Sue Perkins

actores a aned yn 1969

Digrifwr, darlledwr, actores ac awdur Seisnig yw Susan Elizabeth "Sue" Perkins (ganwyd 22 Medi 1969), ganwyd yn East Dulwich, Llundain. Daeth i amlygrwydd yn wreiddiol drwy ei phartneriaeth comedi gyda Mel Giedroyc, ac ers hynny mae wedi dod yn fwy adnabyddus fel cyflwynydd radio a theledu, yn benodol The Great British Bake Off.

Sue Perkins
Ganwyd22 Medi 1969 Edit this on Wikidata
Dulwich Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdigrifwr, actor, sgriptiwr, cynhyrchydd, cyflwynydd teledu, television announcer, llenor Edit this on Wikidata
Swyddbeirniad Gwobr Booker Edit this on Wikidata
PartnerRhona Cameron, Emma Kennedy, Anna Richardson Edit this on Wikidata

Daeth Perkins yn chweched yn rhestr Rainbow List yr The Independent on Sunday  yn 2014 ac mae wedi bod yn y rhestr bob blwyddyn ers 2008.[1]

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Ganwyd Perkins ar 22 Medi 1969 yn ne Llundain, yr hynaf o dri phlentyn. Roedd ei thad yn gweithio i werthwr ceir lleol a chyflogwyd ei mam fel ysgrifenyddes.[2] Fe'i haddysgwyd yn Croham Hurst, ysgol annibynnol i ferched yn Surrey, ar yr un pryd a chyn-gyflwynydd BBC Breakfast News, Susanna Reid.[3] Fe astudiodd Saesneg yn ddiweddarach yn New Hall (nawr Murray Edwards College) ym Mhrifysgol Caergrawnt, gan raddio yn 1990. Yn ystod ei amser yng Nghaergrawnt, roedd yn aelod o'r Footlights, lle cyfarfu Mel Giedroyc.[4] Roedd hi'n llywydd Footlights yn ystod y flwyddyn academaidd 1991/92.[5]

Mel a Sue

golygu

Cychwynnodd Perkins a'i phartner creadigol Mel Giedroyc eu gyrfa teledu gyda'r enw Mel and Sue. Wrth i'r ddeuawd ddechrau llwyddo, fe enwebwyd y ddau ar gyfer gwobr Newydd-ddyfodiaid y Daily Express yng Ngŵyl Caeredin yn 1993.

Ar ôl rhai blynyddoedd yn ysgrifennu ar gyfer French & Saunders (ac yn ymddangos yn achlysurol ar eu cyfres BBC), fe gyflwynodd y ddwy sioe amser cinio ar Channel 4 o'r enwLight Lunch, a fersiwn yn hwyr yn y prynhawn, Late Lunch, a ddarlledwyd o Mawrth 1997 i Chwefror 1998.

Yn Ionawr 2015, fe wnaeth Giedroyc a Perkins ddechrau cyflwyno ei sioe sgwrsio yn ystod y dydd ar ITV o'r enw Mel and Sue.[6][7] Yn Awst 2015, fe gyhoeddwyd fod ITV wedi canslo'r sioe.[8]

Teledu

golygu

Yn 2002, fe ymddangosodd Perkins yn Celebrity Big Brother er budd pedwar elusen, Centrepoint, National Missing Persons Helpline, Rethink a'r Samaritans. Yn ystod y gyfres, cafodd rhai adegau cofiadwy yn cynnwys rhai gyda enillydd y gyfres, Mark Owen o Take That, ac eraill gyda'r cyflwynwr teledu Les Dennis. Cafodd Perkins ei throi allan o'r tŷ ar Ddiwrnod 9.[9]

Roedd yn lleisio'r Messenger Bird yn Dinotopia, cynhyrchwyd gan Hallmark Entertainment.[10]

Yn 2003, fe ymunodd Perkins a rhaglen deledu'r bore RI:SE ar Channel 4.[11] Yn yr un flwyddyn, ysgrifennodd Perkins gynnwys ychwanegol ar gyfer comedi sefyllfa y BBC Absolutely Fabulous.

Mae Perkins wedi ymddangos ar nifer o sioeau'r BBC yn cynnwys Have I Got News for You, Mock the Week, QI, Room 101, Celebrity Weakest Link, Question Time a Newsnight. Fe wnaeth ymddangosiadau nodedig fel gohebydd ar gyfres gomedi Armando Iannucci, The Saturday Night Armistice.

