Brenin y Brythoniaid

brenin y Cymru yn Oes y Celtiaid ac wedi ymadawiad y Rhufeiniad
Gweler hefyd: Brenin Cymru a Tywysog Cymru

Cyn teitl Brenin neu Dywysog Cymru, defnyddiwyd y teitl Brenin y Brythoniaid (Rex Britannorum) i ddisgrifio Brenin y Brythoniaid Celtaidd, hynafiaid y Cymry, cyn ac ar ôl goresgyniad y Rhufeiniaid.[1]

Brenin y Brythoniaid
Llun o Peniarth MS28, Hywel Dda.
Enghraifft o'r canlynolswydd Edit this on Wikidata
Mathbrenin Edit this on Wikidata
Olynwyd ganTywysog Cymru Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Brenhinoedd golygu

Brenin oedd y teitl a ddefnyddiai rheolwyr Cymreig cyn i'r term "tywysog" gael ei fabwysiadu. Serch hynny nid y tywysogion oedd y cyntaf i geisio uno Cymru dan un penarglwydd.

Brenhinoedd Amlwg golygu

  • Llwyddodd Rhodri Mawr, brenin Gwynedd (844-878), i ychwanegu Powys (855-878) a Seisyllwg (871-878) at ei deyrnas.
  • Llwyddodd Hywel Dda, brenin Seisyllwg (900-950), i ddod yn frenin ar Ddyfed (904-950), Brycheiniog (930-950), Gwynedd a Phowys (942-950).
  • Roedd Maredudd ab Owain, brenin Deheubarth (986-999) hefyd yn teyrnasu ar Wynedd a Phowys (986-999).
  • Daeth Gruffudd ap Llywelyn yn frenin ar Gymru gyfan. Daeth yn frenin ar Wynedd a Phowys ym 1039, Deheubarth ym 1055, a gweddill Cymru ym 1058 tan ei farw ym 1063.

Rhestr Brenin y Brythoniaid golygu

Enw Llun Cyfnod Teyrnas Teitl Ffynhonell
Mae breninoedd cyn y cyfnod hwn yn cael eu hystyried: Brenhinoedd Chwedlonol Ynys Prydain
Caswallon fab Beli
 
54 BC
Tasciovanus 20 BC – AD 9
Cynfelyn
 
"Cymbeline", Shakespeare.
9-40 AD Tiroedd y Catuvellauni a'r Trinovantes
Togodumnus 40-43 Tiroedd y Regni, Atrebates a Belgae
Caradog
 
43-50
(Rhelaeth Rufeinig)
Gwrtheyrn
 
Myrddin yn darllen i frenin Gwrtheyrn.
Canol y 5ed ganrif
Riothamus c. 469
Emrys Wledig
 
Emrys Wledig.
Hwyr yn y 5ed ganrif
di-enw c. 545
Maelgwn Gwynedd
 
Maelgw Gwynedd.
?–549? Teyrnas Gwynedd
Selyf ap Cynan ?–c. 613 Powys
Ceredig ap Gwallog c. 614 – 617 Elmet
Cadwallon ap Cadfan
 
?–634 Gwynedd
Idris ap Gwyddno ?–635
Eugein I of Alt Clut c. 642 Strathclyde
Cadwaladr
 
Cadwaladr
c. 654 – c. 664 Teyrnas Gwynedd
Geraint of Dumnonia ?670–c. 710 Dumnonii
Rhodri Molwynog ap Idwal c. 712 – 754 Teyrnas Gwynedd
Cynan Dindaethwy ap Rhodri 798–816 Teyrnas Gwynedd (o 754)
Merfyn Frych 825–844 Teyrnas Gwynedd
Rhodri Mawr 844–878 Teyrnas Gwynedd o 855, Teyrnas Powys o 872 a Seisyllwg
Anarawd ap Rhodri 878–916 Teyrnas Gwynedd
Idwal Foel 916–942 Teyrnas Gwynedd
Hywel Dda
 
942–950 Teyrnas Deheubarth o 920 ac o 942; Teyrnas Gwynedd a Teyrnas Powys
Dyfnwal Moelmud 930s–970s Strathclyde
Maredudd ab Owain 986–999 Teyrnas Deheubarth, Teyrnas Gwynedd, Teyrnas Powys
Llywelyn ap Seisyll 1018–1023 Teyrnas Gwynedd a Teyrnas Powys ac o 1022, Teyrnas Deheubarth
Iago ab Idwal 1023–1039 Teyrnas Gwynedd a Teyrnas Powys
Gruffudd ap Llywelyn 1039–1063 Teyrnas Gwynedd a Teyrnas Powys ac o 1057, gweddill Cymru
Bleddyn ap Cynfyn 1063–1075 Teyrnas Gwynedd a Teyrnas Powys a Seisyllwg
Rhys ap Tewdwr 1079–1093 Teyrnas Deheubarth o 1081
Defnydd o'r Teitl Brenin Cymru a Tywysog Cymru yn dechrau
Gruffudd ap Cynan   1136–1137 Gwynedd

(o 1081)

Brenin y Cymry oll (yn 1137) Brut y Tywysogion
Owain Gwynedd   1137–1170 Gwynedd Tywysog dros y genedl Brydeinig

(yn 1146); Brenin Cymru, Brenin Y Cymry, Tywysog y Cymry

Brut y Tywysogion; siarteri cyfoes[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Kari Maund (2000). The Welsh Kings: The Medieval Rulers of Wales. Tempus. ISBN 0-7524-2321-5.
  2. Carpenter, David (2003). The struggle for mastery: Britain 1066–1284. ISBN 9780140148244.