Tal ar Ben Bodran

Gwaith llenyddol gan Talhaiarn

Gwaith llenyddol yn yr iaith Gymraeg yw Tal ar Ben Bodran gan y bardd Talhaiarn (John Jones, 1820-1869), ar ffurf adrannau o farddoniaeth a cherddi hunan-gynhwysol wedi'u cysylltu gan adrannau o ryddiaith sy'n ffurfio un gwaith cyfansawdd. Mae'r gwaith wedi'i ddisgrifio mewn gwahanol ffynhonellau fel un gerdd hir[1] ac fel cyfres o gerddi.[2] Lluniwyd y gwaith yn wreiddiol rhwng 1852-1862, ac fe'i ystyrir yn un o brif weithiau'r bardd.[3][4]

Tal ar Ben Bodran
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol, blodeugerdd Edit this on Wikidata
AwdurJohn Jones Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1820 Edit this on Wikidata

Mae'r gwaith wedi ei rannu i ugain o "Gantoau". Ymddangosodd y cyntaf o'r rhain yn 1852 a bu'n rhan o ymateb dychanol Talhaiarn i'r gerdd Palesteina gan Glan Aled, sef enillydd cystadleuaeth y bryddest yn Eisteddfod yr Wyddgrug 1851.[4] Cyhoeddwyd y cyntaf o'r rhain yn wreiddiol yn Y Cymro yn 1852 ac roedd dau arall wedi ymddangos erbyn 1855 pan gyhoeddwyd y tri cyntaf yng nghyfrol cyntaf Gwaith Talhaiarn. Ymddangosodd y gweddill rhwng 1860 ac 1962 a'u cyhoeddi eto yn ail gyfrol Gwaith Talhaiarn yn 1862.

Gan fod y darn yn gyfuniad anarferol o farddoniaeth a rhyddiaith, mae'n waith sy'n anodd i'w gategoreiddio. Mae'r defnydd o wahanol adrannau barddonol yn y mesurau rhydd ar hyd un cyfanwaith hir yn ymdebygu i bryddest, ond ni fyddai adrannau o ryddiaith fel arfer yn rhan o bryddest ac mae rhai o'r rhain yn gymharol faith: mae mwy o ryddiaith nac o farddoniaeth yn y ddeunawfed ganto, sy'n ymdebygu mwy i ysgrif gyda dyfyniadau o farddoniaeth ynddi. Mae nifer hefyd o'r adrannau barddonol ar ffurf cerddi neu ganeuon hunan-gynhwysol; rhoddir pennawdau unigol i'r rhannau hyn a thôn gerddorol ar gyfer rhai ohonynt ac roedd rhai yn ganeuon bod Talhaiarn eisoes wedi'u cyfansoddi ar gomisiwn i gerddorion.[5]

Er bod mwyafrif helaeth y gwaith yn y Gymraeg, mae rhannau byr hefyd yn Saesneg a Ffrangeg.

Cynnwys

golygu
 
Mynydd Bodran

Mae'r gwaith yn ar ffurf ymddiddan hir (neu gyfres o drafodaethau) rhwng Talhaiarn a'r Awen farddol, yr hon sydd iddi ffurf geneth ifanc, ar ben Mynydd Bodran, Sir Conwy, uwchben pentref enedigol y bardd, Llanfair Talhaearn. Yn y gerdd Palesteina gan Glan Aled yr oedd Talhaiarn yn ei dychanu cyfeiriodd y bardd at yr Awen yn ei arwain i ben Pisgah i syllu dros wlad yr addewid a sylwi arni.[6] Mae'r Canto cyntaf yn cyfeirio'n uniongyrchol at hyn, er i Dalhaiarn dynnu'r penillion perthnasol o'r gwaith pan gyhoeddwyd ef yn ddiweddarch yn Gwaith Talhaiarn.[6]

