Traeth Towyn

traeth yng Nghwynedd
(Ailgyfeiriad o Traeth Towyn, Tudweiliog)

Traeth tywodlyd braf ar arfordir gogleddol Llŷn, Gwynedd, Cymru yw traeth neu lan 'môr Towyn. Cyfeirnod grid OS SH231376, lledred 52.9063°G, hydred 4.6308°Gn. Mae llwybr drol yn dilyn i lawr o'r ffordd gyferbyn â Fferm Towyn i lawr i'r traeth, heibio siop a chaffi poblogaidd Cwt Tatws a maes carafanau bach. Wrth gyrraedd pen y gallt fe ddewch ar draws Llwybr Arfordir Cymru lle mae posib troi i'r dde a cherdded tuag at traeth caregog Bieg/Bîg ac ymlaen tuag at Rhosgor neu i'r chwith i gyfeiriad Porth Ysglaig a Phorth Cychod a Phorth Ysgaden. Fel sy'n nodedig o lawer o draethau a phorthladdoedd Llŷn, gelltydd o bridd a chlai go serth sydd yma hefyd, er bod llwybr drol gyfleus yn eich tywys i lawr i'r traeth ei hun.

Traeth Tywyn
Mathtraeth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolLlwybr Arfordir Cymru Edit this on Wikidata
GwladCymru, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.90631°N 4.63081°W Edit this on Wikidata
Cod postSH231376 Edit this on Wikidata
Map
Machlud ar draeth Towyn, Chwefror 2020.

Does dim cyfleusterau i lawr ar y traeth ei hun ac mae'n anaddas ar gyfer pobl sy'n ddibynnol ar gadair olwyn ond mae meinciau pren wedi eu gosod uwch ben y traeth ar ben yr allt lle mae posib eistedd a gwylio'r olygfa.

Yn ystod yr haf mae'r traeth yn medru bod yn brysur gyda ymwelwyr, ond os fyddwch yn ffodus a chael y traeth i chi'ch hun, mae'n le hudolus. Mae'r traeth gyda cherrig brig llwyd-ddu hynafol o'r Oes Cambraidd naill ben iddi. Allan yn y môr mae cyfres o greigiau a ddaw i'r golwg ar drai, yn lleol fe'i gelwir yn 'Greigiau Delysg' yn ôl y gwymon a dyfai yno, Mae posib nofio i gyrraedd Cerrig Delysg ar dop trai.

Hefyd ym mhen ogleddol y traeth mae craig fach llyfn a ddaw i'r golwg yn dibynnu ar faint o dywod fydd ar y traeth ar y pryd. 'Carreg Yr Ebol' oedd yr enw oedd arni:

"Yr Ebol, ac arni yr hyn a ddisgrifir gan Myrddin Fardd yn ôl troed ceffyl. Dywedir ganddo fod hen goel am y graig hon. Pe bai'r môr yn golchi'r tywod oddi arni byddai'r ŷd y flwyddyn ganlynol yn ddrud iawn, "ac os gorchuddiai y tywod hi, y byddai popeth yn hynod o isel a di-ofyn." "[1]

Traeth Towyn yn yr haul.
Traeth Towyn, yn gwynebu'r gogledd.

Ym mhen gogleddol traeth mae posib cerdded o gwmpas y creigiau brig i gyrraedd traeth bach tywodlyd a chuddiedig Pengalld, a'i gelwyd ar ôl y tyddyn agosaf iddo.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gruffydd, Elfed (1991). Ar Hyd Ben 'Ralld. Pwllheli: Clwb y Bont. t. 24.