Taith y Pererin

(Ailgyfeiriad o The Pilgrim's Progress)

Llyfr gan John Bunyan a gyhoeddwyd gyntaf yn Saesneg yn Chwefror 1678 yw Taith y Pererin (teitl llawn yn Saesneg: The Pilgrim's Progress from This World to That Which Is to Come). Mae wedi'i gyfieithu i dros gant o ieithoedd, a bu'r fersiwn Gymraeg yn eithriadol o boblogaidd am gyfnod hir. Gyda'r Beibl a Canwyll y Cymry gan Y Ficer Prichard, roedd am gyfnod hir yn un o'r tri llyfr oedd i'w cael yn ymron bob cartref Cymreig lle ceid llyfrau o gwbl.

Taith y Pererin
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurJohn Bunyan Edit this on Wikidata
GwladLloegr Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1678 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1678 Edit this on Wikidata
Genrealegori, gwyddonias Edit this on Wikidata
Prif bwncalegori Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dechreuodd Bunyan ysgrifennu'r llyfr pan oedd yng ngharchar Bedford am gynnal cyfarfodydd crefyddol heb fod dan awdurdod Eglwys Loegr. Ymddangosodd argraffiad wedi ei ehangu yn 1679, a'r Ail Ran yn 1684. Mae'r stori yn alegori sy'n dilyn helyntion Cristion wrth iddo ffoi o'r Ddinas Ddihenydd a theithio tua'r ddinas nefol. Yn yr ail ran mae gwraig Cristion, Christiana a'u plant yn dilyn yr un daith.

Cristion yn mynd trwy'r porth, a agorir gan Mr. Ewyllys Da; llun o argraffiad 1778 yn Lloegr.

Cyfieithiadau Cymraeg golygu

Ymddangosodd yr argraffiad Cymraeg cyntaf yn 1688, wedi ei gyhoeddi gan Stephen Hughes fel Taith neu Siwrnai y Pererin, wedi'i gyfieithu ganddo ef ei hun a thri arall. Cyhoeddodd Thomas Jones argraffiad arall yn 1699, a chyhoeddwyd llawer o argraffiadau Cymraeg yn y 18g ac yn enwedig yn y 19g, yn cynnwys addasiadau i blant. Yn yr 20g cyhoeddwyd cyfieithiadau gan E. Tegla Davies a Trebor Lloyd Evans.

Cyfeiriadau golygu