Dros yr ugain canto mae'r ddau'n trafod ystod eang o bynciau barddonol, llenyddol, gwleidyddol ac athronyddol, yn gosod testunau i'w gilydd ar gyfer cerddi neu ganeuon wedyn eu hadrodd neu ganu'n ôl i'w gilydd ac yn beirniadu ymdrechion ei gilydd. Dros y gyfres mae'r ddau'n dadlau sawl gwaith ac yn cymodi drachefn. Mae cymeriad arall, Modryb Modlan, yn ymddangos ar gyfer un canto. Mae'r cantoau'n amrywiol eithriadol ac nid oes un thema yn eu huno: defnyddiodd Talhaiarn yr wythfed Ganto i esbonio ei ddull o gyfansoddi caneuon ar gyfer eu gosod i gerddoriaeth gan Pencerdd Gwalia, ac mae un arall yn cynnwys emyn "i ryddid".

Mae'r gerdd yn amrywiol iawn o ran tôn, gyda rhai adrannau dwys a difrifol eu naws yn cael eu dilyn yn syth gan gecru ysgafn sydd weithiau'n ymylu ar fod yn fasweddus. Yn y ddau ganto olaf yn enwedig, sy'n ffurfio un cyfres o farddoniaeth heb doriadau, ceir rhai o linellau dwysaf, tywyllaf y bardd; gyda'r Canto olaf yn gorffen ar nodyn bruddaidd, nihilistig gyda'r geiriau: "Gwagedd o wagedd, gwagedd yw y cwbwl."

Mesur a dylanwadau

golygu

Mae'r syniad o "Gantoau" yn seiliedig ar Don Juan gan y bardd Seisnig Byron, oedd yn ddylanwad mawr ar Dalhaiarn, o le daw hefyd y mesur Eidalaidd "ottavia rima" sy'n cael ei ddefnyddio ar gyder y rhan fwyaf o'r farddoniaeth yn y gyfres. Mae'r cerddi unigol a chaneuon ar ystod o fesurau rhydd gan gynnwys y delyneg.

Beirniadaeth

golygu

Creodd y gwaith hwn gryn dipyn o stŵr yn ei gyfnod oherwydd chwerwder y bardd (yn enwedig yn y Cantoau olaf) a'r syniadau anuniongred a herfeiddiol a fynegodd, ond ceir hefyd mynegiadau o frogarwch sy'n ymhyfrydu yn natur yr ardal.[2] Tynna Dewi M. Lloyd sylw arbennig i'r ddau ganto olaf, gan ddweud amdanynt:

Y mae'r gair 'gwagedd' yn taro fel cnul angladdol bron ugain gwaith yn y gyfres ac y mae cwpledi clo pob pennill yn y canto olaf un yn dangos ei fedr i amrwyio rythmau ac osgoi undonedd. Ychwaneger at hyn yr adleisio celfydd ac estynedig o'r Beibl, a deellir pam yr oedd y gyfres yn arbennig.[7]

Roedd gan Saunders Lewis farn uchel iawn o'r gwaith, a barodd iddo ddweud am y bardd, "Talhaiarn oedd yr unig fardd yn ei gyfnod a chanddo ymwybod â thrasiedi bywyd dyn, a hynny'n angerddol."[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, gol. R. M. Jones (Caernarfon: Cyhoeddiadau Barddas, 1988), t.23
  2. 2.0 2.1 Talhaiarn: detholiad o gerddi, gol. T. Gwynn Jones (Aberystwyth: Gwasg Aberystwyth, 1930), tt.12-13
  3. 3.0 3.1 Saunders Lewis, Meistri a'u Crefft (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1981), tt.271-2
  4. 4.0 4.1 Dewi M. Lloyd, Talhaiarn (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1999), t.117
  5. Lloyd, Talhaiarn, t.151
  6. 6.0 6.1 Lloyd, Talhaiarn, t.118
  7. Lloyd, Talhaiarn, t.155