Tai Benedictaidd Cymru
Sefydlwyd nifer o dai crefydd Benedictaidd yng Nghymru. Y cyntaf oedd Priordy Cas-gwent, a sefydlwyd tua 1072 gan William fitzOsbern a'i fab Roger de Breteuil, 2il Iarll Henffordd. Hwn oedd y cyntaf o'r tai yn perthyn i un o'r urddau Ewropeaidd i'w sefydlu yng Nghymru.
Roedd pob un o'r tai Benedictaidd yng Nghymru yn y de, a phob un wedi ei sefydlu gan arglwydd Normanaidd, er i'r Arglwydd Rhys ail-sefydlu Aberteifi wedi gyrru'r mynachod estron ymaith. Roedd nifer ohonynt wedi eu rhoi yn eiddo i abatai yn Ffrainc, a phan waethygodd y berthynas rhwng Lloegr a Ffrainc yn ddiweddarach, dioddefodd priordai megis Allteuryn a Phenfro oherwydd eu bod yn eiddo i abatai Ffrengig.
- Priordy Penfro, sefydlwyd tua 1098
- Priordy y Fenni, sefydlwyd cyn 1100.
- Priordy Trefynwy, sefydlwyd tua 1100
- Priordy Allteuryn, sefydlwyd cyn 1113
- Priordy Aberhonddu, sefydlwyd tua 1125
- Priordy Brynbuga, lleiandy, sefydlwyd cyn 1135
- Priordy Ewenni, sefydlwyd 1141
- Priordy Aberteifi
Llyfryddiaeth
golygu- Rod Cooper, Abbeys and Priories of Wales (Abertawe, 1992)