Gwleidydd o'r Alban yw Stuart McDonald (ganwyd 2 Mai 1978) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Cumbernauld, Kilsyth a Dwyrain Kirkintilloch; mae'r etholaeth yn Nwyrain Swydd Dunbarton a Gogledd Swydd Lanark, yr Alban. Mae Stuart McDonald yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin - y cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon ar ran yr SNP.

Stuart McDonald
Stuart McDonald


Deiliad
Cymryd y swydd
7 Mai 2015
Rhagflaenydd Gregg McClymont (Llafur)

Geni (1978-05-02) 2 Mai 1978 (46 oed)
Dwyrain Swydd Dunbarton, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Cumbernauld, Kilsyth a Dwyrain Kirkintilloch
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Alma mater Prifysgol Caeredin
Galwedigaeth Cyfreithiwr
Gwefan http://www.snp.org/

Fe'i magwyd mewn pentref bychan Milton of Campsie yn Nwyrain Swydd Dunbarton, ble mae'n dal i fyw. Graddiodd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caeredin (a blwyddyn ym Mhrifysgol Leuven) cyn gweithio mewn practis o gyfreithwyr lleol ac yna i Swyddfa Cyfreithiol NHS yr Alban. Yn Nhachwedd 2005 cychwynodd McDonald weithio i'r Immigration Advisory Service (IAS) gan arbenigo mewn Hawliau Dynol a bu yno tan Tachwedd 2009. Yna, cychwynodd fel Ymchwilydd Uwch yn Senedd yr Alban. Yn Chwefror 2013 gweithiodd fel Ymchwilydd Uwch i'r ymgyrchwyr o blaid Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014.[1] Ychydig cyn iddo gael ei ethol yn 2015 gweithiodd i elusen Coalition for Racial Equality and Rights yn Glasgow.[2]

Etholiad 2015

golygu

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[3][4] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Stuart McDonald 29572 o bleidleisiau, sef 59.9% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 36.1 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 14752 pleidlais.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Coman, Julian (10 Tachwedd 2013). "Could an independent Scotland be just what northern England needs?". The Observer. Cyrchwyd 10 Mai 2015.
  2. CRER Scotland official Twitter page
  3. Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
  4. Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban