Tour de France 2015

Tour de France 2015 oedd y 102il ras yn hanes y Tour de France. Dechreuodd y ras yn Utrecht, yr Iseldiroedd ar 4 Gorffennaf 2015, cyn teithio drwy Wlad Belg a dychwelodd i Ffrainc wrth i'r pedwerydd cymal orffen yn Cambrai.[1] Dyma 18fed ras Taith y Byd UCI, 2015.[2] Yn cymryd rhan o Gymru roedd Luke Rowe a Geraint Thomas, dyma'r tro cyntaf erioed i ddau Gymro gychwyn y ras.

Tour de France 2015
Enghraifft o'r canlynolTour de France Edit this on Wikidata
Math2.UWT Edit this on Wikidata
Rhan oUCI World Tour 2015 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd4 Gorffennaf 2015 Edit this on Wikidata
Daeth i ben26 Gorffennaf 2015 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganTour de France 2014 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganTour de France 2016 Edit this on Wikidata
Yn cynnwys2015 Tour de France, stage 1, 2015 Tour de France, stage 2, 2015 Tour de France, stage 3, 2015 Tour de France, stage 4, 2015 Tour de France, stage 5, 2015 Tour de France, stage 6, 2015 Tour de France, stage 7, 2015 Tour de France, stage 8, 2015 Tour de France, stage 9, 2015 Tour de France, stage 10, 2015 Tour de France, stage 11, 2015 Tour de France, stage 12, 2015 Tour de France, stage 13, 2015 Tour de France, stage 14, 2015 Tour de France, stage 15, 2015 Tour de France, stage 16, 2015 Tour de France, stage 17, 2015 Tour de France, stage 18, 2015 Tour de France, stage 19, 2015 Tour de France, stage 20, 2015 Tour de France, stage 21 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.letour.fr/le-tour/2015/fr/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map o lwybr Tour de France 2015

Hon oedd y chweched tro i'r Tour de France gychwyn yn yr Iseldiroedd, yn dilyn 1954 (Amsterdam), 1973 (Scheveningen), 1978 (Leiden), 1996 ('s-Hertogenbosch) a 2010 (Rotterdam). Mae hyn yn record ar gyfer gwlad sydd ddim yn ffinio'n uniongyrchol â Ffrainc.

Chris Froome enillodd y crys melyn (dosbarthiad cyffredinol).

Rheolau newydd golygu

Ail-gyflwynwyd bonws amser ar gyfer rhifyn 2015 o'r ras. Yn rhan gyntaf y ras, o gymal 2 hyd 8, bydd y tri cyntaf i groesi'r llinell yn derbyn bonws o 10, 6 a 4 eiliad yr un. Ni wobrwyir bonws ar gyfer cymal treial amser. Newidir system bwyntiau'r gystadleuaeth gwibio yn ogystal: gwobrwyir 50 pwynt yn hytrach na 45 am fuddugoliaeth, 30 yn hytrach na 35 pwynt ar gyfer ail safle, ac 20 yn hytrach na 30 ar gyfer trydydd safle. Bwriad y newidiadau yw i wneud buddugoliaeth mewn cymal yn fwy werthfawr.[3] Dim ond chwe cymal gwastad y Tour a gaiff eu heffeithio gan y newid hwn (cymalau 2, 5, 6, 7, 15 a 21). Mewn saith o'r cymalau (y cymal â choblau a'r chwe cymal mwy fryniog, sef 3, 4, 8, 10, 13, 14 ac 16) bydd yr enillydd yn derbyn 30 pwynt, 25 ar gyfer yr ail, ac yn y blaen.[4] Yn y cymalau mynyddig a'r treial amser, (cymalau 1, 11, 12, 17, 18, 19, 20) rhoddir 20 pwynt i'r enillydd. Ni wobrwyir unrhyw bwyntiau ar gyfer cymal 9, sef y treial amser tîm.[5]

