiwn rhyddiaith gyntaf Doreen Valiente yn cynnwys wyth adnod, a'r ail ohoni oedd:

Bow before My spirit bright (Crymwch o flaen Fy ysbryd disglair)
Aphrodite, Arianrhod (Aphrodite, Arianrhod)
Lover of the Hornéd God (Cariad y Duw Corniog)
Queen of witchery and night (Brenhines o ddewiniaeth a'r nos)[4]

Nid oedd Valiente yn hapus gyda'r fersiwn hwn, a dywedodd, "Yr oedd problemau gan gymaint o bobl gyda'r fersiwn hwn, oherwydd enwau'r gwahanol dduwiesau; nid oeddent yn gallu eu hynganu"[5] felly ail-ysgrifennodd Valiente fersiwn rhyddiaith newydd gyda llawer ohono ef yn gwahaniaethu o'i fersiwn cyntaf, ac yn fwy tebyg i fersiwn Gardner.

Y Siars Lawn

golygu

Archoffeiriad: Gwrandewch yn awr ar eiriau'r Fam Fawr, a elwir hefyd gyda'i henwau hynafol o Artemis, Astarte, Athena, Dione, Melusine, Aphrodite, Ceridwen, Dana, Arianrhod, Isis, a Bride, a chyda llawer o enwau eraill gan ddynolryw. O flaen ei Hallorau, gwnaeth ieuenctid Lacedaemon yn Spata eu hebyrth.

Arch Offeiriades: Pa bryd bynnag y ceir angen arnoch chwi, unwaith mewn mis a gwell iddi pan ydyw'r lleuad yn llawn, wedyn yr ymgynullwch chwi mewn rhyw fan cudd, ac addoli fy ysbryd i, sydd yn Frenhines y Gwrachod i gyd. Yno'r ymgynullwch chwi, chwi sy'n awyddus i ddysgu swyngyfaredd, eto heb ennill ei chyfrinachau dyfnaf hi; dysgaf i chwi bethau sydd ar hyn o bryd yn anhysbys. Ac y byddwch chwi yn rhydd o gaethwasiaeth; ac fel arwydd eich bod chwi wir yn rhydd, y byddwch chwi yn noeth yn eich defodau, dynion a gwragedd, a dawnsiwch, canwch, gwleddwch, gwnewch yn llawen a charwch chwi, a gwnewch chwi bopeth wrth fy nathlu i. Oherwydd myfi ydyw gorfoledd yr ysbryd, a hefyd llawenydd ar y byd; oherwydd cariad at bopeth ydyw fy nghyfraith i.

Cadwch yn bur eich delfrydau puraf; ymdrechwch am byth i'u cyflawni, ac na chaniatewch ddim byd i'ch atal neu'ch troi'r naill ochr; oherwydd myfi ydyw'r drws cudd sy'n agor ar wlad yr ieuenctid, ac myfi ydyw cwpan gwin bywyd, a phair Ceridwen, sef y Greal Sanctaidd a roir anfarwoldeb. Y Dduwies hynaws yr ydwyf, a rhoddaf yr anrheg o orfoledd i galon dynoliaeth. Ar y byd, rhoddaf wybodaeth ynghylch yr ysbryd tragwyddol; a thu hwnt i farwolaeth, rhoddaf heddwch, a rhyddid, ac aduniad gyda hwy sy'n gorwedd yng Ngwlad yr Haf. Ac na fynnaf aberth; am wele! Y Fam o bob peth sy'n byw yr ydwyf, ac arllwysir fy nghariad allan ar y Byd.

Archoffeiriad: Gwrandewch yn awr ar eiriau Duwies y Sêr; hyhi yn y llwch o'r traed sy'n westywyr i'r nefoedd, y corff sy'n cylchynu'r bydysawd.

Arch Offeiriades: Prydferthwch y Byd gwyrdd a'r Lleuad wen ymhlith y sêr, dirgelwch y dyfroedd, a'r dymuniad o galon dynoliaeth yr ydwyf; galwaf at eich enaid. Codwch, a dewch ataf. Oherwydd yr enaid o natur sy'n rhoi bywyd ar y byd yr ydwyf. Ac ohonof aiff popeth ymlaen, ac imi y mae popeth yn dychwelyd; ac o flaen fy wyneb, pobl annwyl y duwiau, boed i'ch ysbryd mewnol fod yn rhan o berlewyg yr anfeidredd. Caniatewch i'm haddoliad fod yn y galon sy'n gorfoleddu, oherwydd wele! Pob un weithred o gariad a hyfrydwch ydyw fy Nefodau. Ac o ganlyniad, caniatewch fod ynddoch chwi brydferthwch a chryfder, pŵer a thosturi, anrhydedd a gostyngeiddrwydd, a digrifwch a pharchedigaeth. A chwi sy'n meddwl i'm hargeisio, gwyddoch na fydd eich ymofyn a'ch dyheu yn eich elwa, oni bai'r gwyddoch y Dirgelwch: os nid allwch ddod o hyd i'r hyn a chwiliwch amdano'r tu mewn i'ch hunan, ni ddewch o'i hyd byth y tu allan.

Felly wele! Myfi a fûm wrth eich ochr o'r dechrau, a myfi ydyw'r hyn a gyflawnwch ar ddiwedd chwant.

Nodyn: Cynhwysir yma eiriau'r Archoffeiriad mewn praff, ond fel arfer, dywedir y geiriau hyn wrth berfformio'r ddefod Tynnu'r Lleuad i Lawr yn unig.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Orpheus, Rodney. Gerald Gardner & Ordo Templi Orientis , Pentacle Magazine, Tudalennau 14–18.
  2. 2.0 2.1 http://www.ceisiwrserith.com/wicca/charge.htm Ceisiwr Serith. Ffynonellau o Siars y Dduwies. Wedi'i gyrchu ar 5ed o fis Mehefin, 2009
  3. Heselton, Philip. Gerald Gardner and the Cauldron of Inspiration. Milverton, Gwlad yr Haf: Capall Bann
  4. The Rebirth of Witchcraft, Doreen Valiente, tudalen 61
  5. The Rebirth of Witchcraft, Doreen Valiente, tudalen 62

Dolenni allanol

golygu