Teofan Prokopovych
Clerigwr a diwinydd Uniongred Dwyreiniol ac athronydd a llenor o Wcráin oedd Teofan Prokopovych (Wcreineg: Теофан Прокопович, Rwseg: Феофан Прокопович trawslythreniad: Feofan Prokopovich; 18 Mehefin 1681 – 19 Medi 1736) a oedd yn gyfrifol am ddiwygio Eglwys Uniongred Rwsia dan y Tsar Pedr I (teyrnasai 1682–1725).
Teofan Prokopovych | |
---|---|
Portread o Teofan Prokopovych a gyflawnwyd yng nghanol y 18g, wedi ei farwolaeth | |
Ganwyd | 18 Mehefin 1681 Kyiv |
Bu farw | 19 Medi 1736, 8 Medi 1736 (yn y Calendr Iwliaidd) St Petersburg |
Dinasyddiaeth | Tsaraeth Rwsia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, offeiriad, athronydd, gwleidydd |
Swydd | bishop of Novgorod |
Cyflogwr |
Bywgraffiad
golyguGaned Eleazar Prokopovych ar 18 Mehefin 1681 yn Kyiv yn yr Hetmanaeth, a oedd dan benarglwyddiaeth Tsaraeth Rwsia. Derbyniodd addysg Uniongred a graddiodd o Academi Mohyla Kyiv ym 1696.[1] Astudiodd athroniaeth a diwinyddiaeth yng Ngwlad Pwyl a Lithwania, a dan ddylanwad Lladinaidd yr athrawon hynny fe drodd yn Gatholig am gyfnod, ac ym 1698 aeth i Goleg Groeg St Athanasiws yn Rhufain. Fodd bynnag, ni ymunodd â Chymdeithas yr Iesu, a dychwelodd i Kyiv, a'r ffydd Uniongred, ym 1701.[2] Aeth yn fynach, gan gymryd yr enw Teofan, yn Ogof-Fynachlog Kyiv, a dechreuodd ddarlithio ar ddiwinyddiaeth, llenyddiaeth, barddoneg, a rhethreg yn Academi Mohyla Kyiv ym 1704.[1][2][3]
Daeth Prokopovych i'r amlwg fel cefnogwr brwd i'r Hetman Ivan Mazepa, a arweiniai Llu Zaporizhzhia o 1687 i 1708. Cyflwynodd ei ddrama hanesyddol Vladimir (1705) i Mazepa a Pedr I, Tsar Rwsia, a oedd ar hynny o bryd yn gynghreiriaid yn Rhyfel Mawr y Gogledd (1700–21). Canai glodydd Mazepa mewn nifer o bregethau, a disgrifiai Kyiv fel "yr ail Jeriwsalem".[3] Trodd Mazepa yn erbyn Rwsia, ac wedi buddugoliaeth y Tsar Pedr ym Mrwydr Poltava (1709) ffoes o Wcráin; trodd Prokopovych ei gefn ar yr hen hetman, a datganodd ei deyrngarwch i Rwsia. Daeth felly dan ffafriaeth y llys tsaraidd am iddo foliannu'n gyhoeddus diwygiadau diwylliannol a gwleidyddol Pedr.[1][2]
Penodwyd Prokopovych yn swyddog Academi Mohyla Kyiv ym 1708, ac yn rheithor ym 1711.[1] Fe'i galwyd i'r llys yn St Petersburg ym 1716, ac yno byddai'n cynghori'r tsar ar faterion eglwysig ac addysg, a châi ddylanwad enfawr ar grefydd ac addysg yn yr ymerodraeth newydd a sefydlwyd gan Pedr ym 1721. Lluniodd Prokopovych y Rheoliadau Ysbrydol a ddeddfwyd ym 1721 i roi ar waith y drefn newydd o weinyddu'r eglwys fel rhan o'r wladwriaeth, a fe'i penodwyd yn is-lywydd cyntaf y Synod Sanctaidd a gymerodd le'r hen batriarchaeth.[3] Byddai'r drefn honno—a ystyrid yn ffurf ddiwygiedig ar Gesar-Babaeth, neu'n gyfuniad o athroniaeth wleidyddol Thomas Hobbes a syniadaeth theocrataidd yr Ymerodraeth Fysantaidd—yn parhau yn Rwsia hyd at gwymp yr ymerodraeth ym 1917.[2]
Cafodd Prokopovych ei gysegru'n Esgob Pskov ym 1718, ac yn Archesgob Pskov ym 1720.[1] Fe'i dyrchafwyd yn Archesgob Novgorod ym 1725, a gwasanaethai yn y swydd amlwg honno am 11 mlynedd, hyd at ei farwolaeth.[3] Fodd bynnag, wedi marwolaeth Pedr ym 1725, câi Prokopovych ei ynysu o fywyd gwleidyddol a diwylliannol Rwsia gan yr hen glerigwyr a'r boiariaid, y rheiny a fuont yn anfodlon â'r Rheoliadau Ysbrydol a rhan flaenllaw yr awdur wrth atgyfnerthu awtocratiaeth y tsar.[1] Bu farw Teofan Prokopovych ar 19 Medi 1736 yn St Petersburg yn 55 oed.[2] Cymynroddodd ei holl lyfrgell, rhyw 30,000 o gyfrolau, i Academi Imperialaidd y Gwyddorau. Fe'i claddwyd yn Eglwys Gadeiriol y Santes Soffia yn Novgorod.[3]
Diwinyddiaeth
golyguDylanwadwyd ar ddiwinyddiaeth Prokopovych, a eglurai ganddo mewn nifer o ysgrifau yn Lladin ac Hen Slafoneg Eglwysig, gan syniadau Protestannaidd, yn bennaf athrawiaethau'r Eglwys Lwtheraidd, a gwelir hynny yn enwedig yn ei bwyslais ar yr Ysgrythur Lân fel unig ffynhonnell y datguddiad ac yn ei ddehongliadau o ras, ewyllys rydd, a chyfiawnhad dwyfol y pechadur.[2] Ysgrifennai lu o draethodau i ymdrin â'r holl gorff o ddiwinyddiaeth athrawiaethol, gan gynnwys De Deo (Duw), De Trinitate (y Drindod), a De Creatione et Providentia (y cread a rhagluniaeth).
