Porthladd bychain ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn yw Porth Cychod rhwng Porth Lydan a Phorth Cesyg yn Nhudweiliog, Gwynedd. Mae i'r porthladd bach yma hanes pysgota diwyndiannol ac mae tystiolaeth o hynny i'w ganfod yno megis y cytiau pysgota bychain ag olion rhydlyd y peiriannau tynny cychod sydd iw gweld ar waelod yr allt yno hyd heddiw.

Oddi yma yr hwyliodd ddau lanc o Dudweiliog allan i'r môr i gweylla'n 1933. Fe gollwyd un o'u rhwyfau ac fe'u cludwyd ar drugaredd y lli i Kilkeel yng Ngogledd Iwerddon 35 awr yn ddiweddarach.

Un nodwedd amlwg arall yma yw'r cwt bach gwyrdd ar ben yr allt uwchben y porthadd. I gynnig cysgod i aeodau o deulu Cefnamwlch oedd pwrpas gwreiddiol yr adeilad di-do hwn ond gyda chaniatad y plas fe ychwanegwyd to sinc iddo gan Mr. Griffith Griffiths o Benralld, Porth Ysgaden a'i droi'n gwt.

Cwt Mr. Griffith Griffiths, Penralld, Porth Ysgaden uwchben Porth Cychod, Tudweiliog.
Yr olygfa y tu fewn i gwt Mr. Griffith Griffiths yn 2020.
Cytiau pysgota Porth Cychod.
Llun o Borth Cychod o ben 'ralld.

Heddiw does dim gymaint o bysgota'n digwydd yma, ac weithiau gwelir forlo'n nofio'n hamddenol yma. Mae'n hefyd yn le bach braf i ymdrochi - yn enwedig os cewch y lle i chi'ch hun ar y traeth bach graeanog.

Cyfeiriadau

golygu

Gweler hefyd o ran diddordeb lleol

golygu