Y Timau golygu

Mae disgwyl i bob un o'r 17 tîm ar Gylchdaith Broffesiynol yr UCI gymryd rhan yn y ras ac mae trefnwyr y ras hefyd wedi rhoi gwahoddiad i bum tîm sy'n rasio ar yr haen nesaf o feicio proffesiynol. Timau "World Tour"

Timau proffesiynol cyfandirol

†: timau sydd wedi derbyn gwahoddiad

Y ffefrynnau cyn y ras golygu

Y ffefrynnau i ennill y dosbarthiad cyffredinol: Vincenzo Nibali, Chris Froome, Alberto Contador a Nairo Quintana.

Vincenzo Nibali o dîm Astana, oedd un o'r ffefrynnau i ennill y ras, gan mai ef a enillodd y flwyddyn gynt. Ymysg y ffefrynnau hefyd oedd Chris Froome[6] (Sky), Alberto Contador (Tinkoff-Saxo) a Nairo Quintana (Movistar Team). Enillydd 2007 a 2009 oedd Contador ac enillydd 2013 oedd Froome, a oedd yn dychwelyd wedi iddo ymddeol o ras 2014 yn dilyn damwain, tra na chystadlodd Quintana yn 2014 yn dilyn ei fuddugoliaeth yn Giro d'Italia 2014. Roedd Contador wedi ennill Giro d'Italia 2015, ac yn anelu i fod y reidiwr cyntaf ers Marco Pantani ym 1998, i gyflawni'r gamp ddwbl o ennill y Giro a'r Tour yr un flwyddyn. Bu hefyd yn anelu at ddal teitl y tri Grand Tour yr un pryd, wedi iddo ennill Vuelta a España 2014.[7][8]

Roedd cystadleuwyr eraill o nôd yn cynnwys Tejay van Garderen (BMC Racing Team), Thibaut Pinot (FDJ) a orffennodd ar y podiwm yn 2014, Alejandro Valverde (Movistar Team), Rui Costa (Ag2r-La Mondiale), Joaquim Rodríguez (Team Katusha) ac enillydd Giro d'Italia 2012 Ryder Hesjedal (Cannondale-Garmin).[9][10]

Y ffefrynnau i ennill y cymalau oedd Mark Cavendish (Etixx-Quick Step), a oedd wedi profi ei ffitrwyd yn 2015 drwy ennill 12 sbrint mewn amryw o rasys a dosbarthiad cyffredinol Dubai Tour. Un o'r cystadlwyr eraill oedd Alexander Kristoff (Team Katusha), gyda 18 buddugoliaeth yn 2015 hyd y Tour. Roedd Andre Greipel (Lotto-Soudal), hefyd yn dod â'i drên arwain i'r Tour, fel Cavendish, gyda Peter Sagan (Tinkoff-Saxo) yn debygol o gipio nifer o'r sbrintiau yn y bryniau, lle byddai llai o sbrintiau, ac yntau wedi dangos ei fod yn gryfach na'r sbrintwyr eraill dros fryniau bychain yn y gorffennol. Roedd Sagan hefyd wedi cipio'r crys gwyrdd am dair mlynedd yn ganlynol, ond bydd hynny'n anos yn 2015 oherwydd y newid i'r rheolau, a'r ffaith mai ei swyddogaeth arall wrth reidio'r Tour oedd gefnogi arweinydd y tîm, Contador.[11][12] Yn nodweddiadol hefydd oedd absenoldeb Marcel Kittel, a enillodd y nifer fwyaf o gymalau yn 2014, oherwydd diffyg ffitrwydd.[13]

