Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

athro a bardd
(Ailgyfeiriad o Thomas Jacob Thomas)

Bardd Cymraeg oedd Thomas Jacob Thomas (13 Ebrill 18732 Rhagfyr 1945), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Sarnicol. Roedd yn un o feirdd mwyaf poblogaidd ei gyfnod ac yn epigramydd penigamp.

Thomas Jacob Thomas
FfugenwSarnicol Edit this on Wikidata
Ganwyd13 Ebrill 1873 Edit this on Wikidata
Capel Cynon Edit this on Wikidata
Bu farw2 Rhagfyr 1945 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganed Sarnicol ym mhentref Capel Cynon, ger Llandysul, Ceredigion yn 1873. Magwyd y bardd ym mro Banc Siôn Cwilt a chafodd diwylliant Cymraeg a thraddodiadau gwerinol yr ardal honno ddylanwad mawr ar ei waith fel bardd. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac aeth yn ei flaen i fod yn athro ysgol yn Southampton yn ne Lloegr, Abergele ac Abertyleri, ac yn brifathro mewn ysgol ger Merthyr Tudful.

Gwaith llenyddol

golygu

Ymddiddorai'n fawr yn nhraddodiadau a llên gwerin Cymru, a chyhoeddodd sawl cerdd boblogaidd sy'n seiliedig ar chwedlau Cymraeg. Cyhoeddodd ddeg cyfrol o farddoniaeth yn ystod ei oes gan ddod yn un o feirdd mwyaf poblogaidd Cymru. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Fenni 1913.

Mae ei gerddi poblogaidd yn tueddu i fod yn rhamantaidd a sentimentalaidd braidd, ond ei brif gyfraniad i lenyddiaeth Gymraeg yw ei gerddi byr dychanol, yn enwedig y rhai a geir yn y gyfrol Blodau Drain Duon (1935), sy'n cynnwys ei epigram adnabyddus am Dic Sion Dafydd.

Cyhoeddodd hefyd gyfrol o addasiadau o chwedlau gwerin ei fro, Chwedlau Cefn Gwlad.

Llyfryddiaeth ddethol

golygu
  • Stori Siaci'r Gwas (1906)
  • Odlau Môr a Mynydd (1912)
  • Blodau Drain Duon (Gwasg Gomer, 1935)
  • Catiau Cwta (Llyfrau'r Dryw 1940)
  • Chwedlau Cefn Gwlad (Gwasg Gee, 1944)
  • Ar Fanc Siôn Cwilt, golygwyd gan J. Tysul Davies (Gwasg Gomer, 1972). Ysgrifau a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.

Dolenni allanol

golygu