Cwis

camp neu gêm lle bydd unigolion neu timau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd wrth ateb cwestiynnau

Math o gêm neu gamp chwarae ar gyfer y meddwl yw cwis[1] lle mae chwaraewyr yn ceisio ateb cwestiynau'n gywir am rai pynciau neu amrywiaeth o bynciau. Gellir defnyddio cwisiau fel asesiad byr mewn addysg a meysydd tebyg i fesur tŵf mewn gwybodaeth, galluoedd neu sgiliau. Gellir eu darlledu hefyd at ddibenion adloniant, yn aml ar ffurf sioe gêm. Byddai cwiz yn sillafiad agosach i'r ynganiad.

Cwis
Enghraifft o'r canlynolchwaraeon y meddwl Edit this on Wikidata
Mathmind game, cystadleuaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tîm yn cymryd rhan mewn cwis bar yn yr Iseldiroedd
Sioe gwis ar deledu'r Iseldiroedd, mae'r cwisfeistr yn y canol a chystadleuwyr o'i gwmpas

Etymoleg golygu

Mae'r enghreifftiau cynharaf y gwyddys amdanynt o'r gair yn dyddio'n ôl i 1780; nid yw ei darddiad yn hysbys, ond gall fod wedi tarddu o bratiaith myfyrwyr. I ddechrau roedd yn golygu "person od, ecsentrig" [2] neu "jôc, ffug". Yn ddiweddarach (efallai trwy gysylltiad â geiriau fel inquisitive daeth i olygu "arsylwi, astudio'n astud", ac yna (o tua chanol y 19g) "prawf, arholiad."[3]

Mae myth adnabyddus am y cwis geiriau sy'n dweud bod perchennog theatr o Ddulyn o'r enw Richard Daly wedi gwneud bet yn 1791 y gallai gyflwyno gair i'r iaith o fewn 24 awr. Yna aeth allan a llogi criw o blant y stryd i ysgrifennu'r gair "quiz", a oedd yn air nonsens, ar waliau o amgylch dinas Dulyn. O fewn diwrnod, roedd y gair yn arian cyffredin ac wedi ennill ystyr (gan nad oedd neb yn gwybod beth oedd yn ei olygu, roedd pawb yn meddwl ei fod yn rhyw fath o brawf) ac roedd gan Daly arian ychwanegol yn ei boced.[4] Fodd bynnag, nid oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r stori, ac roedd y term eisoes yn cael ei ddefnyddio cyn y bet honedig yn 1791.

Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru cofnodir y gair gyda'r sillafiad Gymraeg, 'cwis', yn yr 20g.[1] er ynghennir y gystan olaf fel 'z' ac nid fel 's'.

Record y byd golygu

Y cwis mwyaf, yn ôl Llyfr y Guinness Book of Records, oedd y "Cwis am Oes", a gynhaliwyd yn Neuaddau Expo Fflandrys yn Gent, Gwlad Belg, ar 11 Rhagfyr 2010 gyda 2,280 o gyfranogwyr. Roedd y tîm buddugol, Café De Kastaar, o Leuven yn cynnwys Marnix Baes, Erik Derycke, Eric Hemelaers, Bart Permentier a Tom Trogh.

Mewn addysg golygu

 
Vic Sotto d Joey de Leon mewn raglen o'r gyfres gwis, Who Wants to Be A Millionaire

Mewn cyd-destun addysgol, mae cwis fel arfer yn fath o asesiad myfyriwr, ond yn aml mae ganddo lai o gwestiynau sy'n llai anodd ac mae angen llai o amser i'w gwblhau na phrawf.[5] Mae'r defnydd hwn i'w gael yn nodweddiadol yn yr Unol Daleithiau, Canada, Ynysoedd y Philipinau, Gweriniaeth Dominica a rhai colegau yn India. Er enghraifft, mewn ystafell ddosbarth mathemateg, gall cwis wirio dealltwriaeth o fath o ymarfer mathemategol. Mae rhai hyfforddwyr yn trefnu cwis dyddiol neu wythnosol yn amrywio o bump i ddeg ar hugain o gwestiynau gweddol hawdd er mwyn i'r myfyrwyr adolygu eu gwersi blaenorol cyn mynychu'r dosbarth nesaf. Mae "cwis pop" yn gwis na roddir unrhyw amser i fyfyrwyr baratoi ar ei gyfer; yn syml, maen nhw'n synnu ag ef yn y dosbarth.[mae angen dyfynnu]

