Thomas Mostyn a'r Barbari

Codwyd, o leiaf, pedwar tŵr ar arfordir gogledd Cymru gan Syr Thomas Mostyn rhag ymosodiadau y Berberiaid (neu'r 'Barbari') o Ogledd Affrica yn yr 16g a’r 17g. Dyma'r pedwar: Tŵr Bryniau (neu 'Cadair Freichiau Nain'), Cadair y Rheithor (Llandrillo yn Rhos), Bryn Tŵr (Abergele) a Thŵr Chwitffordd.

Golygfa gyffredinol o Dŵr Bryniau gyda’r Fardre ble bu Llys Maelgwn Gwynedd yn y cefndir

Pryder Teulu Mostyn golygu

Doedd hi ddim yn amser hapus i deulu Mostyn, Neuadd Gloddaeth, Llandudno, yn ystod yr 16g a’r 17g, er gwaetha’r ffaith mai nhw oedd tirfeddianwyr pwysicaf a chyfoethocaf yr arfordir sy'n ymestyn o Landudno tua dwyrain Sir y Fflint. Roedd Syr Thomas Mostyn dan y lach gan y Protestaniaid am fethu a dal y Catholigion oedd wedi bod yn argraffu Y Drych Cristionogawl yn anghyfreithlon yn Ogof Rhiwledyn.

Ond eu poen pennaf (fel y genhedlaeth o'u blaenau, ac wedyn) oedd Môr-ladron Barbari o Ogledd Affrica a oedd yn rheibio ardal Môr y Canoldir yn bennaf, ond cynyddodd yr ofnau pan ymosodwyd ar Baltimore, Swydd Corc, yn yr Iwerddon yn 1631. Chwalwyd y lle a dygwyd dros 100 o ddynion a merched ifanc yn gaethweision. Yn aml iawn byddent yn gyrru'r hen bobl a'r rhai methedig i eglwys y plwyf ac yn llosgi'r adeilad a lladd y trigolion.

Roedd gan Syr Thomas Mostyn lawer o ddyletswyddau, gan gynnwys bod yn Uchel Siryf Sir Fflint, Sir Gaernarfon a Sir Fôn. Rhaid oedd meddwl am ffyrdd, a hynny ar frys i atal y môr-ladron dieflig hyn pe baent yn ymosod ar Ogledd Cymru a'r rhai a ofnid fwyaf oedd y Môr-ladron Barabari. Roedd rhain yn gwneud i rai fel Barti Ddu a Harri Morgan edrych fel angylion, meddan nhw!

 
Un o'r môr-ladron dieflig a baentiwyd gan Pier Francesco Mola tua 1650
 
Llongau y Barbari yn ymosod

Codi tyrau golygu

1. Tŵr Bryniau golygu

Cyfeirnod Map SH78558030

 
Tŵr Bryniau - ar lafar 'Cadair Freichiau Nain'.

Penderfynodd Thomas Mostyn godi Tŵr Bryniau, sy’n grwn ac yn 4.7 metr o ddiamedr gyda waliau 1.2 medr o drwch ac yn 4.8 metr o uchder gyda cherrig i’w ddefnyddio fel tŵr gwylio tu ôl i ble mae Ysbyty Llandudno heddiw. Oddi yno gellid gweld llawer o’r arfordir a’r wlad o gwmpas.

Ceir enw hyfrydr-ladron dieflig arno yn y Gymraeg, sef 'Cadair Freichiau Nain'!

2. Eglwys Rhos golygu

 
Tŵr ychwanegol Eglwys Rhos. Ei enw ar lafar yw 'Cadair y Rheithor

Cyfeirnod Map: SH8321780647 Doedd hynny ddim yn ddigon i Syr Thomas Mostyn! Yna, yn Eglwys Rhos, yn Llandrillo yn rhos, cododd dŵr uwchben y tŵr gwreiddiol a gelwid hwnnw yn ‘Gadair y Rheithor’. Roedd yr eglwys wedi ei hail-adeiladu yn 1552, a chodwyd y Tŵr Gwylio yn ystod yr 17g, a gwyngalchwyd muriau’r eglwys i helpu llongwyr oedd yn hwylio heibio. Roedd yn bosib gweld o un i’r llall ac anfon neges drwy dân i rybuddio, os oedd angen.

3. Tŵr Abergele golygu

 
Tŵr Abergele -Bryn Tŵr

Cyfeirnod Map SH95247598 Doedd dim diwedd ar ofnau Teulu Mostyn! Ar Gallt y Felin Wynt, gallt uwchben y dref a elwid yn 'Bryn Tŵr' yn y Gymraeg a Tower Hill yn Saesneg, codwyd tŵr gwylio arall yn ystod yr 17g, ac fe’i hadnewyddwyd yn rhannol yn ystod 1930.

4. Tŵr Chwitffordd golygu

 
Tŵr Allt y Garreg, Chwitffordd

Cyfeirnod Map: SJ13367826 Na, doedd dim diwedd ar ofnau Teulu Mostyn! Mae tŵr crwn ar Allt y Garreg yn Chwitffordd yn edrych dros aber Afon Dyfrdwy. Dywed rhai ei fod yn wreiddiol yn Oleudy Rhufeinig, ond does dim i brofi hynny. Yn fwyaf tebygol fe’i codwyd yn ystod yr 17g ac fe’i henwir fel melin yn map Stad Mostyn yn 1732, ond hefyd sonnir amdano fel ‘tŵr gwylio’ am fôr-ladron. Cafodd ei adnewyddu yn 1897 i gofio am Ddathliadau Diemwnt y Frenhines Fictoria.

Felly, roedd gan Deulu Mostyn bedwar tŵr i gadw golwg ar fôr-ladron Barbari ac roedd yn bosib anfon neges o'r naill i'r llall (drwy gynnau coelcerth, rhan amlaf) pan oedd angen. Er hynny, does yna ddim tystiolaeth bod ‘Môr-ladron Barbari’ wedi ymosod ar Ogledd Cymru.

Tyrau eraill golygu

Mewn erthygl yn Archaeologia Cambrensis, ym 1964 nododd yr hanesydd George Lloyd bod tystiolaeth am fodolaeth, o leiaf, tri thŵr arall yn y gadwyn. Roedd un ym Merw Uchaf ger Gaerwen, a chafodd ei ddymchwel ym 1920, roedd un ger Mynytho (oedd dal yn sefyll ym 1964) ac un ar Fynydd Caergybi, oedd wedi ei hen ddymchwel. Disgrifiodd Thomas Pennant y tyrau yn Neganwy, Abergele a Chwitffordd fel pharos, neu oleudai Rhufeinig yn ei lyfr Tour in Wales, dyna oedd ei farn am dŵr a arferai sefyll ar Ben y Gaer, Caergybi hefyd. Awgryma Lloyd fod bodolaeth y tyrau eraill hyn yn awgrymu'n gryf bod nifer fwy o dyrau coll yn rhan o'r gadwyn.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu