Thomas Bray
gweinidog, clerig (1656-1730)
Clerigwr a ffilanthropydd o Loegr a gofir fel sefydlydd y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol (SPCK) oedd y Dr Thomas Bray (1656 neu 1658 – 15 Chwefror 1730).
Thomas Bray | |
---|---|
Ganwyd | 1656 Bray's Tenement |
Bu farw | 15 Chwefror 1730, 1730 Llundain |
Alma mater | |
Galwedigaeth | clerig, gweinidog yr Efengyl |
Dydd gŵyl | 15 Chwefror |
Ganed Bray ym Marston, Swydd Amwythig. Ymsefydlodd yn Y Trallwng, Sir Drefaldwyn (Powys) am gyfnod. Roedd dau o'r pedwar lleygwr a'i cynorthwyodd i sefydlu'r SPCK yn Gymry, sef Syr Humphrey Mackworth o Gastell-nedd a Syr John Phillips o Gastell Pictwn yn Sir Benfro.
Am gyfnod bu'n gweithio ar system o lyfrgelloedd plwyf i'r werin bobl yn Maryland (un o daleithiau yr Unol Daleithiau heddiw) hefyd, o 1699 hyd 1706. Ond roedd ei brif waith gyda'r SPCK yng Nghymru a Lloegr.
Ysgrifennodd sawl gwaith diwinyddol i'r cyffredin hefyd, er enghraifft y Catechetical Lectures.