Cyflwynodd Perkins yr ail gyfres o Good Evening, Rockall, gêm banel byrhoedlog am y newyddion, ddangoswyd ar BBC Choice. Yn 2006, ymddangosodd ar y sioe gwis geiriol Never Mind the Full Stops ar BBC Four. Roedd hi'n gapten tîm ar sioe ITV, Win, Lose or Draw Late. Yn yr un ddegawd, gwnaeth ymddangosiadau ar Celebrity MasterChef, Celebrity Poker a News Knight with Sir Trevor McDonald.

Yn Ebrill 2007 fe gymerodd ran yn y gyfres deledu, Edwardian Supersize Me ar gyfer y BBC ynghyd â'r adolygydd bwyd Giles Coren. Roedd y gyfres yn dilyn y ddau yn treulio wythnos yn byw a bwyta fel cwpl cyfoethog o'r oes Edwardaidd.

Yn dilyn y gyfres, comisiynwyd Perkins a Coren i gyflwyno cyfres newydd o'r enw The Supersizers Go.... Roedd yn dilyn patrwm y gyfres Edwardaidd ond yn dangos cyfnodau arall mewn hanes.

Yn y bennod gyntaf. roedden nhw'n byw am wythnos ar ddognau'r Ail Ryfel Byd. Fe'i comisiynwyd am ail bennod, oedd yn dilyn cyfnod yr Adferiad. Roedd y trydedd pennod yn y cyfnod Fictorianaidd, y pedwerydd yn y 1970au, y pumed yn y cyfnod Elisabethaidd a'r chweched yng nghyfnod y Rhaglywiaeth.

Yn Awst a Medi 2008, ymddangosodd Perkins yn y gyfres deledu realaeth Maestro ar BBC Two. Roedd y gyfres yn dilyn wyth o enwogion yn ceisio dysgu sut i arwain cerddorfa, cantorion opera a chorawl.[12] Yn ystod y gyfres, arweiniodd Perkins dri darn, dau gyda'r unawdydd soprano Lesley Garrett.[13] Enillodd Perkins y gyfres.[14]

Yn 2008, trosleisiodd Perkins y gyfres ....And Proud ar Virgin 1.

Ymddangosodd Perkins mewn ail gyfres 'Supersizers' o'r enw The Supersizers Eat... gyda Giles Coren a ddarlledwyd ar BBC Two yn Mehefin a Gorffennaf 2009.[15] Yn Medi a Hydref 2009 cyflwynodd y sioe banel ar Channel 4, The Big Food Fight.

Traddododd darlith i'r Gymdeithas Deledu Frenhinol gyda'r teitl, yn edrych ar sefyllfa comedi Prydeinig. Darlledwyd y ddarlith ar BBC Two.[16]

Yn Mawrth 2010, ymddangosodd Perkins mewn cyfres tri rhan A Band for Britain, ar BBC Two, lle'r oedd yn ceisio rhoi bywyd newydd i Fand Glowyr Dinnington .[17][18]

Yn 2010, cyflwynodd Perkins a Coren gyfres Giles and Sue Live the Good Life, dathliad o gyfres gomedi'r BBC o'r 1970au, The Good Life, lle'r oedd y ddau yn ceisio byw yn hunangynhaliol.[19]

Yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn, fe ymunodd Perkins gyda Mel Giedroyc i gyflwyno rhaglen newydd The Great British Bake Off.[20] Cystadleuaeth goginio yw'r gyfres gyda phob pennod yn canolbwyntio ar wahanol agwedd o bobi. Daeth yn boblogaidd iawn ac mae nawr yn ei chweched gyfres.

Yn 2011 fe drosleisiodd Perkins y sioe adloniant. Don't Scare the Hare. Yn Hydref 2011, cyflwynodd gyfres ar BBC Two o'r enw All Roads Lead Home. Roedd hyn yn dangos sut i ddefnyddio natur fel arf lywio. Ymunwyd a hi ar gyfres gan Alison Steadman a Stephen Mangan.[21]

Ar 30 Rhagfyr 2011, fe gyflwynodd a pherformiodd yn Mrs Dickens's Family Christmas, rhaglen ddogfen chwedeg munud ar gyfer BBC Two, oedd yn edrych ar briodas Charles Dickens drwy lygaid ei wraig, Catherine.

