Bara crwn tenau a wneir o flawd corn neu weithiau flawd gwenith a fwyteir gyda llenwad sawrus yw tortila[1][2] neu tortïa[2] (Sbaeneg: tortilla). Mae'r tortilla yn fara croyw, hynny yw, bara dilefain (heb furum neu ychwanegiad sy'n peri i'r toes eplesu a chodi.

Peiriant yn coginio pentyrrau o dortilas yn Ninas Mecsico.

Prif fwyd Mecsico yw'r tortila ac yn hanesyddol dyma brif ffynhonnell calsiwm. Coginir yn draddodiadol drwy ferwi'r india corn (neu 'indrawn') gyda chalch brwd (calsiwm hydrocsid) i'w feddalu, a gwahanu'r rhan byw mewnol (y ffrwyth) a rhyddhau'r plisg a ddefnyddir i fwydo ieir. Yna, defnyddir melin law, sef carreg o'r enw metate, i falu'r grawn. Gwneir toes a gafodd ei dylino'n denau gan law, ac yna ei bobi ar comal, sef gridyll pridd neu haearn. Heddiw, prynir y mwyafrif o dortilas mewn tortillerías parod, masnachol, lle cymysgir a gwasgir y toes gan beiriannau, a'i goginio ar gludfelt dros dân.[3]

Ymddengys tortilas yn y mwyafrif o brydau Mecsicanaidd i gyd-fynd â seigiau, saws a stiw. Fe'u defnyddir fel amlen yn llawn o fwydydd eraill, yn hytrach na llwy. Weithiau caiff tortilas eu torri a'u ffrio'n greision. Plygir y tortila o gwmpas cig, ffa, caws a saws sbeislyd i wneud taco. Pobir tortila gyda llenwad o saws i wneud enchiladas. Tostada yw'r enw ar dortila wedi'i ffrio gyda chig, ffa, caws, letys, a thomato ar ei ben ei hun. Gwneir burrito drwy amlapio ffa a chig neu gaws mewn tortila o wenith. Caiff toes tortila ei siapio'n amryw o ffurfiau i wneud sopes, chalupas, quesadillas, a panuchos, eto gyda llenwad sawrus.[3]

Mae tortilas hefyd yn boblogaidd iawn mewn gwledydd eraill America Ladin a'r Unol Daleithiau.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Geiriadur yr Academi, [tortilla].
  2. 2.0 2.1  tortila. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 22 Mai 2016.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) tortilla. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Mai 2016.

Darllen pellach

golygu
  • Paula E. Morton. Tortillas: A Cultural History (Gwasg Prifysgol New Mexico, 2014).