Sion a Siân

(Ailgyfeiriad o Sion a Sian)

Rhaglen deledu Cymraeg yw Sion a Siân. Darlledwyd yn gyntaf ar TWW ym 1964 pan oedd yr orsaf o dan reolaeth Wyn Roberts.

Sion a Siân
Genre Cwis
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 30 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol TWW 1964-1987
S4C 1997-2003, 2012-
Cysylltiadau allanol
Proffil IMDb
Am y ddyfais i ddynodi'r tywydd gweler Tŷ Sion a Siân

Hanes golygu

Dyfeiswyd y fformat cwis gan Roy Ward Dickson o Ganada a prynwyd hawliau Cymraeg y sioe gan TWW. Roedd y sianel yn gallu profi nifer o sioeau yn Gymraeg ac os oedd yn llwyddiannus byddai'n bosib gwerthu fersiwn Saesneg. Darlledwyd fersiwn Saesneg ar TWW yn 1965 ac yn y pendraw fe'i ddarlledwyd ar draws rhwydwaith ITV o'r 1960au i'r 1980au.

Cyflwynydd cyntaf y rhaglen Gymraeg oedd Dewi Richards, cigydd o Ystalyfera, a'i gynorthwyydd oedd Meriel Davies, gwraig y neidiwr hir Olympaidd Lynn Davies. Am fod Meriel yn athrawes nid oedd yn bosib iddi gyflwyno'r ail gyfres, felly rhoddwyd y cyfle i ysgrifenyddes ifanc, Jenny Ogwen, a oedd yn gweithio yn Llundain ar y pryd.

Collodd TWW y drwydded yn 1969 ond parhaodd y sioe ar HTV Cymru gyda Ifor Bowen Griffith yn cyflwyno, er nid oedd y fformat yn addas iddo. Wedi hynny daeth y ffermwr ifanc a chanwr Dai Jones i gyflwyno. Cafodd Dai sawl cynorthwyydd yn cynnwys Sarah Tudor, Mari Emlyn, Rosalind Lloyd a Mair Rowlands ond daeth Jenny Ogwen yn ôl drachefn. Cofir Dai a Jenny fel cyflwynwyr 'oes aur' y sioe rhwng 1971 a 1987.[1]

Fersiynau diweddar golygu

Yn 1996 atgyfodwyd y sioe gyda Ieuan Rhys a Gillian Elisa yn cyflwyno a darlledwyd 6 cyfres ar S4C hyd at 2003.

Dychwelodd y rhaglen unwaith eto yn 2012 gyda'r cyflwynwyr Stifyn Parri a Heledd Cynwal. Ymddangosodd cwpwl hoyw ar y gyfres am y tro cyntaf yn Ebrill 2012.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Sion a Siân, yr arloeswyr Cymraeg , BBC Cymru Fyw, 13 Ebrill 2016. Cyrchwyd ar 22 Awst 2017.
  2.  Cwpwl hoyw ar Sion a Siân. Golwg360 (31 Mawrth 2012). Adalwyd ar 9 Hydref 2012.

Dolen allanol golygu