Mae wedi cyflwyno The Culture Show yn achlysurol,[22] yn cynnwys y darllediad o Ŵyl Caeredin yn Awst 2012. Yn ystod y darllediad fe gyfwelodd Nile Rodgers, aelod o grŵp pop disco Chic.

Yn 2011, ymddangosodd Perkins mewn pennod o'r sioe deithio World's Most Dangerous Roads: Alaska ar y BBC. Ei chydymaith ar y daith oedd Charley Boorman, ac roedd y ddau yn gyrru'r Dalton Highway.[23] Yna fe ymddangosodd gyda Liza Tarbuck yn ail bennod yr ail gyfres o World's Most Dangerous Roads: Ho Chi Minh Trail, a ddangoswyd yn 2012, yn gyrru drwy Fietnam a Laos.[24]

Yn Nhachwedd 2014 fe ddychwelodd i Dde-ddwyrain Asia, gan deithio o ddelta'r Mekong i Dibet yn y rhaglen The Mekong River with Sue Perkins, a gynhyrchwyd gan Indus Films i'r BBC. Yn Medi 2015, cyflwynodd Kolkata with Sue Perkins ar BBC One, tra bydd cyfres arall, Himalaya with Sue Perkins, yn dilyn nes ymlaen yn y flwyddyn ar BBC Two.

Ar 26 Chwefror 2013, darlledwyd pennod cyntaf o gomedi sefyllfa ysgrifennwyd gan Perkins, Heading Out.[25] Roedd Perkins yn chwarae'r prif gymeriad Sara, yn y rhaglen a gynhyrchwyd gan Red Production Company a Square Peg TV.[26]

O 4 Awst 2014, cyflwynodd y rhaglen Cooks' Questions ar More4.[27]

Roedd Perkins yn gapten tîm ar yr ail a thrydedd cyfres o What the Dickens?, a arweiniwyd gan Sandi Toksvig ar Sky Arts.

Yn 2016, dechreuodd gyflwyno'r sioe banel Insert Name Here ar BBC Two ac fe fydd yn sylwebu ar y sioe adloniant newydd Can't Touch This hefyd ar y BBC.

Arwain

golygu

Yn dilyn ei llwyddiant yn Maestro, roedd Perkins yn arweinydd gwadd i Gerddorfa Symffonig Lesbiaid/Hoyw Llundain ar 11 Hydref 2009, yng Ngardd St Anne's Church, Soho. Arweiniodd dau ddarn, Thema'r Simpsons gan Danny Elfman, a'r William Tell Overture gan Rossini.[28] [29]

Fel rhan o A Band for Britain, arweiniodd Perkins Fand Glowyr Dinnington yn y DW Stadium gan chwarae'r anthem genedlaethol ar gyfer gêm rygbi'r Pedwar Gwlad,[30] ac fe arweiniodd jo nhw ynghyd â Band Glowyr Grimethorpe yn Neuadd Dinas Sheffield.[31]

Unwaith eto arweiniodd Perkins Gerddorfa Gyngerdd y BBC yn y Prom comedi cyntaf yn y Royal Albert Hall yn ystod tymor Prom 2011.[32]

Mae Perkins yn aelod o banel The News Quiz ar Radio 4 ac wedi gwneud ymddangosiadau rheolaidd ar It's Been a Bad Week ar Radio 2. Mae hefyd yn banelydd rheolaidd ar sioe boblogaidd arall ar Radio 4, Just a Minute; yn y fersiwn teledu o 2012, fe ymddangosodd mewn pedwar allan o'r 10 pennod (mwy na phawb arall heblaw Paul Merton a ymddangosodd ymhob pennod) a fe enillodd ar bob achlysur.[33]

Roedd yn gadeirydd ar The 99p Challenge ar Radio 4 nes i'r sioe ddod i ben yn 2004. Fe ymddangosodd Perkins yn hanner awr olaf bob dydd sioe Mark Radcliffe pan oedd e'n sefyll mewn i Steve Wright ar Radio 2.

