Thomas Jones (Gogrynwr)

Meddyg a cherddor o Ddolgellau (1822 - 1854) (1822 -1854)

Meddyg a cherddor oedd Thomas Jones (18221854) a elwid hefyd yn Gogrynwr.

Thomas Jones
FfugenwGogrynwr Edit this on Wikidata
Ganwyd1822 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
Bu farw1854 Edit this on Wikidata
Llandegla Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmeddyg, cerddor Edit this on Wikidata

Magwraeth ac addysg golygu

Fe'i ganed ym "Mronant", Dolgellau yn 1822, yn fab i fferyllydd, a sicrhaodd fod ei fab hefyd yn derbyn addysg mewn meddygaeth. O Ddolgellau aeth i'r coleg yn Lerpwl ac yna Wrecsam a Chorwen.

Yn 32 oed symudodd i "Benstryt", Llandegla lle bu farw yn 1854 yn 32 oed.

Gwaddol golygu

Gadawodd ar ei ôl gyfrol o gerddoriaeth a chantata "Gweddi Habacuc", sef cyfansoddiad a ddanfonodd i Eisteddfod Porthmadog yn 1851. Achosodd ei lythyrau, a gyhoeddodd yn Yr Amserau dipyn o gythrwfwl, gan ei fod yn feirniadol iawn o feirniadaeth a gafodd mewn eisteddfod arall - Eisteddfod Bethesda.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig; adalwyd 27 Tachwedd 2017.