Horace Evans

meddyg
(Ailgyfeiriad o Syr Horace Evans)

Meddyg Cymreig oedd Horace Evans (1 Ionawr 190326 Hydref 1963) a wasanaethodd deulu brenhinol Lloegr. Ym Merthyr Tydfil y cafodd ei eni, yn fab i'r cerddor enwog Harri Evans. Fe'i magwyd yn Nowlais a chafodd ei addysg mewn coleg yn Lerpwl pan symudodd y teulu yno ac yna yng Ngholeg Meddygol Llundain rhwng 1921 a 1928.

Horace Evans
Ganwyd1 Ionawr 1903 Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
Bu farw26 Hydref 1963 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Liverpool College
  • Barts and The London School of Medicine and Dentistry Edit this on Wikidata
Galwedigaethmeddyg, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
TadHarry Evans Edit this on Wikidata
MamEdith Gwendoline Rees Edit this on Wikidata
PriodHelen Aldwyth Davies Edit this on Wikidata
PlantJean Rosemary Evans, merch anhysbys Evans Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroonian Medal and Lecture, Cymrawd Anrhydeddus Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Edit this on Wikidata

Gweithiodd yno yn yr ysbyty ac fel meddyg i Frenhines Mair o Teck o Loegr ac yna ei gŵr, y Brenin Siôr VI ac yna eu merch Elizabeth II Brenhines Lloegr.

Yn 1957 fe'i gwnaed yn farwn. Roedd ganddo wraig a dwy ferch.

Cefndir

golygu

Cafodd ei eni ym Merthyr Tydfil, yn fab i gerddor adnabyddus, sef Harry Evans. Fe'i maged yn Nowlais ac yna yn Lerpwl, ble'r aeth i'r Guildhall School of Music. Ond newidiodd ei yrfa gan droi at astudio meddygaeth mewn ysbyty yn Llundain rhwng 1921 a 1928.

Gyrfa

golygu

Daeth yn feddyg (neu ffisegwr) i rai o aelodau teulu brenhinol Lloegr, gan gynnwys:

Yn 1957 cafodd ei urddo'n Farwn Evans o Ferthyr Tydfil.

Teulu

golygu

Roedd yn briod a chanddo ddwy ferch. Bu farw yn 1963 yn 60 oed a daeth y farwniaeth i ben.

Gweler hefyd

golygu