Llyn Mwyngil

(Ailgyfeiriad oddi wrth Talyllyn)

Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Mwyngil. Fe'i gelwir weithiau yn Llyn Tal-y-llyn ar sail enw'r plwyf a'r anheddiad sydd nesaf at y llyn (er bod y rheini, wrth gwrs, wedi eu henwi ar ôl y llyn yntau). Mae ffurfiau amgen yn y Gymraeg yn cynnwys Llyn Myngul.[1] Mae'n debyg fod Myngul yn tarddu o mŵn ('gwddf') a cul.[2]

Llyn Mwyngil
Tal y llyn lake.jpg
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.6725°N 3.8974°W Edit this on Wikidata
Map

Lleolir y llyn wrth droed llethrau deheuol Cadair Idris ym Meirionnydd ac mae Afon Dysynni yn llifo trwy'r llyn. Roedd yn rhan o gwmwd Ystumanner yn yr Oesoedd Canol. Mae'r ffordd B4405 yn mynd heibio glan ddeheuol y llyn, heb fod ymhell o'i chyffordd gyda'r briffordd A487; gellir gweld y llyn o'r A487. Ar lan ogleddol y llyn, mae llwybr cyhoeddus ac hen reithordy (gwesty'n awr).

Mae pentref bychan Tal-y-llyn ar ochr dde-orllewinol y llyn wedi rhoi ei enw i'r plwyf ac i Reilffordd Talyllyn, er mai dim ond i Abergynolwyn y mae'r rheilffordd yn cyrraedd. Ceir pysgota da am frithyll yn y llyn.

PysgotaGolygu

Mae Dyddiadur C.E.M. Edwards, Dolserau, Dolgellau yn cyflwyno arferion pysgota un o fân foneddigion Meirionedd ynghanol Oes Fictoria rhwng 1871 a 1883. Ar 24 o ymweliadau ym mis Awst (y mis y bu’n pysgota amlaf) fe ddaliodd 208 o frithyll (8.7 brithyll i bob ymweliad).

Pysgodyn oedd yn nodedig am ei absenoldeb yn y llyn yn nyddlyfrau helaeth Edwards oedd y sewin neu frithyll môr. Bu’n pysgota’n helaeth ac yn llwyddiannus am sewin yn afonydd ei ardal [1] ond unwaith yn unig y daliodd sewin yn Llyn Mwyngil (yr hwn a alwodd yn ddieithriad yn “Talyllyn”.

7 Awst 1882: I caught a very nice Sea trout, the first time I have ever captured one in Talyllyn, but there are a good many in the Lake now, as well as salmon – owing no doubt to the late heavy rains. We let [sic] about 6; and got home in time for tea dinner at eight. Talyllyn. Trout 10 Sea trout 1. (1lb 1oz)[3]

Roedd Munro Edwards yn bysgotwr profiadol ac yn dal sewinod yn rheolaidd yn afonydd ardal Dolgellau o’r 1860au ymlaen. Diddorol felly yw’r sylw yma ganddo o ddal sewin am y tro cyntaf yn Llyn Mwyngil yn 1882 (ac erioed wedyn gyda llaw)[4]

Mae hynny’n rhyfedd gan i bysgotwyr ganrif yn ddiweddarach[5] gofnodi dal sewin yn y llyn yn aml iawn.[6] (Gweler sampl o’r Cofnodion yma [2]) ar wefan Llên Natur.


Bywyd GwylltGolygu

Bu Talyllyn yn gyrchfan i garwyr natur erioed. Dyma gofnod gan yr adarydd EHT Bible o Aberdyfi:

  • Ionawr 8, 1929 “... My wife tells me of Goldeneye ducks, Pochards and Dabchicks and “heaps” of Coot and Sheld-duck at Talyllyn Lake (I must make a pilgrimage there)”[7].
  • ”Dwi’n cofio 150+ [hwyaid brongoch] ar Lyn Mwngwl (Talyllyn) pob gaeaf. Llond llaw yna y dyddiau yma, os hynny. Mae niferoedd hwyaid bengoch sy’n gaeafu ym Mhrydain wedi gostwng yn aruthrol dros y 25 mlynedd diwethaf. Un rheswm ydi bod dim rhaid iddyn nhw ddod ar draws o’r cyfandir mwyach gan fod y tymheredd yn codi a does dim rhaid dianc o’r gaeafau caled a fu”.[8]

Eglwys y Santes FairGolygu

Un o'r ychydig adeiladau, ar wahân i'r gwesty, yng nghalon y pentref yw Eglwys y Santes Fair, sy'n dyddio i ganrif 12, gydag olion cynharach. Mae'r eglwys wedi'i chynllunio'n debyg iawn i eglwys gyfagos arall, sef Eglwys Sant Mihangel a leolir yng nghanol pentref bychan Llanfihangel-y-pennant. Oherwydd ei nodweddion hynafol, fe'i cofrestrwyd gan Cadw ar 17 Mehefin 1966 (rhif cofrestriad 4762) yn Gradd II*.[9] Mae'n bosib bod rhai o'r waliau wedi'u codi yng nghanrif 6 neu 7.

OrielGolygu

 

CyfeiriadauGolygu

  1. Atlas Meirionnydd (Y Bala, 1975).
  2. Melville Richards, 'The Names of Welsh Lakes', yn D. P. Blok (gol.), Proceedings of the Eighth International Congress of Onomastic Studies (The Hague & Paris: Mouton & Co., 1976), t. 410.
  3. Dyddiadur Hela CEM Edwards, Archifdy Gwynedd, Dolgellau
  4. Bwletin Llên Natur rhifyn 108
  5. Llyfr Pysgotwyr Gwesty Tyn y Cornel [sic.]
  6. Bwletin Llên Natur rhifyn 96 (tudalen 2)
  7. Dyddiadur EHT Bible, Llyf. Gen. Cym. [Acc. No. A1998/137]
  8. Iolo Williams ar Cymuned Llên Natur
  9. britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 12 Mai 2016.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato