Uwchgynhadledd NATO, 2014
Chweched uwchgynhadledd ar hugain NATO oedd Uwchgynhadledd NATO, 2014. Cafodd ei chynnal yng ngwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd[1] ar 4–5 Medi 2014.[2] Hon oedd y drydedd uwchgynhadledd gan NATO yn y Deyrnas Unedig, a'r cyntaf y tu allan i Lundain. Un o'r ymwelydd oedd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama; ymwelodd ef gydag David Cameron ag ysgol gynradd yng Nghasnewydd, sef Ysgol Mount Pleasant.[3] Ymhlith y materion a drafodwyd yn y gynhadledd roedd y sefyllfa yn yr Wcráin a therfysgwyr IS.
Enghraifft o'r canlynol | NATO summit |
---|---|
Dyddiad | Medi 2014 |
Label brodorol | 2014 Wales summit |
Dechreuwyd | 4 Medi 2014 |
Daeth i ben | 5 Medi 2014 |
Rhagflaenwyd gan | 2012 NATO Summit in Chicago |
Olynwyd gan | 2016 Warsaw summit |
Lleoliad | Celtic Manor Resort |
Enw brodorol | 2014 Wales summit |
Gwefan | https://www.gov.uk/government/topical-events/nato-summit-wales-cymru-2014 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Logo
golyguCyhoeddodd Anders Fogh Rasmussen, Ysgrifennydd Cyffredinol NATO, a William Hague, Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig, logo swyddogol yr uwchgynhadledd ar 25 Mehefin 2014.[4] Rhennir y logo yn bedwar sgwâr. Logo NATO yw'r sgwâr chwith uchaf, a'r enwau "NATO" ac "OTAN" mewn gwyn ar gefndir du sydd yn y sgwâr chwith isaf. Yn y sgwâr dde uchaf mae'r testun "WALES SUMMIT/4–5.IX.2014/SOMMET DU PAYS DE GALLES". Mae'r sgwâr dde isaf yn cynnwys llun o gastell, draig goch, cwlwm Celtaidd a Phont Gludo Casnewydd. Mae'r logo yn defnyddio'r Saesneg a'r Ffrangeg, dwy iaith swyddogol NATO, ond nid y Gymraeg. Mae'r castell yn symboleiddio hanes Cymru (mae mwy o gestyll i’r filltir sgwâr yng Nghymru nac yn unrhyw wlad arall yn y byd), mae'r ddraig yn symboleiddio ysbryd Cymru ("Y Ddraig Goch Ddyry Gychwyn"), mae'r cwlwm Celtaidd yn cynrychioli treftadaeth Cymru (ac yn symbol o bedwar pwynt y cwmpawd a’r bedair elfen, sef Dŵr, Tân, y Ddaear a’r Awyr), a'r Bont Gludo yn cynrychioli'r ddinas sy'n cynnal yr uwchgynhadledd.[5]
Dywedodd Rasmussen, "dyma dapestri bywiog sydd yn cynnig symbolau cryf o Gymru mewn ffordd fodern", a bod y cwlwm Celtaidd yn ogystal "yn cynrychioli'r rhwymau cadarn sy'n clymu cynghreiriaid NATO at ei gilydd".[4] Yn ôl Hague[5] a rhai ffynonellau[6] Castell Caerdydd yw'r castell yn y logo, ond yn ôl nifer o ffynonellau eraill cestyll Cymru yn gyffredinol y mae'r llun yn symboleiddio.[7][8] Beirniadwyd y logo gan arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd[9] ac eraill am ei fod yn defnyddio enw Cymru i ddynodi lleoliad yr uwchgynhadledd yn hytrach na Chasnewydd, er bod enw'r ddinas wedi ei ddefnyddio ar logo pob cynhadledd ers 2006.[8][10]
Protestiadau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Casnewydd: lleoliad uwchgynhadledd Nato. BBC (31 Hydref 2013). Adalwyd ar 21 Tachwedd 2013.
- ↑ (Saesneg) NATO Secretary General announces dates for 2014 Summit. NATO (15 Tachwedd 2013). Adalwyd ar 21 Tachwedd 2013.
- ↑ Golwg360; 4 Medi 2014; adalwyd hefyd ar 4 Medi 2014.
- ↑ 4.0 4.1 (Saesneg) NATO Wales Summit Logo unveiled by foreign ministers. NATO (25 Mehefin 2014). Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2014.
- ↑ 5.0 5.1 Dadlennu logo Uwchgynhadledd NATO Cymru 2014. Llywodraeth y Deyrnas Unedig (25 Mehefin 2014). Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2014.
- ↑ (Saesneg) A dragon, a castle, a Celtic knot and the Newport Transporter Bridge? NATO unveils its new logo ahead of September summit. WalesOnline (25 Mehefin 2014). Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2014.
- ↑ Nato: Trafod agenda Casnewydd. Golwg360 (25 Mehefin 2014). Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2014.
- ↑ 8.0 8.1 NATO: Dadorchuddio logo Casnewydd. Golwg360 (25 Mehefin 2014). Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2014.
- ↑ (Saesneg) Newport Nato summit symbol is 'just a logo' - city leader. South Wales Argus (2 Gorffennaf 2014). Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2014.
- ↑ (Saesneg) Newport snubbed with focus on Wales for Nato summit. South Wales Argus (27 Mehefin 2014). Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Galw am osod NATO ym min hanes", Y Cymro, 8 Tachwedd 2013, t. 2.
- ↑ NATO – CND am brotestio. Golwg360 (1 Tachwedd 2013). Adalwyd ar 21 Tachwedd 2013.