Cymalau golygu

Rhestr Cymalau[14]
Cymal Dyddiad Cwrs Pellter Math Enillydd
1 4 Gorffennaf Utrecht – Utrecht 13.8 km (9 mi)   Treial amser unigol   Rohan Dennis
2 5 Gorffennaf Utrecht – Neeltje Jans 166 km (103 mi)   Cymal gwastad   André Greipel
3 6 Gorffennaf Antwerp – Huy
159.5 km (99 mi)   Cymal mynyddig canolig   Joaquim Rodríguez
4 7 Gorffennaf Seraing – Cambrai
223.5 km (139 mi)   Cymal gwastad with cobblestones   Tony Martin
5 8 Gorffennaf Arras – Amiens
189.5 km (118 mi)   Cymal gwastad   André Greipel
6 9 Gorffennaf Abbeville – Le Havre
191.5 km (119 mi)   Cymal gwastad   Zdeněk Štybar
7 10 Gorffennaf Livarot – Fougères
190.5 km (118 mi)   Cymal gwastad   Mark Cavendish
8 11 Gorffennaf Rennes – Mûr-de-Bretagne
181.5 km (113 mi)   Cymal mynyddig canolig   Alexis Vuillermoz
9 12 Gorffennaf Vannes – Plumelec
28 km (17 mi)   Treial amser tîm BMC Racing Team
13 Gorffennaf   Diwrnod gorffwys (Pau)
10 14 Gorffennaf Tarbes – La Pierre Saint Martin
167 km (104 mi)   Cymal mynyddig   Chris Froome
11 15 Gorffennaf Pau – Cauterets
188 km (117 mi)   Cymal mynyddig   Rafał Majka
12 16 Gorffennaf Lannemezan – Plateau de Beille
195 km (121 mi)   Cymal mynyddig   Joaquim Rodríguez
13 17 Gorffennaf Muret – Rodez
198.5 km (123 mi)   Cymal mynyddig canolig   Greg Van Avermaet
14 18 Gorffennaf Rodez – Mende
178.5 km (111 mi)   Cymal mynyddig canolig   Steve Cummings
15 19 Gorffennaf Mende – Valence
183 km (114 mi)   Cymal bryniog   André Greipel
16 20 Gorffennaf Bourg-de-Péage – Gap
201 km (125 mi)   Cymal mynyddig canolig   Rubén Plaza
21 Gorffennaf   Diwrnod gorffwys (Gap)
17 22 Gorffennaf Digne-les-Bains – Pra Loup
161 km (100 mi)   Cymal mynyddig   Simon Geschke
18 23 Gorffennaf Gap – Saint-Jean-de-Maurienne
186.5 km (116 mi)   Cymal mynyddig   Romain Bardet
19 24 Gorffennaf Saint-Jean-de-Maurienne – La Toussuire – Les Sybelles
138 km (86 mi)   Cymal mynyddig   Vincenzo Nibali
20 25 Gorffennaf Modane – Alpe d'Huez
110.5 km (69 mi)   Cymal mynyddig   Thibaut Pinot
21 26 Gorffennaf Sèvres – Paris
109.5 km (68 mi)   Cymal gwastad   André Greipel

Arweinwyr y dosbarthiadau golygu

 
Geraint Thomas

Roedd pedwar prif ddosbarth yn y Tour de France 2015 gyda'r dosbarthiad cyffredinol (Ffrengig: classement général) y pwysicaf. Cyfrifir y dosbarthiad cyffredinol trwy adio amser pob beiciwr ar ddiwedd pob cymal. Y beiciwr gyda'r cyfanswm isaf o amser yw arweinydd y ras ac sy'n cael yr hawl i wisgo'r Crys Melyn (Ffrangeg: Maillot Jaune).[15][16]

Yn y dosbarthiad pwyntiau, lle mae'r arweinydd yn gwisgo'r Crys Gwyrdd (Ffrangeg: Maillot Vert) mae'r beicwyr yn casglu pwyntiau am orffen ymysg y goreuon ar ddiwedd cymal a hefyd mewn rasys gwibio sydd yn digwydd mewn mannau penodol yn ystod pob cymal.

