Sivapithecus
Sivapithecus Amrediad amseryddol: 12.5–8.5 Miliwn o fl. CP Mïosen | |
---|---|
Penglog S. indicus yn Amgueddfa Byd Natur, Llundain. | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primates |
Is-urdd: | Haplorhini |
Inffra-urdd: | Simiiformes |
Teulu: | Hominidae |
Is-deulu: | Ponginae |
Genws: | †Sivapithecus |
Rhywogaethau | |
S. brevirostris | |
Cyfystyron | |
Ramapithecus |
Genws o brimatiaid yn nheulu'r hominidiaid oedd Sivapithecus a oedd yn byw yn ystod epoc y Mïosen. Aelod o'r is-deulu Ponginae ydyw, a chredir ei fod yn hynafiad uniongyrchol yr orangwtang. Cafwyd hyd i ffosiliau o'r epa diflanedig hwn ym Mhacistan, Twrci, Tsieina, Gwlad Groeg, a Chenia, yr olion hynaf yn dyddio o 17 miliwn o flynyddoedd yn ôl a'r diweddaraf o 8 miliwn o flynyddoedd yn ôl.[1]
Ym 1932 cafwyd hyd i ffosiliau o ên uchaf a dannedd ym Mryniau Siwālik, bellach yng ngogledd Pacistan, a alwyd yn Ramapithecus. Ym 1960 dechreuodd yr anthropolegydd Elwyn Simons o Brifysgol Yale astudio olion Ramapithecus, gan nodi bod siâp yr ên a morffoleg y dannedd yn ymddangos fel petai yn ffosil trawsnewidiol rhwng epaod a bodau dynol. Dadleuodd Simons taw Ramapithecus oedd y cam cyntaf wrth i esblygiad bodau dynol ymrannu oddi ar llinach gyffredin yr hominidiaid. Cafodd olion Ramapitechus eu dyddio i 14 miliwn o flynyddoedd yn ôl, a oedd yn cytgordio â'r dybiaeth ar y pryd i fodau dynol ymrannu oddi ar epaod eraill rhyw 15 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Cefnogwyd y ddamcaniaeth hon gan David Pilbeam, un o fyfyrwyr Simons, ac hyd at y 1980au bu nifer o anthropolegwyr yn ystyried Ramapithecus yn hynafiad uniongyrchol Homo sapiens.[2]
Yn niwedd y 1960au cafodd damcaniaeth Simons ei herio'n gyntaf, a hynny gan y biocemegydd Allan Wilson a'r anthropolegydd Vincent Sarich o Brifysgol Califfornia, Berkeley. O ganlyniad i arbrofion a oedd yn cymharu cemeg foleciwlaidd albwminau o wahanol rywogaethau o anifeiliaid, dadleuasant bod yn rhaid i ymraniad esblygiadol Homo sapiens ddigwydd yn hwyrach o lawer nac oes Ramapithecus. Cafodd gwaith Wilson a Sarich ei wfftio gan sawl anthropolegydd. Ym 1976, darganfu Pilbeam ên gyfan o Ramapithecus ym Mryniau Siwālik, a chanddi siâp-V a oedd yn gwbl wahanol i gromlin barabolig yr ên ddynol. Ymhen fawr o dro, ymwrthododd Pilbeam â'i gred taw Ramapithecus oedd hynafiad uniongyrchol bodau dynol. Yn sgil rhagor o ddarganfyddiadau o ffosiliau, ystyriwyd Ramapithecus yn gyfystyr â'r genws Sivapithecus.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Sivapithecus. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Ionawr 2021.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Ramapithecus. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Ionawr 2021.