Cwisiau eraill golygu

Yn ogystal, gall cwis personoliaeth fod yn gyfres o gwestiynau amlddewis am yr atebydd heb atebion cywir neu anghywir. Mae’r ymatebion i’r cwestiynau hyn wedi’u cyfrif yn ôl allwedd, ac mae’r canlyniad yn honni ei fod yn datgelu rhywfaint o ansawdd i’r atebwr. Poblogeiddiwyd y math hwn o "gwis" yn wreiddiol gan gylchgronau merched fel Cosmopolitan. Ers hynny maent wedi dod yn gyffredin ar y Rhyngrwyd, lle mae'r dudalen canlyniad fel arfer yn cynnwys cod y gellir ei ychwanegu at gofnod blog i roi cyhoeddusrwydd i'r canlyniad. Mae'r postiadau hyn yn gyffredin ar lawer o wefannau fel LiveJournal.

Yn gyffredinol, mae canlyniadau cwisiau ar-lein i'w cymryd yn ysgafn, gan nad ydynt yn aml yn adlewyrchu'r gwir bersonoliaeth neu berthynas. Anaml y maent hefyd yn ddilys yn seicometrig. Fodd bynnag, gallant achosi adfyfyrio ar destun y cwis a darparu man cychwyn i berson archwilio ei emosiynau, credoau, gweithredoedd neu i roi rhywfaint o wybodaeth sydd eisoes wedi'i gaffael ar brawf.[6]

Cwisiau masnachol golygu

 
Bwrdd gêm cwis Trivial Pursuit

Mae gwerthu gemau bwrdd cwis yn boblogaidd. Ymysg y gemau bwrdd cwis mwyaf poblogaidd yw Trivial Persuit lle ceir hyd at 6 chwaraewr/tîm posib yn ateb cwestiynau wedi eu hysgrifennu a'u hargraffu ar gardiau pwrpasol. Y bwriad yw teithio ar hyd y bwrdd drwy ateb cwestiynau'n gywir. Ceir dros 100 gwahanol rhifyn mewn gwahanol ieitoedd, ond, ysywaith, dim yn y Gymraeg.[7]

Cwisiau Cymraeg golygu

 
Betsan Powys, cwisfeistr y gyfre Mastermind Cymru (llun o ddigwyddiad arall, 2012)

Ceir sawl matho gwis yn y Gymraeg, ac yn aml caent eu defnyddio fel modd o ddysgu Cymraeg i blant ac oedolion. Gallant fod ar bapur, llafar neu fideo. Gelwir y person sy'n gofyn y cwestiynau yn "cwisfeistr".

Cwis dysgu Iaith golygu

Bydd y cwisiau dysgu iaith yn amrywio mewn fformat, gallu ac adnodd. Gallant fod yn dalen gyda chwestiynau syml am Gymru neu'n gwneud defnydd o iaith neu gallant fod fel fideo syml[8] neu yn adnoddau mwy rhyngweithiol ac electroneg neu Ar-lein. Ceir hefyd cwisiau addysgol, sy'n aml hefyd yno er mwyn gwella caffael iaith y dysgwr.[9]

