Fflewyn

sant Cymreig o'r 6g

Sant o Gymro oedd Fflewyn (fl. 6g). Ef yw sefydlwr traoddiadol a nawddsant eglwys Llanfflewyn, ym mhlwyf Llanrhuddlad ar Ynys Môn.

Fflewyn
GanwydGwynedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Blodeuodd6 g Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaLlanfflewyn, Hendy-gwyn Edit this on Wikidata
TadIthel Hael Edit this on Wikidata
PlantTanwg, Gredifael Edit this on Wikidata

Hanes a thraddodiad golygu

Ychydig iawn a wyddys am y sant ei hun. Dywed traddodiad ei fod yn fab i Ithel Hael (Ithael Hael). Ceir dwy achrestr o blant Ithel. Yn y gyntaf cyfeirir at y seintiau Tanwg a Gredifael (a Fflewyn) fel plant iddo. Cysylltir yr rhain â Gwynedd. Mae'r achrestr arall yn ei wneud yn frawd i'r seintiau Tecwyn, Tegai, Trillo, Twrog, Llechid, a Baglan.[1]

Dywedir fod Fflewyn yn un o oruchwylwyr clas enwog Hendy Gwyn ar Dâf, gyda'i frawd Gredifael.[1]

Dethlir gwylmabsant Fflewyn ar 11 Rhagfyr (neu'r 12fed).[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2001).