Llechid
Santes o'r 6g oedd Llechid, sefydlydd a nawddsant plwyf Llanllechid, yn Arllechwedd, Gwynedd.[1]
Llechid | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 6 g ![]() Gwynedd ![]() |
Man preswyl | Llanllechid ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Blodeuodd | 560 ![]() |
Dydd gŵyl | 1 Rhagfyr ![]() |
Tad | Ithel Hael ![]() |
Llinach Golygu
Y cwbl gwyddom amdani yw ei bod yn ferch i Ithel Hael (Ithael Hael). Dihangodd ei theulu o Lydaw gyda teulu Emyr Llydaw gan ymsefydlu ar arfordir gorllewin Gwynedd gyda chaniatâd teulu Maelgwn Gwynedd.[2] Ceir dwy achrestr o blant Ithel. Yn y gyntaf cyfeirir at y seintiau Tanwg Gredifael a Fflewyn fel plant iddo.[1] Cysylltir yr rhain â Gwynedd. Mae'r achrestr arall yn ei gwneud yn chwaer i'r seintiau Tecwyn, Tegai, Trillo, Twrog, a Baglan[1].
Ar un adeg bu Ffynnon Llechid yn ymyl hen eglwys ger y pentref. Dwedwyd fod dŵr y ffynnon yn medru wella afiechydon y croen a rhai mathau o'r dicáu.[1]
Ei gwylmabsant yw 1 Rhagfyr (neu'r 2il).
Gweler Hefyd Golygu
Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"