Trillo
sant Cymreig
Sant o Gymru o dras Lydewig oedd Trillo (fl. 6g).
Trillo | |
---|---|
Ganwyd | 6 g ![]() Llydaw ![]() |
Bu farw | 6 g ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | mynach ![]() |
Dydd gŵyl | 15 Mehefin ![]() |
Tad | Ithel Hael ![]() |
Hanes a thraddodiad
golyguNi wyddys nemor ddim amdano ond yn ôl un achrestr, roedd yn fab i Ithel Hael, pendefig o Lydaw a ddaeth drosodd o Lydaw i Gymru gyda llwyth Emyr Llydaw i ddianc rhag y Ffranciaid. Yn ôl yr achrestr yma, roedd ei frodyr a'i chwiorydd yn cynnwys Fflewyn, Tegai, Twrog, Llechid, a Baglan. Ei athro oedd Sant Cadfan.
Cysegrwyd eglwysi iddo yn Llandrillo-yn-Rhos (Sir Conwy) a Llandrillo-yn-Edeirnion (Meirionnydd).
Dethlir ei wylmabsant ar 15 Mehefin.