Ers 2006 mae Perkins wedi bod yn banelydd ar The Personality Test, Radio 4, sioe gwis am y cyflwynydd, wedi ei gyflwyno gan rywun gwahanol bob wythnos. Mae cyflwynwyr blaenorol yn cynnwys Gyles Brandreth a Rick Wakeman, ac roedd panelwyr eraill yn cynnwys Robin Ince, Lucy Porter a Will Smith. Mae Perkins yn aelod o gast rheolaidd sioe radio Count Arthur Strong.

Cyflwynodd Perkins rhaglen ddogfen ar Radio 4 am gystadleuaeth a enillodd, sef "World's Biggest Liar" yn Ardal y Llynnoedd.[34]

Yn Rhagfyr 2008, roedd yn westai ar Private Passions, y rhaglen sgwrsio gerddorol ar BBC Radio 3.[35]

Mae Perkins yn gadeirydd ar y gêm banel Dilemma ar Radio 4, lle mae pedwar gwestai yn trafod posau moesol wedi eu gosod ganddi. Darlledwyd cyfres gyntaf o chwe phennod ar nosweithiau Sul rhwng 13 Tachwedd a 18 Rhagfyr 2011. Roedd cyfres arall o'r rhaglen yn Chwefror 2013.

Llyfrau

golygu

Roedd Perkins yn feirniad yng Ngwobr Booker 2009.[36] Cyhoeddwyd cofiant Perkins, Spectacles, yn Hydref 2015.[37]

Ymddangosiadau Gŵyl Caeredin

golygu

Mae Perkins wedi perfformio dwy sioe gomedi stand-up yn Ffrinj Gŵyl Caeredin: Spectacle Wearer Of The Year 2006 yn 2005, a The Disappointing Second Show yn 2006.

Bywyd personol

golygu

Yn Awst 2012, ymddangosodd Perkins ar restr Tatler o lesbiaid uchel-eu-proffil yn Llundain.[38][39] Cafodd ei "allanu" yn 2002 gan ei chyn-gariad Rhona Cameron yn ystod ymddangosiad Cameron ar sioe ITV, I'm a Celebrity... Get Me Out of Here!.[40] Cafodd berthynas gydag Emma Kennedy am bum mlynedd.[41] Cafodd Perkins berthynas pedair blynedd gyda'r arlunydd Kate Williams, tan 2012.[42] Yn Rhagfyr 2014, cadarnhaodd Perkins ei fod mewn perthynas gyda'r cyflwynydd Anna Richardson.[43] Mae wedi dweud fod "bod yn lesbiad yw'r 47ed ffaith mwyaf diddorol amdana i yn unig”.[2]

Yn Ebrill 2015, fe wnaeth Perkins ddioddef seiber-bwlio ar Twitter ar ôl i godwyr betiau ei gwneud hi'n ffefryn i lenwi'r bwlch ar raglen Top Gear y BBC yn dilyn ymadawiad Jeremy Clarkson, er bod Perkins wedi dweud fod y sïon yn rai "ffug".[2] Gadawodd y wefan gymdeithasol dros dro ond fe ddychwelodd yn Awst 2015.

Yn Medi 2015, datgelodd Perkins ei bod wedi byw gyda thyfiant diniwed ar ei ymennydd ers wyth mlynedd, ac o ganlyniad yn methu cael plant.[44][45]

Mae Perkins yn byw yn Llundain a Chernyw,[46] gyda'i chorhelgi, Parker. Bu farw ei chorhelgi arall, Pickle, yn Ionawr 2014. Ysgrifennodd Perkins lythyr i'r ci, a gyhoeddwyd yn ei llyfr Spectacles.[47]

Ffilmyddiaeth

golygu
Teledu
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1997–1998 Light Lunch Cyd-gyflwynydd
Gyda Mel Giedroyc
1998 Late Lunch Cyd-gyflwynydd
2002 Celebrity Big Brother Aelod o'r tŷ
2002–2003 RI:SE Cyflwynydd
2006 Celebrity MasterChef Cystadleuydd Cyfres 1
2007 Edwardian Supersize Me Cyd-gyflwynydd Rhaglen unigol gyda Giles Coren
2008 The Superziers Go... Cyd-gyflwynydd Gyda Giles Coren
2008 ....And Proud Adroddwr
2008 The Supersizers Eat... Cyd-gyflwynydd Gyda Giles Coren
2009 What the Dickens Capten tîim
Cyfres 2–3
2011 All Roads Lead Home Cyflwynydd
2011 Don't Scare the Hare Adroddwr
2013 Heading Out Sara Hefyd wedi creu a ysgrifennu y gyfres
2014 Cooks' Questions Cyflwynydd Cyfres goginio More4
2014 The Mekong River with Sue Perkins Cyflwynydd Cyfres ddogfen  BBC Two
2015 Mel & Sue Cyd-gyflwynydd Gyda Mel Giedroyc
2015 Sue Perkins' Big Night Out Cyflwynydd Rhaglen unigol BBC Two
2015 Kolkata with Sue Perkins Cyflwynydd Cyfres dogfen BBC
2016 Insert Name Here Cyflwynydd Gêm banel  BBC Two
2016 Can't Touch This Sylwebydd Sioe gêm  BBC

