Pencraig

pentref a chymuned ym Mhowys

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Pencraig[1] (Saesneg: Old Radnor). Saif rhwng Maesyfed a Llanandras, ychydig i'r de o briffordd yr A44 ac ychydig i'r gorllewin o'r ffîn a Lloegr.

Pencraig
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPencraig Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.225°N 3.1°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Mae eglwys plwyf Pencraig yn dyddio o'r 15g ac yn cynnwys y cas organ hynaf yng ngwledydd Prydain.

Heblaw pentref Pencraig, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Evenjobb a Walton. Cafwyd hyd i balisâd mawr o goed o'r cyfnod Neolithig yn Walton yn ddiweddar. Codwyd y castell mwnt a beili yn Womaston cyn 1066, a chredir mai hwn oedd yn cynharaf yng Nghymru. Bu George Cornewall Lewis yn byw yn Harpton Court. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 741.

Ceir Allt Pencraig (Old Radnor Hill) yn y gymuned.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[3]

Fferm yng nghymuned Pencraig

Eglwys y pentref: Sant Ystyffan golygu

O ran pensaerniaeth ac adeiladwaith, dyma un o eglwysi pwysicaf Cymru: mae'r hen eglwys wreiddiol yn tarddu ymhell cyn i'r Normaniaid gyrraedd. Gan nad oes eglwys arall a gysegrwyd i Sant Steffan yng Nghymru, dyfalir y gallai'r eglwys wreiddiol fod wedi ei chysegru i Ystyffan, aelod o deulu brenhinol Teyrnas Powys, gyda nifer eraill o eglwysi wedi eu cysegru iddo. Yn dilyn cwymp Tywysogion Cymru, efallai fod y Normaniaid wedi credu'n anghywir mai cyfeiriad Cymreig at Sant Steffan oedd Ystyffan ac ailgysegrwyd yr eglwys i hwnnw, gan ei fod yn sant poblogaidd yn Lloegr.

Yn y 1200au, trosglwyddwyd yr eglwys i Deulu'r Mortimer. Yn 1401 cafodd ei llosgi yn ystod Gwrthryfel Glyn Dŵr. Er gwaethaf y tân, mae'r bedyddfaen cyn-Normanaidd mawr iawn, a allai fod mor hen â'r 8fed ganrif, wedi goroesi.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pencraig (pob oed) (741)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pencraig) (52)
  
7.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pencraig) (197)
  
26.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Pencraig) (88)
  
28.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-30.
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.