Siop pysgod a sglodion
Siop sy'n darparu prydau parod (tecawê) pysgod a sglodion yw siop pysgod a sglodion, er bod gan rai gyfleusterau eistedd megis bwyty. Gall siopau pysgod a sglodion hefyd werthu bwydydd eraill, gan gynnwys amrywiadau ar eu cynnig craidd fel selsig mewn cytew a byrgyrs, neu bwyd o fathau eraill fel bwyd Indiaidd.[1]
Math | seafood restaurant, lle bwyta bwyd parod |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguMae plac glas ym Marchnad Tommyfield, Oldham yn Lloegr yn nodi tarddiad siopau pysgod a sglodion a'r diwydiant bwyd cyflym yn yr 1860au.[2] Yn 1928, agorodd cadwyn bwytai bwyd cyflym Harry Ramsden yn y Lloegr. Ar un diwrnod ym 1952, fe wnaeth siop pysgod a sglodion y gadwyn yn Guiseley, Gorllewin Swydd Efrog weini 10,000 o ddognau o bysgod a sglodion, gan ennill lle iddo'i hun yn y Guinness Book of Records.[3]
Ceir cystadleuaeth Siop Pysgod a Sglodion gorau Prydain a sawl cystadleuaeth arall gan bod cynifer o'r bwytai i'w cael. Mae siopau sglodion o Gymru yn cystadlu yn y cystadlaethau hyn.[4]
Bellach, mae mannau gwerthu pysgod a sglodion yn gwerthu tua 30% o’r holl bysgod gwyn sy’n cael eu bwyta yn y Deyrnas Unedig, ac maen nhw’n defnyddio 10% o gnwd tatws y Deyrnas Unedig.[5]
Yn y Deyrnas Unedig, codir Treth ar Werth o 20% ar gludfwyd poeth, a diodydd mewn siopau cludfwyd (fel siopau sglodion) ond nid ar ategolion.[6]
Amrywiaethau ac ategolion
golygu- Pysgodyn - tra mai penfras yw'r pysgodyn gwyn di-ofyn yng Nghymru a Lloegr, hadog yw hi yn yr Alban.
- Risol - yn draddodiadol bydd siopau sglodion Cymreig, yn enwedig yn y Deheudir, yn gweinio risol sef peleni cig neu friwgig, pysgod neu lysiau wedi eu ffrio.
- Pys slwtsh - pys wedi eu berwi gyda menyn wedi ei ychwanegu atynt. Gelwir nhw hefyd yn pys gleision, pys stwnsh, pys stwmp, mwtrin pys.[7]
- Saws cyrri - mae saws cyrri hefyd yn boblogaidd gyda sglodion yng Nghymru, ac yn fwy felly na sawl rhan arall o Brydain. Mae'r saws yn cynnwys powdr cyrri ac yn debyg i grefi.[8]
Termau
golyguCeir termau amrywiol yn Gymraeg, gan gynnwys siop sgod a sglods, siop bysgod a sglodion (noder y treiglad), siop chips, siop tsips, neu siop jips[9] (noder y treiglad answyddogol o'r /t͡ʃ/ "ch Saesneg" i'r /j/), siop sglods a tafarn datws[10]. Mae'r term gellweirus 'sgod a sglods' yn dalfyriad o pysgod a sglodion.[11]
Term cymharol diweddar yw "Siop Sgod a Sglods" yn Gymraeg a theg dweud mai "siop jips" byddai'r term mwya cyffredin ar lafar.[angen ffynhonnell] Enwyd y siop jips yn yr opera sebon, Pobol y Cwm, yn "Siop Sgod a Sglods" efallai mewn ymgais bwriadol i hyrwyddo'r neu normaleiddio'r term Cymraeg.[12]
Mewn eitem ar y sianel i bobl ifanc, Hansh, bu i'r cymeriad pwped doniol, 'Gareth yr Orangutan', am brofiad gwaith mewn 'Siop Chips Hendre' yng Nghaernarfon i ddysgu sut oedd paratoi sglodion.[13]
Ceir siop Sgod a Sglods yn Llan-non, Ceredigion a elwir yn syml yn Sglods. Agorwyd y siop yn 2023 a darlledwyd eitem am y lle gan siarad gyda'r staff a'r cwsmeriaid ar raglen Heno ar S4C ym mis Awst 2024.[14]
Ieithoedd eraill
golyguYmhlith yr amrywiadau ar yr enw yn Saesneg ceir "Fish Bar", "Fish Shop" (yn Swydd Efrog), ac ati. Yn y rhan fwyaf o'r Deyrnas Unedig gan gynnwys Gogledd Iwerddon, fe'u gelwir ar lafar yn chippy neu'n fishy, tra yng Ngweriniaeth Iwerddon ac ardal Aberdeen, fe'u gelwir yn fwy cyffredin yn chippers.
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- The three best fish and chip shops in Wales have been named erthygl yn y Daily Post 2024
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Tsirtsakis, Anastasia (2019-09-22). "Old school fish and chips in Moonee Ponds, the Greek way". NEOS KOSMOS (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-16.
- ↑ Webb, Andrew (2011). Food Britannia. Random House. p. 397.
- ↑ "Harry Ramsden's famous original fish and chip shop faces closure after losses". The Guardian. Retrieved 4 November 2023
- ↑ "The six Welsh fish and chip shops in the running to be named best in the UK". Wales Online. 5 Hydref 2023.
- ↑ "As British as Fish And Chips". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 December 2012. Cyrchwyd 17 March 2017.
- ↑ "Is there VAT on takeaway food?". Blog Favourite Table. 18 Ionawr 2024.
- ↑ "mushy peas". Geiriadur yr Academi. Cyrchwyd 27 Awst 2024.
- ↑ "The Great British Chip Divide". Youtgove. 21 Chwefror 2012.
- ↑ jips siop jips. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 11 Medi 2024.
- ↑ datws tafarn datws. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 11 Medi 2024.
- ↑ a sgoldion pysgod a sgoldion. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 11 Medi 2024.
- ↑ "Sgod a Sglods in Swper heno?". Instagram Pobol y Cwm. 28 Hydref 2016.
- ↑ "Y Siop Sglods – Profiad Gwaith Gareth!". Hansh. 2019.
- ↑ "Diolch yn fawr iawn i Heno S4C am ddod i ffilmio neithiwr yn fyw o Sglods!". Tudalen Facebook 'Sglods'. 16 Awst 2024.