Siarter y Fforest

Siarter o 1217 a ailsefydlodd hawliau pobl cyffredin i ddefnyddio'r fforestydd brenhinol yn Lloegr oedd Siarter y Fforest (Lladin: Carta Foresta). Roedd y hawliau hynny wedi cael eu herydu gan Wiliam I a'i blant. Fe'i cyhoeddi yn Lloegr gan y Brenin Harri III pan oedd yn ifanc, o dan raglywiaeth William Marshall, Iarll 1af Penfro. Cywirodd rhai camarferion o Gyfraith y Fforestydd a oedd wedi cael eu hymestyn gan Wiliam II (Wiliam Rufus). Mewn sawl ffordd roedd y siarter yn atodiad i'r Magna Carta (1215) a oedd wedi mynd i'r afael â gwahanol camddefnydd o rym brenhinol.

Forest-charter-1225-C13550-78.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolsiarter Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi6 Tachwedd 1217 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
OlynyddWild Creatures and Forest Laws Act 1971 Edit this on Wikidata
Enw brodorolCharter of the Forest Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Hela mewn fforest ganoloesol, o gopi llawysgrif o Livre de chasse (1387) gan Gaston Fébus

HanesGolygu

Yn y Canol Oesoedd roedd y gair "fforest" (o Ladin, foris, "drws" neu "lidiart") yn golydu ardal gaeedig lle roedd gan y brenin (a rhai uchelwyr eraill) hawliau unigryw i hela anifeiliaid gwylltion ynddi ac i borfa ei wartheg ynddi. Yn y byd modern mae'r gair "fforest" yn gyfystyr â "choedwig", ond yn wreiddiol byddai "fforest" yn cynnwys nid coed yn unig, ond hefyd darnau mawr o rostir, glaswelltir a gwlypdiroedd, cynnyrch bwyd, pori ac adnoddau eraill.[1] Aeth tiroedd yn fwyfwy cyfyngedig wrth i'r Brenin Rhisiart I a'r Brenin John ddynodi mwy o ardaloedd fel fforestydd brenhinol. Ar ei fwyaf roedd fforestydd brenhinol yn gorchuddio tua thraean o dirwedd yn ne Lloegr. Felly roedd yn anodd i'r bobl gyffredin gynnal eu hunain ar y tir yr oeddent yn byw arno.

Cyhoeddwyd Siarter y Goedwig ar 6 Tachwedd 1217 yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul Llundain fel siarter ategol i'r Magna Carta.[2] Cafodd ei ailgyhoeddi yn 1225[3] gyda nifer o fân newidiadau i'w eiriau, ac yna ymunodd â'r Magna Carta yng Nghadarnhad y Siarteri ym 1297.[4]

Roedd fforestydd brenhinol yn ffynhonnell bwysig o danwydd (pren a mawn) ar gyfer coginio a gwresogi ac ar gyfer diwydiannau fel llosgi siarcol, ac roeddynt yn cyflenwi pori ar gyfer moch ac anifeiliaid eraill.[5] Felly rhoddodd y siarter rywfaint o ddiogelwch economaidd i bobl gyffredin oedd yn defnyddio'r fforestydd i chwilota am fwyd ac i bori eu hanifeiliaid. Tra roedd y Magna Carta yn ymdrin â hawliau barwniaid, adferodd y siarter rai hawliau a breintiau i'r bobl gyffredin a'u amddiffynodd rhag cam-drin gan uchelwyr.

Copïau sydd wedi goroesiGolygu

Dau gopi o Siarter y Fforest 1217 sydd wedi goroesi; mae un yn perthyn i Eglwys Gadeiriol Durham a'r llall i Eglwys Gadeiriol Lincoln. Arddangosir copi Lincoln fel arfer yng Nghastell Lincoln, ynghyd â chopi Lincoln o'r Magna Carta. Ceir copi o ailgyhoeddiad o 1225 yn y Llyfrgell Brydeinig (Add. Ch. 24712).[6]

Datblygiadau diweddarachGolygu

Erbyn cyfnod y Tuduriaid, roedd y rhan fwyaf o'r deddfau yn amddiffyn y pren mewn fforestydd brenhinol. Fodd bynnag, parhaodd rhai cymalau yn Neddfau Fforestydd i weithredu tan y 1970au, ac mae llysoedd arbennig yn dal i fodoli yn y Fforest Newydd a Fforest y Ddena. Yn y modd hwn, y Siarter yw'r statud a pharhaodd i weithredu yn Lloegr am yr amser hiraf (rhwng 1217 a 1971). Fe'i disodlwyd yn y pen draw gan y Wild Creatures and Forest Laws Act 1971.

I nodi 800 mlwyddiant Siarter y Fforest, yn 2017 ymunodd Coed Cadw a mwy na 50 o sefydliadau traws-sector eraill i greu'r Siarter Coed i’r Werin, gan adlewyrchu'r berthynas fodern â choed a choedwigoedd a'r dirwedd i bobl yn y DU.[7]

CyfeiriadauGolygu

  1.  fforest. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 29 Awst 2022.
  2. English Historical Documents, cyf.3: 1189–1327, gol. Harry Rothwell (Llundain, 1995), t.337
  3. English Historical Documents, cyf.3, t.347
  4. Rothwell, English Historical Documents, cyf.3, t.485
  5. George C. Homans, English Villagers of the Thirteenth Century (Efrog Newydd, 1941)
  6. Harrison, Julian (14 Mehefin 2015). "How The Forest Charter Was Saved From Destruction". Medieval manuscripts blog. Cyrchwyd 29 Aug 2022.
  7. "Gwefan Siarter Goed", adalwyd 29 Awst 2022

Dolenni allanolGolygu