Traws Link Cymru
Mae Traws Link Cymru a elwir hefyd yn Ymgrch Rheilffordd Gorllewin Cymru yn fudiad sy'n ymgyrchu dros ail sefydlu’r rheilffyrdd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin ac Afon Wen a Bangor.
Math | cymdeithas |
---|---|
Sefydlwyd | Hydref 2013 |
Cefnogir gan | Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Wrecsam, Prifysgol Bangor, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Mark Isherwood, Mike Hedges, Elin Jones, Rebecca Evans, Byron Davies, Carwyn Jones, Angela Burns, William Graham, Bethan Jenkins |
Gwefan | http://trawslinkcymru.org.uk/language/index.html |
Caewyd y lein rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin yn y 1960au gan ynysu ardaloedd helaeth o Gymru. Mae'n bosib i hyn gael ei wneud yn fwriadol, yn benderfyniad gwleidyddol, wrth gwrs. Nod Traws Link Cymru yw ailagor y lein, a'r gorsafoedd er mwyn ailfywiogi'r ardaloedd maent yn rhedeg trwodd. Byddai eu hailagor yn helpu pobl leol i gymudo, yn hwyluso mynediad i wasanaethau iechyd, siopa ayyb, ac yn helpu myfyrwyr i fynychu prifysgolion yng Nghaerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan, Aberystwyth a Bangor. Yn ôl y mudiad, fe fyddai’n hwb i dwristiaeth yn yr ardal, ac yn lleihau'r nifer o gerbydau nwyddau trymion (megis pren, cynnyrch archfarchnad ayyb) o’r ffyrdd cul i’r rheilffordd, sy’n fwy diogel a chynaliadwy.
Yn Awst 2016 galwodd Jeremy Corbyn, arweinydd y blaid Lafur am ailagor lein Caerfyrddin – Aberystwyth. ac yn Hydref 2016 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru astudiaeth ddichonoldeb lawn gwerth £300k i ailagor y rheilffordd.