Uwchgynhadledd yr G7, 2023
Cynhaliwyd 49ain Uwchgynhadledd yr G7 o Ddydd Gwener 19 Mai i Ddydd Sul 21 Mai 2023 yn Hiroshima, yn Japan a oedd yn llywyddu'r fforwm y flwyddyn honno. Cyfarfu pennau llywodraethol y saith gwlad sydd yn aelodau'r G7: Fumio Kishida, Prif Weinidog Japan; Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig; Joe Biden, Arlywydd Unol Daleithiau America; Olaf Scholz, Canghellor yr Almaen; Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc; Giorgia Meloni, Prif Weinidog yr Eidal; a Justin Trudeau, Prif Weinidog Canada. Yno hefyd bu Ursula von der Leyen, Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, a Charles Michel, Arlywydd y Cyngor Ewropeaidd, y ddwy swydd a wahoddir fel rheol i gynrychioli'r Undeb Ewropeaidd yn yr uwchgynhadledd. Gwahoddwyd hefyd arweinwyr o naw gwlad arall—Narendra Modi, Prif Weinidog India; Joko Widodo, Arlywydd Indonesia; Luiz Inácio Lula da Silva, Arlywydd Brasil; Yoon Suk Yeol, Arlywydd De Corea; Anthony Albanese, Prif Weinidog Awstralia; Phạm Minh Chính, Prif Weinidog Fietnam; Volodymyr Zelenskyy, Arlywydd Wcráin; Azali Assoumani, Arlywydd y Comoros (i gynrychioli'r Undeb Affricanaidd); a Mark Brown, Prif Weinidog Ynysoedd Cook (i gynrychioli Fforwm Ynysoedd y Cefnfor Tawel)[1][2]—a saith o benaethiaid sefydliadau rhyngwladol, sef António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig; Kristalina Georgieva, Rheolwraig-Cyfarwyddwraig y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF); David Malpass, Llywydd Banc y Byd; Tedros Adhanom Ghebreyesus, Cyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO); Ngozi Okonjo-Iweala, Cyfarwyddwraig Cyffredinol Sefydliad Masnach y Byd (WTO); Mathias Cormann, Ysgrifennydd Cyffredinol y Sefydliad dros Gydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD); a Fatih Birol, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Asiantaeth Ynni Ryngwladol (IEA). Hon oedd yr uwchgynhadledd gyntaf a fynychwyd gan y Prif Weinidogion Sunak a Meloni.
Arweinwyr gwledydd yr G7 a'r Undeb Ewropeaidd yng Nghysegrfan Itsukushima ar 19 Mai 2023. O'r chwith i'r dde: Michel, Meloni, Trudeau, Macron, Kishida, Biden, Scholz, Sunak, a von der Leyen. | |
Enghraifft o'r canlynol | G7 summit |
---|---|
Dyddiad | Mai 2023 |
Dechreuwyd | 19 Mai 2023 |
Daeth i ben | 21 Mai 2023 |
Rhagflaenwyd gan | 48th G7 summit |
Olynwyd gan | Uwchgynhadledd yr G7, 2024 |
Lleoliad | Grand Prince Hotel Hiroshima |
Gwladwriaeth | Japan |
Gwefan | https://www.g7hiroshima.go.jp/, https://www.g7hiroshima.go.jp/en/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ar agenda'r uwchgynhadledd oedd newid hinsawdd, chwyddiant a diogelwch bwyd, Rhyfel Rwsia yn Wcráin, ac atal amlhau niwclear.[1][3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) "G7 Hiroshima Summit 2023: when is it, who will attend and what's on agenda?", Reuters (10 Mai 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Mai 2023.
- ↑ (Saesneg) Laura Bicker, "G7 summit: Why there are eight more seats at the table this year", BBC (18 Mai 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mehefin 2023.
- ↑ (Saesneg) "Issues to be addressed at the G7 Hiroshima Summit", Uwchgynhadledd Hiroshima G7 2023. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 21 Mai 2023.
Dolen allanol
golygu- (Japaneg) (Saesneg) Gwefan swyddogol