Ceir pwyntiau tuag at y Crys Dot Polca (Ffrangeg: Maillot à Pois) am gyrraedd copâu'r gwahanol ddringfeydd ar bob cymal. Ceir gwahanol gategoriau o ddringfeydd gyda'r hors catégorie - y categori uchaf - yn werth mwy o bwyntiau na'r dringfeydd categori cyntaf, ail, trydydd neu bedwerydd.

Nodir y beiciwr ifanc gorau yn y ras gyda'r Crys Gwyn (Ffrangeg: Maillot Blanc) sy'n cael ei roi i'r beiciwr uchaf yn y dosbarthiad cyffredinol sydd wedi eu geni ar ôl neu ar 1 Ionawr 1989.

Ar gyfer dosbarthiad tîm, cymerir amser y tri beiciwr cyntaf o bob tîm i orffen pob cymal; y tîm sydd ar y blaen yw'r tîm sydd â'r cyfanswm amser lleiaf. Mae'r tîm sy'n arwain y dosbarthiad tîm yn gwisgo rhifau gyda chefndir melyn ar eu cefnau.

Mae rheithgor yn cyfarfod ar ôl pob cymal, heblaw treial amser a'r cymal derfynol, er mwyn pleidleisio dros y beiciwr maent yn ei ystyried sydd wedi brwydro'n fwy nag unrhyw un arall yn ystod y dydd.[16] Yn ystod y cymal canlynol, mae'r enillydd yn gwisgo rhif gyda chefndir coch ar ei gefn, yn hytrach nag un gwyn. Ar ddiwedd y Tour de France, y reidiwr gyda'r cyfanswm mwyaf o bleidleisiau dros pob cymal sy'n cael ei adnabod fel y reidwr mwyaf brwydrol.[16]

Cymal Enillydd Dosbarthiad cyffredinol
 
Maillot jaune
Dosbarthiad Pwyntiau
 
Maillot vert
Brenin y Mynyddoedd
 
Maillot à pois rouges
Reidiwr Ifanc
 
Maillot blanc
Dosbarthiad Tîm
 
Classement par équipe
Gwobr Brwydrol
 
Prix de combativité
1 Rohan Dennis Rohan Dennis Rohan Dennis dim gwobr Rohan Dennis LottoNL-Jumbo dim gwobr
2 André Greipel Fabian Cancellara André Greipel Tom Dumoulin BMC Racing Team Michał Kwiatkowski
3 Joaquim Rodríguez Chris Froome Joaquim Rodríguez Peter Sagan Jan Bárta
4 Tony Martin Tony Martin Vincenzo Nibali
5 André Greipel Michael Matthews
6 Zdeněk Štybar Daniel Teklehaimanot Perrig Quéméneur
7 Mark Cavendish Chris Froome Anthony Delaplace
8 Alexis Vuillermoz Peter Sagan Bartosz Huzarski
9 BMC Racing Team dim gwobr
10 Chris Froome André Greipel Chris Froome Nairo Quintana Team SKY Kenneth Vanbilsen
11 Rafał Majka Peter Sagan Dan Martin
12 Joaquim Rodríguez Movistar Team Michał Kwiatkowski
13 Greg Van Avermaet Thomas De Gendt
14 Steve Cummings Pierre-Luc Périchon
15 André Greipel Peter Sagan
16 Rubén Plaza Peter Sagan
17 Simon Geschke Simon Geschke
18 Romain Bardet Joaquim Rodríguez Romain Bardet
19 Vincenzo Nibali Romain Bardet Pierre Rolland
20 Thibaut Pinot Chris Froome Alexandre Geniez
21 André Greipel dim gwobr
Terfynol Chris Froome Peter Sagan Chris Froome Nairo Quintana Movistar Team Romain Bardet