Cwis Diwylliant Gymraeg golygu

Genre arall o gwis Gymraeg yw un sy'n herio dealltwriaeth y chwaraewr o hanes, diwylliant ac iaith Cymru. Unwaith eto, gall rhain fod ar gyfer dysgwyr yr iaith ond mae nhw'n gyffredin ar gyfer siaradwyr rhugl. Gallant fod ar-lein ar y cyfryngau Cymraeg ac yn aml yn holi'r chwaraewr am hanes Cymru neu diwylliant gyfoes Cymru, megis canu pop Cymraeg.[10] Un nodwedd arall, ac un sy'n gyffredin i cwisiau ymob iaith o fewn eu cyd-destun ei hunain, yw y byddant yn cyd-redeg â digwyddiad genedlaethol neu ryngwladol megis gemau rygbi, dydd Gŵyl Dewi, neu digwyddiad fawr fel y Nadolig. Mae cwisiau hefyd yn ffordd o gyflwyno diwylliannau eraill i'r Gymraeg a'r Gymraeg i ddiwylliannau eraill, gwelwyd hyn mewn cwis a gynhaliwyd gan sianel ar-lein S4C, Hansh yn 2021 wrth iddynt gynnal cwis ysgafn (er gwybodaeth yn fwy na bri) ar wybodaeth siaradwyr Cymraeg o'r iaith Wyddeleg a siaradwyr Gwyddeleg o'r Gymraeg gan roi cwestiynau i pâr o Wyddelod a phâr o Gymry.[11] Ceid Galatig gyda'r cyflwynydd radio poblogaidd, Huw Stephens yn cyflwyno gyda fersiwn app ac ar y teledu.[12]

Cwisiau Teledu a Radio golygu

Trwy gydol hanes darlledu teledu a radio yn y Gymraeg, ceir rhaglenni cwis Cymraeg. Mae rhain yn gallu bod ar gyfer plant megis 'Cam i Gam' yn yr 1970au a'r 1980au; gêm cwis chwaraeon ar Radio Cymru neu fersiwn Gymraeg o'r cwis ddeallusol Mastermind Cymru a ddarlledwyd ar S4C gyda fersiwn i oedolion a chyfres i blant. Ymhlith y cwisiau roedd:

  • Siôn a Siân - dechrau yn yr 1960au cwis gyda pharau priod yn ateb cwestiynau am ei gilydd[13]
  • Mastermind Cymru yn yr 2010au
  • Cwis Pop - cwis am gerddoriaet pop Cymraeg a Saesneg ar BBC Radio Cymru, ceid sawl gwahanol gyflwynydd gan gynnwys Magi Dodd<ref>"Cwis Pop". BBC Radio Cymru. Cyrchwyd 19 Hydref 2022.
  • Cam i Gam gyda Dilwyn Young Jones a'r peiriant cwestiynau (tech isel!), Pod. Cwis i blant a phobl ifanc ar S4C yn yr 1980au.
  • Celwydd Noeth' - ar S4C
  • Cestyll Cantamil
  • Ni a Nhw - teledu Cymraeg yn yr 1970au

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "cwis". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 19 Hydref 2022.
  2. "quiz". Britannica. Cyrchwyd 19 Hydref 2022.
  3. "quiz". Britannica. Cyrchwyd 19 Hydref 2022.
  4. "World Wide Words: Quiz". World Wide Words.
  5. "Quiz: How much do you know about China and Turkey?". cnn.com.
  6. "Quiz Questions and Answers". quizoracle.com.
  7. "BoardGameGeek | Gaming Unplugged Since 2000". boardgamegeek.com. Cyrchwyd 2019-09-15.
  8. "Cwis Cymraeg". Ysgol Uwchradd Aberteifi. 27 Tachwedd 2020.
  9. "Community Cwis cymraeg". Wordwall. Cyrchwyd 19 Hydref 2022.
  10. "Cwis: Geiriau Caneuon Cymraeg". BBC Cymru Fyw. 20 Mehefin 2020.
  11. "Cwis Cymraeg 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 vs Gwyddeleg 🇮🇪". Hansh. 16 Chwefror 2021.
  12. "Cwis Cymraeg newydd sbon ar S4C yn cael ei gyflwyno gan Huw Stephens, DJ Radio 1 – gellir cyd-chwarae â'r rhaglen gydag ap symudol dwyieithog!". Galactig. 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-10-19. Cyrchwyd 2022-10-19.
  13. "Sion a Siân: Hanner canrif o raglen gwis hynaf Cymru". BB Cymru Fyw. 28 Ebrill 2014.