Unbennaeth Prydain

Am anthem modern Cymru gweler: Hen Wlad fy Nhadau

Unbennaeth neu Unbeinyaeth [1] Prydein oedd hen anthem neu gerdd genedlaethol yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol Cynnar. Yr oedd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i feirdd llysoedd brenhinol Aberffraw, Dinefwr, Mathrafal, a Chaerllion[2][3] i ddilyn y fyddin[4] ac i adrodd y gân cyn ac ar ôl pob brwydr.[1][5]

Unbennaeth Prydain
Enghraifft o'r canlynolanthem genedlaethol Edit this on Wikidata

Am y gwasanaeth hwn, derbyniodd y bardd yr ail anifail gorau o'r ysbail ar ôl y brenin[4] a chafodd ei brisio yn 126 o wartheg.[5]

Er fod y cyfansoddiad wedi ei golli, cymerwn yn ganiataol ei fod yn adrodd campau hen frenhinoedd y Brythoniaid. Yn ei sylwebaeth ar Gyfreithiau Hywel Dda, pwysleisiodd yr ysgolhaig Arthur Wade-Evans fod y Prydein a grybwyllwyd yn cyfeirio at diroedd y Brython (sef y Cymry a'u cydwladwyr yng Nghernyw a Cumberland) ac nid o reidrwydd at holl dalaith Prydain Rufeinig., heb sôn am holl ynys Prydain Fawr. [1]

Mae'n debygol fod y gân yn cyfeirio'n agosach at Faterion Prydain (Trioedd Ynyd Prydain) a Sieffre o Fynwy nag at gofnodion y beirdd cynnar fel Taliesin.[6]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Wade-Evans, Arthur. Welsh Medieval Law. Oxford Univ., 1909. Accessed 1 Feb 2013.
  2. Williams, Edward. The Iolo MSS. Rees (Llandovery), 1848. Accessed 1 Feb 2013.
  3. Laws of Hywel Dda, I.
  4. 4.0 4.1 Jenkins, John. Poetry of Wales. Houlston & Sons (London), 1873. Accessed 1 Feb 2013.
  5. 5.0 5.1 Bradley, A.G. Owen Glyndwr and the Last Struggle for Welsh Independence. G.P. Putnam's Sons (New York), 1901. Accessed 1 Feb 2013.
  6. Nash, D.W. Taliesin or Bards and Druids of Britain[dolen farw]. Kessinger, 2003. Accessed 1 Feb 2013.