Cyfeiriadau golygu

  1. "Tour de France 2015 to start in Utrecht". cyclingnews.com. 8 November 2014. Cyrchwyd 8 January 2015.
  2. "2015 UCI Calendar". UCI. Cyrchwyd 4 Ionawr 2015.
  3. Hood, Andrew. "Tour de France resurrects time bonuses, reshuffles points competition". VeloNews.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-08. Cyrchwyd 25 March 2015.
  4. "The changing face of the Tour de France's green jersey". Cyclingnews.com. Immediate Media Company. 24 June 2015. Cyrchwyd 24 June 2015.
  5. Arts, Ruud (30 June 2015). "Tour de France 2015 Preview: Sprinters and the Points Classification". cyclingupdates.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-04. Cyrchwyd 30 June 2015.
  6. Axelgaard, Emil (30 June 2015). "Tour de France: The favourite". Cycling Quotes. CyclingQuotes.com 2013. Cyrchwyd 30 June 2015.
  7. Lindsay, Joe (25 June 2015). "How Oddsmakers Rank the 2015 Tour de France Contenders". Bicycling. Rodale, Inc. Cyrchwyd 30 June 2015.
  8. Axelgaard, Emil (30 June 2015). "Tour de France: The main challengers". Cycling Quotes. CyclingQuotes.com 2013. Cyrchwyd 30 June 2015.
  9. Yost, Whit (8 June 2015). "What's up with the 2015 Tour de France Contenders?". Bicycling. Rodale, Inc. Cyrchwyd 29 June 2015.
  10. Axelgaard, Emil (30 June 2015). "Tour de France: The potential winners". Cycling Quotes. CyclingQuotes.com 2013. Cyrchwyd 30 June 2015.
  11. "Who Will Win The Green Jersey?". http://inrng.com/. 30 June 2015. Cyrchwyd 30 June 2015. External link in |work= (help)
  12. "Tour de France: Tinkoff-Saxo target yellow and green with Contador and Sagan". Cyclingnews.com. Immediate Media Company. 29 June 2015. Cyrchwyd 29 June 2015.
  13. O'Shea, Sadhbh (25 June 2015). "Marcel Kittel will not ride Tour de France". Cyclingnews.com. Immediate Media Company. Cyrchwyd 25 June 2015.
  14. "2014 Route". Le Tour. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-06. Cyrchwyd 3 Gorff 2014. Check date values in: |accessdate= (help)
  15. Wynn, Nigel (1 July 2015). "Tour de France: The jerseys". Cycling Weekly. Time Inc. UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-05. Cyrchwyd 12 July 2015.
  16. 16.0 16.1 16.2 "Sporting stakes / rules". Tour De France. ASO. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-04. Cyrchwyd 12 July 2015.

Dolenni allanol golygu

1903 · 1904 · 1905 · 1906 · 1907 · 1908 · 1909 · 1910 · 1911 · 1912 · 1913 · 1914
1915-1918 Gohirwyd oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
1919 · 1920 · 1921 · 1922 · 1923 · 1924 · 1925 · 1926 · 1927 · 1928 · 1929 ·
1930 · 1931 · 1932 · 1933 · 1934 · 1935 · 1936 · 1937 · 1938 · 1939
1940-1946 Gohirwyd oherwydd yr Ail Ryfel Byd
1947 · 1948 · 1949 · 1950 · 1951 · 1952 · 1953 · 1954 · 1955 · 1956 · 1957 · 1958 · 1959 · 1960 · 1961 · 1962 · 1963 · 1964 · 1965 · 1966 · 1967 · 1968 · 1969 · 1970 · 1971 · 1972 · 1973 · 1974 · 1975 · 1976 · 1977 · 1978 · 1979 · 1980 · 1981 · 1982 · 1983 · 1984 · 1985 · 1986 · 1987 · 1988 · 1989 · 1990 · 1991 · 1992 · 1993 · 1994 · 1995 · 1996 · 1997 · 1998 · 1999 · 2000 · 2001 · 2002 · 2003 · 2004 · 2005 · 2006 · 2007 · 2008 · 2009 · 2010 · 2011 · 2012 · 2013 · 2014 · 2015