Actor Cymreig oedd Talfryn Thomas (31 Hydref 19224 Tachwedd 1982) sy'n fwyaf adnabyddus am ei rannau cefnogol ar deledu yn y 1970au, yn cynnwys Private Cheeseman yn Dad's Army (1973-1974) a Tom Price yn Survivors (1975).

Talfryn Thomas
Ganwyd31 Hydref 1922 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw4 Tachwedd 1982 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd John Talfryn Thomas yn Abertawe ar 31 Hydref 1922.  Fe'i hyfforddwyd fel peiriannydd offer ond fe ymunodd a chymdeithas ddrama amatur lleol. Yn ystod Yr Ail Ryfel Byd fe roedd yn saethwr ôl ar fomiwr Lancaster, yn hedfan ar sawl ymosodiad ar yr Almaen. Ar ôl goroesi cwymp awyren pan laddwyd pawb arall yn y criw, fe ddechreuodd actio yn rhannol fel therapi ar gyfer yr ysgytwad, cyn iddo hyfforddi fel actor gyda'r London Academy of Music and Dramatic Art (LAMDA).[1]

Am beth amser roedd Thomas yn actio mewn theatrau rhanbarthol. Yn y 1950au hwyr dechreuodd ymddangos ar deledu,[1] ac yn y 1960au ymddangosodd mewn dwy bennod o The Avengers - A Surfeit of H2O (1965) a Look Stop Me (1968) - a gyda Roger Moore yn The Saint (1968) ac yn The Persuaders ! (fel "The Poacher" yn y bennod 'A Home Of One's Own', 1971). Fe actiodd hefyd gyda Jon Pertwee mewn dwy stori Doctor Who, Spearhead from Space (1970) a The Green Death (1973). Roedd Thomas yn rhagori mewn chwarae Cymry od ac weithiau di-raen. Roedd ei edrychiad unigryw yn fwy nodedig oherwydd bod ei ddannedd blaen yn sefyll allan, a chafodd y llysenw 'Talf The Teef'. Efallai taw ei ran fwyaf cofiadwy oedd Private Cheeseman, aelod o'r Gwarchodlu Cartref mewn penodau hwyrach o Dad's Army (1973-1974).

Yn 1975 ymddangosodd Thomas mewn sawl pennod o gyfres gyntaf drama'r BBC Survivors, fel Tom Price. Yn 1979 ymddangosodd ar The Ken Dodd Laughter Show gyda Rita Webb a Pat Ashton (ac roedd yn llais rheolaidd ar sioe gomedi radio Ken Dodd ar y BBC).

Roedd yr ychydig o ffilmiau a wnaeth Thomas yn cynnwys Sky West and Crooked (1965) yn serennu Hayley Mills, ac addasiad Andrew Sinclair o ddrama Dylan Thomas, Under Milk Wood (1972), gyda Richard Burton, Elizabeth Taylor a Peter O'Toole. Fel Burton, roedd Talfryn Thomas wedi bod yn y ddrama radio wreiddiol. Roedd hefyd yn ymddangos yn Come Play with Me (1977) a'r ffilm gwlt, Sir Henry at Rawlinson End (1980) gan Vivian Stanshall.

Bu farw Thomas o drawiad ar y galon ar 4 Tachwedd 1982, pedwar diwrnod ar ôl ei ben-blwydd yn 60.

Detholiad o rannau teledu golygu

Blwyddyn Teitl Rhan
1960 The Citadel Chenkin's Henchman / Miner
1964 to 1974 Z Cars McCall / Greenough / Jake Morris
1967 St. Ives Clausel
1968 The Saint Owen Thomas
1971 The Persuaders ! The Poacher
1971 Edna, the Inebriate Woman Trempyn
1971 to 1972 Coronation Street Dirty Dick
1973 Seven of One Mr Pugh
1973 to 1974 Dad's Army Private Cheeseman
1975 Survivors Tom Price
1977 Treasure Island Tom Morgan
1977 King of the Castle Vine/Vein
1979 The Ken Dodd Laughter Show Amryw
1980 Worzel Gummidge Soggy Boggart
1981 The Incredible Mr Tanner Cledwyn
1982 Hi-de-Hi! Gareth Davies

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Other Characters". The Dad's Army Appreciation Society. Cyrchwyd 10 October 2012.

Dolenni allanol golygu