TrawsCymru
TrawsCymru yw'r brand ar gyfer rhwydwaith o lwybrau bysiau cyflym pellter canolig a hir yng Nghymru, a noddir gan Lywodraeth Cymru.[1] Fe’i cyflwynwyd yn lle rhwydwaith TrawsCambria.
Enghraifft o'r canlynol | brand name, bus-based transport system |
---|---|
Gweithredwr | First Cymru, Newport Transport, Stagecoach South Wales, NAT Group, Richards Brothers |
Rhagflaenydd | TrawsCambria |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Cymru |
Gwefan | https://traws.cymru/en, https://traws.cymru/cy |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn 2010, cynhaliodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ymgynghoriad ar wella rhwydwaith TrawsCambria.[2] Yn 2011, cyhoeddwyd rhaglen o welliannau ar gyfer gwasanaethau TrawsCambria X40 (Caerfyrddin - Pencader - Lampeter - Aberaeron - Aberystwyth) a 704 / T4 (Y Drenewydd - Aberhonddu / Merthyr).[3]
O dan y cynlluniau hyn, ail-lansiwyd gwasanaethau X40 a T4, a'r rhwydwaith yn ei gyfanrwydd, o dan y brand TrawsCymru newydd. Byddai Gwasanaeth X40 beth i'w ail-rifo TC1 a T4 wedi dod yn TC4, ynghyd ag estyniad i'r de i Gaerdydd. Yn ystod 2012, roedd y ddau lwybr hyn i dderbyn Optar Tempos newydd gyda seddi ar ffurf coets, mwy o le i fagiau, gwybodaeth amser real a WiFi.[4]
Adolygu ac Ail-lansio
golyguYm Mehefin 2013, cafwyd adolygiad i'r gwasanaeth gan y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Harti rwydwaith TrawsCymru. Ymgymerwyd yr Adolygiad gan Dr Victoria Winckler, cyfarwyddwr y Sefydliad Bevan.[5] Cyhoeddwyd yr Adolygiad gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2014.
Cafwyd sawl argymhelliad gan adroddiad Dr Winckler's [6] a ddiffinodd TrawsCymru fel rhwydwaith o deithiau canolig-a-phell (diffinnir fel 25 milltir neu fwy), strategol bwysig, sy'n cysylltu trefi ar draw Cymru gan gyd-blethu gyda'r gwasanaeth rheilffyrdd.
Llwybrau
golygu- T1/T1S/T1C: Aberystwyth i Gaerfyrddin/Abertawe/Caerdydd
- T2: Bangor i Aberystwyth
- T4/T14: Y Drenewydd/Henffordd i Gaerdydd
- T5: Aberystwyth i Hwlffordd
- T6: Abertawe i Aberhonddu
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Our Network TrawsCymru
- ↑ http://www.trawscymru.info/news/2011/03/[dolen farw]
- ↑ "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Medi 2012. Cyrchwyd 17 Mai 2013.CS1 maint: archived copy as title (link)
- ↑ Tempo is the vehicle of choice for TrawsCymru Optare 27 March 2012
- ↑ "New buses diverted to Cardiff Airport". Transport Network. Cyrchwyd 23 December 2014.
- ↑ name="Review Of TrawsCymru">Winckler, Victoria. "Review Of TrawsCymru" (PDF). Cyrchwyd 23 December 2014.[dolen farw]