Lluniodd Prokopovych gwricwlwm diwinyddol ar gyfer yr academi eglwysig yn St Petersburg ar batrwm y brifysgol Lwtheraidd yn Halle, yr Almaen. Wedi ei farwolaeth, cesglid nodiadau ei ddarlithoedd diwinyddol o Academi Mohyla Kyiv a fe'u cyhoeddwyd ar ffurf Academia Kijoviensi (pum cyfrol, 1773–75) a Compendium sacrae orthodoxae theologiae (1802). Syniadaeth Prokopovych oedd y farn ddiwinyddol gyffredin yn Eglwys Uniongred Rwsia nes y 1830au.
Ysgolheictod ac athroniaeth
golyguProkopovych oedd un o'r ysgolheigion cyntaf yn Rwsia i ddefnyddio'r microsgop a'r telesgop i arsylwi ar bethau yn y dull gwyddonol. Ei gampwaith ar bwnc athroniaeth ydy Philosophia peripatetica, casgliad amrywiol o ysgrifau am athroniaeth naturiol, mathemateg, moeseg, ac athroniaeth wleidyddol yn oes y Chwyldro Gwyddonol ac sydd yn cyflwyno syniadau a damcaniaethau Descartes, Locke, Bacon, Hobbes, Spinoza, Galileo, Kepler, a Copernicus i ddarllenwyr yn Wcráin a Rwsia. Dan arweiniad Prokopovych, cyflwynwyd mathemateg a geometreg i gwricwlwm Academi Mohyla Kyiv.[3]
Yn ei ysgrifau gwleidyddol, dadleuai Prokopovych dros absoliwtiaeth oleuedig.[3] Mae'r nifer fwyaf o'i astudiaethau hanesyddol yn ymwneud â theyrnasiad Pedr I, a'r un pwysicaf ydy Istoriia imperatora Petra Velikogo ot rozhdeniia ego do Poltavskoi batalii ("Hanes yr Ymerawdwr Pedr Fawr o'i Enedigaeth i Frwydr Poltava", 1788).
Drama a barddoniaeth
golyguPrif gyfraniad Teofan Prokopovych i lenyddiaeth Wcreineg ydy'r ddrama hanesyddol Vladimir (1705), am hanes y Sant Vladimir Fawr, Uchel Dywysog Rws Kyiv. Hon yw'r esiampl wychaf o theatr Faróc yr oes Gosaciaid, ac yn o'r dramâu ysgrifenedig cynharaf yn hanes y theatr yn Wcráin. Drama fydryddol ydyw a arloesai'r defnydd o ddialog a phatrymau barddonol yn iaith y werin, ond sydd hefyd yn cynnwys nifer o ymadroddion Hen Slafoneg Eglwysig. Mae ei farddoniaeth hefyd yn cynnwys mawlgan ar Frwydr Poltava, yn yr ieithoedd Wcreineg, Almaeneg, a Lladin, a nifer o alargerddi. Dylanwadwyd arno gryf gan glasuriaeth, ac ysgrifennodd werslyfr awdurdodal am farddoneg, De arte poetica, a gyflwynodd mesur y chweban a ffurfiau clasurol megis yr epigram i farddoniaeth Wcreineg. Cofleidiodd glasuriaeth hefyd yn ei werslyfr am rethreg, De arte rhetorica libri X, sydd yn pigo beiau'r arddull Baróc a oedd yn boblogaidd mewn areithiau, pregethau, a mawlganau'r oes.[1] Rhoes Prokopovych y gorau i ysgrifennu yn Wcreineg, ac ar bynciau Wcreinaidd, wedi iddo ymsefydlu yn St Petersburg ym 1716, a chanolbwyntiodd ar gyfansoddi cerddi a dramâu didactig i hyrwyddo diwygiadau Pedr.[1][2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 (Saesneg) Ivan Korovytsky ac Arkadii Zhukovsky, "Prokopovych, Teofan", Internet Encyclopedia of Ukraine. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Ionawr 2023.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 (Saesneg) Feofan Prokopovich. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Ionawr 2023.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), t. 478.