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rainbow List 2014, 1 to 101".
  2. 2.0 2.1 2.2 Anthony, Andrew (19 April 2015).
  3. BBC Breakfast interview with Sue Perkins on 25 July 2005 Archifwyd 2012-07-24 yn archive.today[dead link]
  4. "How We Met: Mel Giedroyc And Sue Perkins".
  5. "Footlight alumni 1990-1999" Archifwyd 2012-10-15 yn y Peiriant Wayback. 
  6. "Great British Bake Off stars clinch ITV chat show". the Guardian.
  7. [1] Archived 4 December 2014 at the Wayback Machine
  8. "Mel & Sue's daytime chatshow has been dropped by ITV - TV News - Digital Spy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-26. Cyrchwyd 2016-01-19.
  9. "Sue gets Big Brother shove".
  10. "Full cast and crew for "Dinotopia"". imdb.com.
  11. Deans, Jason (16 January 2003).
  12. "Profile: Sue Perkins".
  13. "Sue Perkins takes Hyde Park by Storm". 13 September 2008.
  14. "Congratulations to Sue Perkins!"
  15. "Press Office - BBC Two Spring/Summer 2009: Programmes O-S".
  16. "Huw Wheldon Lecture 2009: Wit's End?
  17. "A Band for Britain: Episode guide".
  18. West, Naomi (5 March 2010).
  19. "Giles and Sue Live The Good Life".
  20. "Judges and Presenters" Archifwyd 2014-04-13 yn y Peiriant Wayback.
  21. "All Roads Lead Home".
  22. "Sue Perkins The Culture Show" Archifwyd 2014-03-21 yn y Peiriant Wayback.
  23. "BBC World's Most Dangerous Roads series 1".
  24. "BBC World's Most Dangerous Roads series 2".
  25. "Heading Out New six-part comedy for BBC Two penned by Sue Perkins".
  26. "Sue Perkins to star in self-penned sitcom for BBC Two" Archifwyd 2016-01-08 yn y Peiriant Wayback.
  27. Lazarus, Susanna (4 August 2014).
  28. "LIVE MUSIC: Sue Perkins and the Gay & Lesbian Symphony Orchestra" Archifwyd 2010-12-22 yn y Peiriant Wayback.
  29. "The Year’s Last, Loveliest Smile" Archifwyd 2012-12-25 yn archive.today.
  30. "engage Super League website" Archifwyd 2012-08-25 yn y Peiriant Wayback.
  31. Williams, Andrew (22 March 2010).
  32. "BBC Proms: Tim Minchin, Kit and the Widow, Beardyman, BBC Concert Orchestra". 14 August 2011.
  33. "Just a Minute!
  34. Comedienne crowned biggest liar, BBC News Online, Cumbria, 17 November 2006.
  35. BBC Radio 3
  36. "Man Booker 2009 judges".
  37. Sue Perkins (8 October 2015).
  38. "Tatler Film: Behind the scenes of our lesbian shoot".
  39. Edmondson, Nicholas (4 July 2012).
  40. White, Jenny (7 November 2003).
  41. Kay, Richard (30 May 2013).
  42. Kay, Richard (5 January 2012).
  43. Carpenter, Louise (13 December 2014).
  44. Quinn, Ben (2 September 2015).
  45. Fallon, Bernadette (2 September 2015).
  46. "The Tatler List - 153" Archifwyd 2015-08-01 yn y Peiriant Wayback.
  47. "The Huffington Post UK - Sue Perkins' Open Letter To Her Dog, Pickle, Is Guaranteed To Have You In Tears".

Dolenni allanol

golygu