Tlysau yr Hen Oesoedd
Cyfrol o gerddi a pheth rhyddiaith ysgafn a gyhoeddwyd gan y llenor Lewis Morris yn 1735 yw Tlysau yr Hen Oesoedd. Fe'i hargraffwyd ar ei wasg ei hun yng Nghaergybi. Y bwriad oedd iddo fod y cyntaf mewn cyfres ond ni chafwyd rhagor. Dyma'r llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei argraffu ym Môn a dim ond yr ail yng ngogledd Cymru. Mae ymysg y llyfrau prinnaf yn y Gymraeg. Credid yn 1864 mai dim ond dau gopi cyflawn a oedd ar gael, ac argraffwyd can copi gan Isaac Foulkes gydag adargraffiad trwy lun o un o'r cyfryw gopïau. Rhifwyd pob un o'r copïau hynny.
Enghraifft o'r canlynol | cyfnodolyn, cylchgrawn |
---|---|
Awdur | Lewis Morris |
Cyhoeddwr | Lewis Morris |
Gwlad | Cymru |
Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1902 |
Argaeledd | allan o brint. |
Genre | Barddoniaeth |
Lleoliad cyhoeddi | Lerpwl |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Y teitl llawn yw: 'Tlysau | yr Hen Oesoedd : | sef, Gwaith Doethion y Cynfyd.' Llyfr 16 tudalen 8plyg.
Amcan Lewis Morris oedd cyflenwi llenyddiaeth Gymraeg boblogaidd ond o safon uchel i ddiwallu bwlch yn y farchnad a lenwid gan waith awduron Saesneg. "Er mwyn denu y Cymry Seisnigaidd i ddarllen Cymraeg, ac i graffu ar beth na chlywsant erioed son am dano (sef bod dysg a gwybodaeth gynt yng Nghymru)," rhoddodd y cynwysiad yn Saesneg.
Ar ddiwedd y rhagymadrodd i'r llyfr mae Lewis Morris yn annog ei ddarllenwyr i brynu llyfrau Cymraeg:
- 'Yr argraffwasg, medd y doethion, yw Cannwyll y byd, a Rhyddid Plant Prydain. Pam i ninnau (a fuom wŷr mor glewion, gynt! os oes coel arnom) na cheisiwn beth o'r goleuni? Swllt o bwrs pob un o honoch, tuag at y papyr a'r gwaith, a lanwai'r wlad o lyfrau da, ac a llawer o fwynder a dyddanwch, ac a gadwai'ch enwau i dragwyddoldeb, fal cenhedloedd ereill. Oni wnewch, gwnewch a fynnech. Duw gyda chwi! yw dymuniad eich ufudd wasanaethwr.'
Ffynonellau
golygu- Charles Ashton, Hanes Llenyddiaeth Gymreig 1650 i 1850 (Lerpwl, 1891)
- Gwilym Lleyn (William Rowlands), Llyfryddiaeth y Cymry (ail argraffiad, Llanidloes, 1869), tud. 368-9.