Tafarndy'r Feathers, Wrecsam
Adeilad hanesyddol rhestredig Gradd II yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw'r tafarndy'r Feathers.
Math | tafarn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Wrecsam, Parc Caia |
Sir | Parc Caia |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 80.1 metr |
Cyfesurynnau | 53.045442°N 2.991338°W |
Cod post | LL13 8BA |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Lleoliad
golyguMae tafarndy'r Feathers yn sefyll yng nghalon hanesyddol Wrecsam, ar Stryt Caer, ar y gyffordd gyda'r Stryt Fawr, Stryt Yorke a Stryt Siarl. Mae'r adeilad yn sefyll ymhlith nifer o adeiladau eiconig, fel gwesty'r Wynnstay Arms, adeilad y Banc Midland, Marchnad y Cigyddion ac adeilad Provincial Insurance.
Hanes
golyguTafarn goets bwysig oedd Tafarn y Feathers yn wreiddiol, ac mae'r tŷ coets yn dal i sefyll tu ôl i'r tafarndy, ar Stryt Siarl. [1]
Roedd gan Wrecsam choetsys post dyddiol i Lundain a bws gwennol dyddiol o’r Amwythig i Gaer. Roedd coets fawr yn mynd o Dafarn y Feathers (ac yn ddiweddarach o’r Wynnstay Arms, [1] sy'n sefyll ar draws y stryd o'r Feathers).
Enw gwreiddiol y dafarn oedd y Plume of Feathers. Roedd y dafarn yn eiddo i'r teulu Meredith am fwy na 200 mlynedd. [1]
Safodd y dafarn ar ffordd porthmyn poblogaidd, a oedd yn arwain ar hyd y Stryt Fawr a Stryt Siarl tuag at y Farchnad Anifeiliaid (Saesneg: Beast Market). [1]
Cafodd y dafarn ei hadnewyddu (neu hail-adeiladu) tua 1850-1860, pan gafodd ei derbyn ar ei ffurf bresennol. [2]
Bellach mae'r tafarndy wedi cael ei drawsnewid yn fflatiau, gyda siop ar y llawr gwaelod, ar Stryt Caer.
Disgrifiad
golyguMae tafarndy'r Feathers yn adeilad deulawr, wedi'i ffurfio o ddwy uned debyg, gyda thŷ coets tu ôl i'r prif adeilad. Mae'r tŷ coets yn gallu cael ei gweld oddi wrth Stryt Siarl. [2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 "The Feathers, Wrexham". Wrexham Heritage Trail. Cyrchwyd 28 Chwefror 2023.
- ↑ 2.0 2.1 "The Feathers Public House, Rhosddu, Wrexham". British Listed Buildings. Cyrchwyd 28 Chwefror 2023.