Porth bach creigiog ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn yn Nhudweiliog, Gwynedd yw Porth Cesyg (hefyd Porth Caseg)[1]) rhwng Porth Cychod a Porth Ysgaden. Does dim llwybr pwrpasol i'w gyrraedd o ben yr allt ac mae gofyn bod yn ofalus i ddringo'i lawr ato. Mae traeth bach creigiog yno gyda nifer o gregyn amrywiol yn cael eu golchi i fyny gyda'r llanw megys y gwichyn pen polyn (Trivia arctica), llygid meherin (Patella vulgata) a gwichiaid (Littorina obtusata).

Gwichyn pen polyn (Trivia arctica) ar draeth Porth Cesyg.
Murddun Peralld a welir o Borth Cesyg.

Gweler hefyd o ran diddordeb lleol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gruffydd, Elfed (1991). Ar Hyd Ben 'Ralld. Pwllheli: Clwb y Bont. t. 26.