Ustrasana (Y Camel)
Asana penlinio o fewn ioga yw Ustrasana (Sansgrit: उष्ट्रासन; IAST: Uṣṭrāsana), Ushtrasana, neu'r Camel[1]; yn y safle yma, plygir y cefn yn ôl. Fe'i ceir hefyd o fewn ioga modern fel ymarfer corff.
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas penlinio, ioga Hatha |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Geirdarddiad
golyguDaw'r enw o'r geiriau Sansgrit उष्ट्र Uṣṭra, "camel",[2] a आसन, Asana sy'n golygu "osgo" neu "safle'r corff".[3]
Mae gwahanol asana (un lle mae'r corff yn sefyll) hefyd, yn y gorffennol, wedi defnyddio'r un enw, Ushtrasana, yn y 19g mewn testun o'r enw Sritattvanidhi.[4] Disgrifir yr asana modern yn yr 20g gan ddau o ddisgyblion Krishnamacharya, Pattabhi Jois yn ei Ioga Ashtanga Vinyasa,[4] a BKS Iyengar yn ei Light on Yoga.[5]
Disgrifiad
golyguTro dwfn tuag yn ôl yw Ustrasana o safle penlinio; mae'r ystum gorffenedig â'r dwylo ar y sodlau.[6] Gall cefnau'r traed fod yn wastad ar y llawr, neu gall bysedd y traed fod wedi'u cuddio oddi tano am dro bach llai cryf.[7]
Amrywiadau
golyguRhoddir yr enw Ardha Ustrasana, Hanner camel, i ddau asana gwahanol. Mae gan un ddwylo ar y cluniau;[8] mae gan y llall un llaw ar y sawdl ar yr un ochr, fel yn yr asana llawn, a'r fraich arall yn ymestyn yn ôl dros y pen.[9]
Gellir addasu'r osgo trwy ddarparu cynhalydd fel brics ioga wrth ymyl y ffer ar gyfer y dwylo.[7]
Gweler hefyd
golyguLlyfryddiaeth
golygu- Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Unwin Paperbacks. ISBN 978-1855381667.
- Jain, Andrea (2015). Selling Yoga : from Counterculture to Pop culture. Oxford University Press. ISBN 978-0-19-939024-3. OCLC 878953765.
- Newcombe, Suzanne (2019). Yoga in Britain: Stretching Spirituality and Educating Yogis. Bristol, England: Equinox Publishing. ISBN 978-1-78179-661-0.
- Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. ISBN 81-7017-389-2.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Yoga Journal - Camel Pose". Cyrchwyd 11 April 2011.[dolen farw]
- ↑ "Dhanurasana". AshtangaYoga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 April 2011. Cyrchwyd 11 April 2011.
- ↑ Sinha, S. C. (June 1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
- ↑ 4.0 4.1 Sjoman 1999.
- ↑ Iyengar 1979.
- ↑ Pizer, Ann (7 Chwefror 2019). "How to Do Camel Pose (Ustrasana) in Yoga". Very Well Fit. Cyrchwyd 25 April 2019.
- ↑ 7.0 7.1 Swanson, Ann (2019). Science of yoga : understand the anatomy and physiology to perfect your practice. DK Publishing. tt. 76–79. ISBN 978-1-4654-7935-8. OCLC 1030608283.
- ↑ "Camel pose modifications, half Camel pose for beginners, ardha ustrasana steps and benefits". Vishwanti Yoga. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2019.
- ↑ "Half Camel | Ardha Ustrasana". Yoga Basics. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2019.