Athronydd ac ystadegwr Seisnig o Swydd Hertford oedd y Parch. Thomas Bayes (c. 17017 Ebrill 1761)[2][3]. Mae'n nodedig am theorem Bayes a enwyd ar ei ôl, ond na chyhoeddwyd tan wedi ei farwolaeth. Ei gyfaill, y dyngarwr byd enwog Richard Price a sylwodd ar y wybodaeth newydd hon, wrth iddo fynd drwy ei bapurau wedi'r angladd.[4]

Thomas Bayes
Ganwyd1702 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw17 Ebrill 1761 Edit this on Wikidata
Royal Tunbridge Wells Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethmathemategydd, ystadegydd, clerig, athronydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata
llofnod
Thomas Bayes
Yr unig lun o Thomas Bayes; 1936.[1][2]
Ganwydc. 1701
Swydd Hertford, Lloegr
Bu farw7 Ebrill 1761(1761-04-07) (59 oed)
Tunbridge Wells, Caint, Lloegr
Bu fyw ynTunbridge Wells, Caint, Lloegr
CenedligrwyddSais
Alma materPrifysgol Caeredin
Enwog amTheorem Bayes
Llofnod

Cynigiodd Thomas Bayes ateb i broblem 'gwrthdro tebygolrwydd' (inverse probability) mewn ysgrif fechan a luniodd "An Essay towards solving a Problem in the Doctrine of Chances" a ddarllenwyd i'r Gymdeithas Frenhinol yn 1763, wedi ei farwolaeth. Richard Price wthiodd y theori hwn gan ei ddatblygu a'i gyhoeddi y flwyddyn dilynol mewn ysgrif o'r enw Philosophical Transactions of the Royal Society of London. Roedd y theori'n cynnig dadl dros raniad unffurf o'r paramedr binomaidd yn hytrach na'i gynosod mewn modd cyffredinol.[5]

Cyhoeddodd ddau lyfr yn ystod ei oes, un ohonynt am fathemateg: An Introduction to the Doctrine of Fluxions, and a Defence of the Mathematicians Against the Objections of the Author of The Analyst (heb ei enw, 1736), pan ddadleuodd dros sylfaen rhesymegol theori Isaac Newton ar galcwlws ac yn erbyn dadleuon negyddol George Berkeley, awdur The Analyst.

Hanes cynnar golygu

Roedd Thomas Bayes yn fab i weinidog Anghydffurfiol o Lundain: Joshua Bayes,[6] ac fe'i magwyd o bosib yn Swydd Hertford, Lloegr.[7] Roedd ei dad o deulu anghydffurfiol o Sheffield yn wreiddiol. Yn 1719, yn ddeunaw oed, aeth Thomas i Brifysgol Caeredin i astudio rhesymeg a diwynyddiaeth. Pan ddychwelodd yn 1722, cynorthwyodd ei dad yn ei gapel yn Llundain cyn symud i Tunbridge Wells, Caint, tua 1734. Yno, gweinidogaethodd ar gapel Mount Sion hyd at 1752.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. Terence O'Donnell, History of Life Insurance in Its Formative Years (Chicago: American Conservation Co:, 1936), t. 335 (caption "Rev. T. Bayes: Improver of the Columnar Method developed by Barrett.")
  2. 2.0 2.1 Bayes's portrait The IMS Bulletin, Cyfrol. 17 (1988), Rhif 3, tt. 276–278.
  3. Belhouse, D.R. The Reverend Thomas Bayes FRS: a Biography to Celebrate the Tercentenary of his Birth; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd Tachwedd 2015
  4. McGrayne, Sharon Bertsch. (2011). The Theory That Would Not Die p. 10., tud. 10, ar Google Books
  5. Edwards, A. W. G. "Commentary rhon the Arguments of Thomas Bayes," Scandinavian Journal of Statistics, Cyfrol 5, Rhif 2 (1978), tt. 116–118; adalwyd 6 Awst 2011
  6.   "Bayes, Joshua" . Dictionary of National Biography. Llundain: Smith, Elder & Co. 1885–1900.
  7. Oxford Dictionary of National Biography, erthygl ar Bayes gan A. W. F. Edwards.
  8. "The Reverend Thomas Bayes FRS- A Biography" (PDF). Institute of Mathematical Statistics. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2010.